Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Rhan A

Rhagarweiniad

Yn ôl Deddf Gamblo 2005, mae'n ofynnol i'r cyngor (y cyfeirir ato o hyn allan fel yr "Awdurdod Trwyddedu") baratoi a chyhoeddi "Datganiad o Drwyddedu" a adwaenir fel y Polisi Gamblo sy'n amlinellu'r egwyddorion y mae'r Awdurdod Trwyddedu'n bwriadu eu defnyddio wrth arfer ei swyddogaethau trwyddedu o dan y Ddeddf.

Daw'r Polisi hwn i rym ar 31 Ionawr 2022. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu hwn yn diweddaru ac yn cyhoeddi Polisi Trwyddedu newydd pryd bynnag y bo'r angen, ond mewn unrhyw achos, o fewn 3 blynedd o ddyddiad y polisi hwn, a bydd yn ymgynghori'n llawn â phartneriaid, cymdeithasau masnach a grwpiau preswylwyr fel sy'n briodol ar yr adeg honno, a bydd unrhyw sylwadau a dderbynnir yn cael eu hystyried ar yr adeg honno.

Fodd bynnag, lle bydd angen diweddariadau oherwydd newidiadau i ddeddfwriaeth genedlaethol, arweiniad statudol neu fanylion cyswllt, mae'r Awdurdod Trwyddedu'n cadw'r hawl i ddiwygio'r polisi hwn heb ymgynghori lle bydd angen sicrhau bod y polisi'n adlewyrchu deddfwriaeth genedlaethol neu arweiniad statudol.

Wrth lunio'r Datganiad Polisi terfynol, bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n datgan ei fod wedi ystyried amcanion trwyddedu Deddf Gamblo 2005, yr Arweiniad i Awdurdodau Trwyddedu a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Gamblo, unrhyw godau arfer ac unrhyw ymatebion gan y sawl yr ymgynghorwyd â hwy ar y Datganiad Polisi.

Mae gan yr Awdurdod Trwyddedu rwymedigaeth gyfreithiol i gydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, ac mae ganddo bolisi ar waith i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb. Bydd trwyddedu pobl a mangreoedd o dan Ddeddf Gamblo 2005 yn mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb gwasanaeth a gorfodi i holl aelodau'r gymuned.

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn cynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon i Awdurdod Lleol weithredu mewn ffordd nad yw'n gyson â hawl o'r fath. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried y Ddeddf Hawliau Dynol wrth ystyried unrhyw faterion trwyddedu, ac yn arbennig o ran y ffordd yr ystyrir ceisiadau ac y cynhelir gweithgareddau gorfodi.

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n cydnabod y gall fod angen iddo wyro oddi wrth y polisi hwn a'r arweiniad a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf mewn amgylchiadau unigol ac eithriadol, a lle bydd yr achos yn haeddu penderfyniad o'r fath er budd hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Cymerir unrhyw benderfyniad o'r fath drwy ymgynghori ag ymgynghorwyr cyfreithiol priodol yr Awdurdod Trwyddedu, a chofnodir y rhesymau dros unrhyw wyriad o'r fath yn llawn.

Dylid nodi na fydd y datganiad o egwyddorion hwn yn sarnu hawl unrhyw berson i wneud cais, neu gyflwyno sylw am gais, neu wneud cais am adolygu trwydded, oherwydd caiff pob un ei ystyried yn ôl ei haeddiant ac yn ôl gofynion statudol Deddf Gamblo 2005.

Ymgynghoriad

Yn unol â gofynion y Ddeddf, mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi ymgynghori'n helaeth cyn cyhoeddi'r datganiad o egwyddorion hwn. Ceir rhestr o ymgyngoreion yn Atodiad 2. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2021.

Cymeradwywyd y datganiad o egwyddorion mewn cyfarfod o'r Cyngor llawn ar 22 Rhagfyr 2021 ac fe'i cyhoeddwyd ar ein gwefan ar 22 Rhagfyr 2021. Mae copïau wedi'u rhoi mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ac maent hefyd ar gael yng Nghanolfannau Dinesig Castell-nedd a Phort Talbot. Os bydd gennych unrhyw sylwadau am y datganiad o egwyddorion hwn, neu os ydych am weld y rhestr lawn o sylwadau ac ystyriaethau'r awdurdod ynghylch y sylwadau hynny, anfonwch hwy drwy e- bost neu lythyr at y:

Rheolwr Rheoleiddi Cyfreithiol

Gwasanaethau Rheoleiddio Cyfreithiol

Drwyddedu  Canolfan Ddinesig

Port Talbot, SA13 1PJ

LRS@npt.gov.uk

Proffil Ardal Leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot ardal ddaearyddol o 441km2 a dyma’r nawfed cyngor mwyaf yng Nghymru, gyda phoblogaeth o 144,386 (yr 11eg o ran dwysedd ei phoblogaeth).

