Cwestiynau Cyffredin
Pam wnaethom ni benderfynu cael gwared a dirwyon am lyfrau hwyr?
Yn CNPT, rydym am i'n llyfrgelloedd fod yn gwbl hygyrch a chroesawgar i bawb, felly mae cael gwared a dirwyon ar lyfrau hwyr yn un o'r ffyrdd rydym yn teimlo y gallwn ddileu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio’r llyfrgell.
Penderfynodd llyfrgelloedd CNPT cael gwared a dirwyon ar lyfrau i blant a phobl ifanc o dan 18 oed nifer o flynyddoedd yn ôl. Cyflwynwyd hyn gan y gwelwyd bod dirwyon yn rhwystr i bobl ifanc a theuluoedd gael mynediad i'r llyfrgell. O ganlyniad i hyn rydym nawr wedi penderfynu gwneud yr un peth a llyfrau oedolion sy’n dod 'nôl yn hwyr.
Dylai bawb cael mynediad at lyfrau, y gwasanaethau, a'r deunyddiau sydd eu hangen arnynt i ddilyn eu hamcanion addysg, gyrfa a bywyd. Rydym ni yma i helpu gwella'ch bywyd, nid ychwanegu at straen a’ch heriau.
A fydd pobl yn cadw’r llyfrau os nad ydyn nhw'n cael dirwyon?
Gall dirwyon fod yn wrthgynhyrchiol. Bydd rhai pobl yn cadw llyfrau maen nhw'n gwybod sy'n hwyr er mwyn peidio â gorfod talu dirwyon. Trwy gael gwared ar ddirwyon mae pobl yn tueddu dod a’r llyfrau hwyr yn ôl yn gynt, sy'n golygu gall mwy o fenthycwyr ddarllen mwy o lyfrau.
Ydy hyn yn golygu y gall unrhyw un gadw eitem llyfrgell am byth?
Na. Yn union fel o’r blaen, gellir benthyg llyfrau am dair wythnos ar y tro, yr un faint o amser a Cd’s a gair llafar, tra bod DVD’s am un wythnos. Yn union fel o’r blaen, os ydych yn cadw deunyddiau llyfrgell rhy hir, mae’r llyfr yn mynd ‘ar goll’, felly byddwn yn dal i godi tâl am eitemau coll.
A fydd tâl o hyd am eitemau sydd ar goll neu wedi eu difrodi?
Bydd. Byddwn dal i godi tâl am eitemau sydd wedi'u difrodi. Yn union fel o'r blaen, os gwnaethoch chi rwygo, torri, sgriblo, neu socian yr eitem, gallwn godi ffi neu bris amnewid llawn am yr eitem.
Gofynnwch aelod o staff y llyfrgell am gyngor.
Felly, beth mae hyn yn ei olygu i chi?
• Os ydych yn dychwelyd llyfrau hwyr i'n llyfrgell, ni fyddwch bellach yn derbyn dirwy ddyddiol ar eitemau hwyr.
• Rydych dal yn gyfrifol am ddychwelyd eich eitemau nol i’r llyfrgell.
• Bydd y llyfrgell yn anfon cyfres o nodiadau atgoffa atoch i ddychwelyd neu adnewyddu eich eitemau.
• Gallwch chi adnewyddu llyfrau trwy ffonio eich llyfrgell leol neu ar-lein.
• Bydd eitemau sy'n hwyr yn 6 mis neu fwy yn eu hystyried ar goll a byddwch yn derbyn bil amdanynt.
• Os dychwelwch yr eitemau, bydd y tâl ei glirio o'ch cyfrif. Unwaith eto, byddwn yn deall os ydy’r eitemau yn hwyr gan ein bod ni eisiau ein heitemau yn ôl!
Hysbysiadau Atgoffa
• Rydym wedi diweddaru ein hysbysiadau awtomatig i adlewyrchu newidiadau dirwy ac adnewyddiadau awtomatig.
• Anfonir hysbysiadau yn gynharach ac yn amlach i'ch helpu i gadw chi gwybod ar ddyddiadau dyledus yr eitem.
• Bydd y llyfrgell yn anfon negeseuon awtomataidd trwy e-bost, ffôn, neu destun yn dibynnu ar eich dewis.
• Rydym yn cynghori eich bod yn mewngofnodi i'ch cyfrif llyfrgell i gael unrhyw wybodaeth newydd.