Mae'r cyngor wedi mabwysiadu Cynllun Corfforaethol (2018- 2022) a Chynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell- nedd Port Talbot (2018 – 2023)

Mae cynllun corfforaethol y cyngor yn nodi amcanion lles y cyngor sydd wedi’u gosod er mwyn mwyafu cyfraniad y cyngor at y saith nod llesiant cenedlaethol wrth gyflawni ei ddyletswydd i wella lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phontardawe ac i gyflawni datblygiadau cynaliadwy. Mae’r cynllun hefyd yn pennu blaenoriaethau ar gyfer gwella ac yn disgrifio sut mae’r cyngor yn newid y ffordd y mae’n gwneud pethau i ddiwallu anghenion ei gymunedau.

Mae Cynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell- nedd Port Talbot yn nodi gweledigaeth tymor hir y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer yr ardal ynghyd â blaenoriaethau gweithredu dros y 5 mlynedd nesaf. Mae'r cynllun yn cynnwys amcanion lles a nodwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn disgrifio’r camau ymarferol y bydd y bwrdd yn eu cymryd i gyflawni’r amcanion.

Mae’r Awdurdod Trwyddedu’n disgwyl i’r rheiny sy’n dymuno gweithredu mangreoedd gamblo yng Nghastell-nedd Port Talbot fod yn gyfarwydd â Chynllun Corfforaethol y cyngor a Chynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac yn rhoi sylw i’r amcanion lles y mae’r bwrdd a’r cyngor yn ceisio’u cyflawni.

Bydd disgwyl bod gweithredwyr wedi ystyried yr amcanion lles prodol yn eu hasesiadau risg fel y’u hamlinellir ym mharagraff 39 y polisi hwn, gan roi sylw arbennig i amddiffyn plant rhag niwed a’r lefelau uchel o amddifadedd a dyled bersonol yng Nghastell- nedd Port Talbot.

Amcanion Trwyddedu

Wrth arfer y rhan fwyaf o'i swyddogaethau o dan Ddeddf Gamblo 2005 (y Ddeddf), mae'n rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu ystyried yr amcanion trwyddedu fel y'u hamlinellir yn Adran 1 y Ddeddf ac fel y'u nodir isod:-

  • Atal gamblo rhag achosi troseddu neu anhrefn, bod yn gysylltiedig â throseddu neu anhrefn neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu.
  • Sicrhau bod gamblo'n digwydd mewn modd teg ac
  • Diogelu plant a phobl ddiamddiffyn eraill rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio drwy

Dylid nodi bod y Comisiwn Gamblo wedi datgan "Mae'r gofynion o ran plant yn benodol i'w diogelu rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio gan gamblo".

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n ymwybodol, yn unol ag Adran 153 y Ddeddf, wrth wneud penderfyniadau am drwyddedau mangre a hysbysiadau o ddefnydd dros dro, y dylai geisio caniatáu'r defnydd o'r fangre at ddiben gamblo i'r graddau ei fod yn meddwl bod hynny:-

  • yn unol ag unrhyw gôd ymarfer perthnasol a gyhoeddir gan y Comisiwn Gamblo;
  • yn unol ag unrhyw arweiniad perthnasol a gyhoeddir gan y Comisiwn;
  • yn rhesymol gyson â'r amcanion trwyddedu; ac
  • yn unol â datganiad o bolisi gamblo'r awdurdod

Swyddogaethau Awdurdod Trwyddedu

O dan y ddeddf, bydd yr Awdurdod Trwyddedu hwn yn gyfrifol am y canlynol:

  • Rhoi Trwyddedau Mangre - lle bydd gweithgareddau gamblo'n cael eu cynnal.
  • Rhoi Datganiadau Amodol - ar gyfer mangreoedd a gaiff eu hadeiladu neu eu haddasu ar gyfer gweithgareddau gamblo
  • Rheoli Hawlenni Hapchwarae Clwb a/neu Hawlenni Peiriannau Clwb i glybiau aelodau a sefydliadau lles glowyr sydd am gynnal rhai gweithgareddau hapchwarae.
  • Rhoi Hawlenni Peiriannau Clwb - ar gyfer Clybiau
  • Rhoi hawlenni ar gyfer rhai peiriannau hapchwarae am symiau bach penodol mewn Canolfannau Adloniant Teulu
  • Derbyn hysbysiadau gan fangreoedd â thrwydded alcohol (o dan Ddeddf Trwyddedu 2003) i ddefnyddio dau beiriant hapchwarae neu lai
  • Rhoi Hawlenni Peiriannau Hapchwarae Mangreoedd Trwyddedig ar gyfer mangreoedd sydd wedi'u trwyddedu i werthu/gyflenwi alcohol i'w yfed yn y fangre drwyddedig o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 lle ceir mwy na dau beiriant
  • Cofrestru loterïau sy'n loterïau cymdeithasau bach islaw trothwyau rhagnodedig
  • Rhoi Hawlenni Hapchwarae am Wobr 
  • Derbyn a Chymeradwyo Hysbysiadau o Ddefnydd Dros Dro
  • Derbyn Hysbysiadau o Ddefnydd Achlysurol
  • Darparu gwybodaeth i'r Comisiwn Gamblo am fanylion y trwyddedau a roddwyd (gweler is-adran 7.0. ar gyfnewid gwybodaeth).
  • Cynnal cofrestri o'r hawlenni a'r trwyddedau a roddir dan y swyddogaethau hyn

Er mwyn ymdrin yn effeithiol â cheisiadau am drwyddedau mangre, hawlenni, hysbysiadau dros dro ac achlysurol, adolygiadau etc., mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi pennu rhestr o swyddogaethau dirprwyedig. Dangosir hyn yn atodiad 3.

Sylwer na fydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ymwneud â thrwyddedu gamblo o bell. Cyfrifoldeb y Comisiwn Gamblo fydd hwn, drwy Drwyddedau Gweithredu.

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n cydnabod mai dim ond un modd o hyrwyddo cyflawni'r tri amcan trwyddedu yw'r swyddogaeth drwyddedu o ran gamblo, felly ni ddylid ei gweld fel modd i ddatrys holl broblemau'r gymuned. Bydd yr Awdurdod

Trwyddedu felly'n parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau cyfagos, Heddlu De Cymru, Iechyd y Cyhoedd, busnesau lleol, pobl leol a'r rhai sy'n gysylltiedig ag amddiffyn plant er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu fel yr amlinellir. Yn ogystal, mae'r Awdurdod Trwyddedu'n cydnabod ei ddyletswydd o dan Adran 17 Deddf Troseddu ac Anhrefn 1998, o ran atal troseddu ac anhrefn.

Awdurdodau Cyfrifol

Yn ôl rheoliadau, mae'n ofynnol i'r Awdurdod Trwyddedu ddatgan yr egwyddorion y bydd yn eu dilyn wrth arfer ei bwerau o dan Adran 157(h) y Ddeddf i ddynodi'n ysgrifenedig gorff sy'n gymwys i gynghori'r awdurdod am amddiffyn plant rhag niwed. Yr egwyddorion yw:

  • Yr angen i'r corff fod yn gyfrifol am ardal sy'n cwmpasu ardal gyfan yr Awdurdod Trwyddedu, a'r
  • Angen i'r corff fod yn atebol i bobl a etholwyd yn ddemocrataidd, yn hytrach nag unrhyw grŵp sydd â buddiant penodol.

Yn unol â'r awgrym yn Arweiniad y Comisiwn Gamblo ar gyfer Awdurdodau Lleol, mae'r awdurdod hwn yn dynodi'r Bwrdd Diogelu Plant Bae’r Gorllewin at y diben hwn.

Mae manylion cyswllt yr holl Awdurdodau Cyfrifol o dan Ddeddf Gamblo 2005 ar gael ar wefan yr Awdurdod Trwyddedu yn: npt.gov.uk/trwyddedu.

Partïon sydd â buddiant

  • Gall partïon sydd â buddiant gyflwyno sylwadau ynghylch ceisiadau am drwyddedau, neu gyflwyno cais i drwydded gael ei Mae Deddf Gamblo 2005 yn diffinio'r partïon hyn fel a ganlyn:-

“At ddibenion y rhan hon, o ran cais am drwydded mangre neu ynghylch hynny, mae person yn fuddiwr os ydyw, ym marn yr Awdurdod Trwyddedu sy'n cyflwyno'r drwydded neu sy'n derbyn y cais, yn -

  1. byw'n ddigon agos at y fangre fel y bydd yn debygol yr effeithir arno gan y gweithgareddau awdurdodedig,
  2. meddu ar fuddion busnes y gallai'r gweithgareddau awdurdodedig effeithio arnynt; neu'n
  3. cynrychioli pobl sy'n bodloni paragraff (a) neu (b)”.
  • Yn ôl rheoliadau, mae'n ofynnol i'r Awdurdod Trwyddedu ddatgan yr egwyddorion y bydd yn eu dilyn wrth arfer ei bwerau o dan Ddeddf Gamblo 2005 i benderfynu a yw person yn fuddiwr. Yr egwyddorion yw:

Penderfynir ar bob achos ar sail ei deilyngdod. Ni fydd yr awdurdod yn defnyddio rheol gaeth wrth benderfynu, ond bydd yn ystyried yr enghreifftiau o ystyriaethau a ddarparwyd yn Arweiniad y Comisiwn Gamblo i Awdurdodau Trwyddedu.

Bydd hefyd yn ystyried Arweiniad y Comisiwn Gamblo y dylid dehongli parti 'sydd â buddion busnes' yn yr ystyr ehangaf posib a chynnwys partneriaethau, elusennau, grwpiau ffydd a meddygfeydd

Gall partïon sydd â buddiant fod yn bobl sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd megis cynghorwyr ac Aelodau Seneddol. Ni fydd angen tystiolaeth benodol o gais i gynrychioli person â buddiant ar yr amod bod y Cynghorydd etc yn cynrychioli'r ward y mae'n debygol yr effeithir arni. Yn yr un modd, ystyrir bod Cynghorau Plwyf/Cymuned y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn bartïon sydd â buddiant. Heblaw am y bobl hyn, fel arfer bydd yn ofynnol i'r Awdurdod Trwyddedu hwn gael tystiolaeth ysgrifenedig bod person 'yn cynrychioli' rhywun sydd naill ai'n byw'n ddigon agos at y fangre fel y bydd y gweithgareddau awdurdodedig yn debygol o effeithio arno, a/neu fuddion busnes y gallai'r gweithgareddau awdurdodedig effeithio arnynt. Mae llythyr gan un o'r personau hyn yn gofyn am gael ei gynrychioli'n ddigonol.

Os yw unigolion am ofyn i Gynghorwyr gynrychioli eu barn, dylid gofalu nad yw'r Cynghorwyr yn aelodau o'r Pwyllgor Trwyddedu sy'n ymdrin â'r cais am drwydded. Os oes unrhyw amheuon, cysylltwch â’r tîm Gwasanaethau Rheoleiddio Cyfreithiol drwy ffonio 01639 763050 (gwasanaeth ffonio’n ôl) neu e-bostiwch LRS@npt.gov.uk

Cyfnewid Gwybodaeth

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu gynnwys yn eu datganiad o bolisi yr egwyddorion i'w cymhwyso gan yr Awdurdod wrth arfer y swyddogaethau o dan adrannau 29 a 30 yddeddf o ran cyfnewid gwybodaeth rhyngddo a'r Comisiwn Gamblo, a'r swyddogaethau o dan Adran 350 y Ddeddf o ran cyfnewid gwybodaeth rhyngddo a'r bobl eraill a restrir yn Atodlen 6 y Ddeddf.

Yr egwyddor a gymhwysir gan yr Awdurdod Trwyddedu hwn yw y bydd yn gweithredu'n unol â darpariaethau Deddf Gamblo 2005 wrth gyfnewid gwybodaeth sy'n cynnwys y ddarpariaeth nad eir yn groes i ddeddfwriaeth diogelu data. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd yn rhoi sylw i unrhyw arweiniad a ddarperir gan y Comisiwn Gamblo ynghylch y mater hwn, yn ogystal ag unrhyw reoliadau a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dan y pwerau a ddarperir yn Neddf Gamblo 2005.

Os caiff unrhyw brotocolau eu sefydlu o ran cyfnewid gwybodaeth â chyrff eraill, yna byddant ar gael i eraill.

Gorfodi

O dan Ddeddf Gamblo 2005, mae'n ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu ddatgan yr egwyddorion y bydd yr Awdurdod yn eu dilyn wrth arfer y swyddogaethau o dan Ran 15 y Ddeddf mewn perthynas ag archwilio mangreoedd; a'r pwerau o dan Adran 346 y Ddeddf i gychwyn achos troseddol mewn perthynas â'r tramgwyddau a nodwyd.

Dyma egwyddorion yr Awdurdod Trwyddedu:

Caiff ei arwain gan Arweiniad y Comisiwn Gamblo i Awdurdodau Lleol, Côd y Rheolyddion a pholisi gorfodi'r Awdurdod Trwyddedu. Bydd yn ymdrechu i fod yn:

  • Gymesur: dylai rheoleiddwyr ymyrryd pan fo hyn yn angenrheidiol yn unig. Dylai camau unioni fod yn briodol i'r risg dan sylw a dylid nodi costau a'u cadw mor isel â
  • Atebol: mae'n rhaid bod rheoleiddwyr yn gallu cyfiawnhau penderfyniadau a bod yn agored i graffu gan y
  • Cyson: mae'n rhaid bod rheolau a safonau'n gydlynol a rhaid eu rhoi ar waith yn deg.
  • Tryloyw: dylai rheoleiddwyr fod yn agored, cadw rheoliadau'n syml ac yn hawdd eu a
  • Wedi'i dargedu: dylai rheoleiddio ganolbwyntio ar y broblem a lleihau'r sgîl effeithiau

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ceisio osgoi dyblygu gwaith cyfundrefnau rheoleiddio eraill cyn belled ag y bo modd

Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi rhoi rhaglen sy'n seiliedig ar risg ar waith wedi'i seilio ar:-

  • Yr Amcanion Trwyddedu
  • Codau ymarfer perthnasol
  • Arweiniad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Gamblo
  • Yr egwyddorion a bennir yn y Datganiad o Bolisi Trwyddedu hwn
  • Polisi gorfodi'r Awdurdod Trwyddedu

Prif rôl gorfodi a chydymffurfiaeth yr Awdurdod Trwyddedu o dan Ddeddf Gamblo 2005 fydd sicrhau y cydymffurfir â'r trwyddedau mangre a phob math arall o ganiatâd perthnasol y mae'n ei awdurdodi. Ni fydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ymdrin â phryderon am gynhyrchu, cyflenwi nac atgyweirio peiriannau hapchwarae ond hysbysir y Comisiwn Gamblo amdanynt.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried dogfen arweiniol y Comisiwn Gamblo a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2015 (neu unrhyw ddiwygiadau dilynol) sef 'Ymagwedd at Bryniannau Prawf' wrth ystyried gwneud pryniannau prawf mewn mangreoedd gamblo. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd yn dilyn ei bolisïau a'i weithdrefnau ei hun o ran defnyddio prynwyr prawf dan oed.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd yn sicrhau bod ganddo'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran gwaith y Weithrediaeth Gwell Rheoleiddio wrth iddo ystyried swyddogaethau rheoleiddiol Awdurdodau Lleol.

Hawliau Sylfaenol

O dan delerau'r Ddeddf, gall unrhyw unigolyn/gwmni gyflwyno cais am fathau amrywiol o ganiatâd ac ystyrir y ceisiadau hynny ar sail eu teilyngdod unigol. Yn yr un modd, mae gan unrhyw Fuddiwr neu Awdurdod Cyfrifol yr hawl i gyflwyno sylwadau perthnasol neu gais, neu i ofyn am adolygiad o drwydded neu dystysgrif lle darparwyd iddynt wneud hynny yn y Ddeddf.

Mae gan ymgeiswyr a'r rheiny sy'n cyflwyno sylwadau perthnasol o ran ceisiadau i'r Awdurdod Trwyddedu hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau'r Awdurdod Trwyddedu i'r Llys Ynadon.

Integreiddio Strategaethau ac Osgoi Dyblygu

Drwy ymgynghori'n eang cyn i'r Datganiad Polisi hwn gael ei gyhoeddi, bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried polisïau lleol ar atal troseddu, diwylliant, trafnidiaeth, cynllunio a thwristiaeth yn llawn fel rhan o strategaeth integredig ar gyfer y Cyngor, yr heddlu ac asiantaethau eraill. Mae'n bosib na fydd llawer o'r strategaethau hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â hyrwyddo'r tri amcan trwyddedu, ond gallant effeithio'n anuniongyrchol arnynt.

Wrth ystyried unrhyw gais, bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n osgoi dyblygu â gwaith cyfundrefnau rheoleiddio eraill cyn belled ag y bo modd. Felly, ni fydd yr Awdurdod Trwyddedu'n atodi amodau i drwydded oni bai yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur â'r defnydd o'r fangre ar gyfer gamblo sy'n gyson â'r amcanion trwyddedu.

Strategaeth Gymunedol Datblygu Cynaliadwy

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae'r Ddeddf yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Mae'r Ddeddf hon yn cysylltu'n benodol ag atal trosedd ac anhrefn a niwsans cyhoeddus. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn ystyried y pum ffordd o weithio a gynhwysir o dan y Ddeddf hon sef:

Tymor hir (sut rydym yn cefnogi lles tymor hir pobl) - Mae'r Awdurdod Trwyddedu yn cydnabod yr angen i bobl allu mwynhau eu hamser hamdden a chymdeithasu â ffrindiau a theulu mewn amgylchedd amrywiol a bywiog. Fodd bynnag, mae'n rhaid cydbwyso hyn yn erbyn yr angen i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag niweidiau gamblo a sicrhau bod gweithredwyr yn gallu nodi oedolion agored i niwed sy’n gaeth i gamblo/â phroblemau gamblo, i gynnig help, arweiniad a chefnogaeth drwy gyfeirio priodol.

Integreiddio (effeithiau ar ein hamcanion lles) - Bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn sicrhau bod plant ac oedolion sy’n gaeth i gamblo/ â phroblemau gamblo yn cael eu hamddiffyn. Bydd disgwyl bod mangreoedd sy’n cynnig gweithgareddau gamblo wedi rhoi ystyriaeth briodol mewn amserlenni gweithredu o ran sut y byddant yn amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn y fangre. Yn yr un modd, bydd disgwyl i amserlenni gweithredu  sicrhau nad yw eu busnes yn cael effaith negyddol ar y rheini sy'n byw yng nghyffiniau'r fangre.

Cyfrangogaeth (sut mae pobl wedi cymryd rhan) - Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi cynnal ymarfer ymgynghori helaeth a phellgyrhaeddol wrth ddatblygu'r polisi hwn.

Cydweithio (gweithio gyda gwasanaethau/sefydliadau eraill) - Mae'r Awdurdod Trwyddedu yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol eraill ac asiantaethau partner ledled Cymru i ddatblygu polisïau a phrosesau cyson. Mae aelodaeth o'r Sefydliad Trwyddedu a chynrychiolaeth ar Banel Arbenigwyr Trwyddedu Cymru gyfan yn galluogi'r Awdurdod Trwyddedu i weithio gydag awdurdodau lleol eraill, asiantaethau partner a chyrff masnach ledled Cymru i ddatblygu polisïau a phrosesau cyson er mwyn cyflawni ei amcanion.

Atal (sut mae atal problemau rhag digwydd neu waethygu) - Bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn ystyried pob cais yn ofalus i sicrhau bod yr amcanion trwyddedu a nodir yn y Ddeddf yn cael eu hyrwyddo ar bob adeg. Pan ganfyddir nad yw mangre’n gweithredu mewn modd diogel a chyfrifol, bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn gweithio gyda'i bartneriaid i gymryd camau adferol, gan gynnwys gorfodi ffurfiol i ddatrys unrhyw faterion yn gyflym.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot sy’n cynnwys yr awdurdod lleol a chynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau partner yn gyfrifol am gyflawni cyfres o amcanion lles a bennwyd yn lleol y mae’n rhaid iddynt fynd i’r afael â’r nodau llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)

O dan Ddeddf Troseddu ac Anhrefn 1998, mae'n rhaid i Awdurdodau Lleol ystyried effaith debygol arfer eu swyddogaethau ar droseddu ac anhrefn yn eu hardal, a gwneud popeth y gall i'w hatal. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n rhoi sylw penodol i effaith debygol trwyddedu ar droseddu ac anhrefn cysylltiedig yn yr ardal, yn enwedig wrth ystyried lleoliad, effaith gweithredu a rheoli'r holl geisiadau arfaethedig am drwyddedau/hawlenni, adnewyddu ac amrywio