Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Rhagarweiniad

Cyflawnwyd ymchwiliad gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol mewn ymateb i'r llifogydd a gafwyd yn Heol y Farteg, Ystalyfera ar 16 Chwefror 2020. Mae'r adroddiad hwn yn grynodeb o'r ymchwiliad ac mae'n cynnwys gwybodaeth berthnasol sy'n ofynnol i fodloni'r gofynion statudol a osodwyd ar yr awdurdod gan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae gwybodaeth am y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a osodwyd ar yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) i ymchwilio i lifogydd ar gael yn Atodiad A.

Un o ofynion Adran 19 yw bod yn rhaid i adroddiad ymchwiliad nodi gan ba Awdurdodau Rheoli Peryglon (ARhP) y mae swyddogaethau rheoli perygl llifogydd. Mae Atodiad B yn cynnwys crynodeb o rolau a chyfrifoldebau'r ARhP yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Drwy'r broses ymchwilio, penderfynwyd mai'r ARhP perthnasol ar gyfer y llifogydd a gafwyd yn Heol y Farteg yw:

  • CBSCNPT fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol
  • CBSCNPT fel yr Awdurdod Priffyrdd
  • Dŵr Cymru fel y cwmni dŵr

Yn ogystal, canfuwyd bod nifer o berchnogion/ddatblygwyr tir a'r rhai â chyfrifoldebau glannau afon am gyrsiau dŵr hefyd yn berthnasol yn yr achos hwn.

Digwyddodd y llifogydd yn Heol y Farteg, Ystalyfera am tua 00:30 ddydd Sul 16 Chwefror 2020 yn dilyn cyfnod o law hir a thrwm a ddechreuodd ddydd Sadwrn 15 Chwefror am tua 03:00 ac a ddaeth i ben ddydd Sul 16 Chwefror am 07:00.

Cynhaliwyd camau ymateb brys gan CBSCNPT i helpu i leihau'r perygl o lifogydd. Mae CBSCNPT wrthi'n gweithredu nifer o ddulliau lliniaru llifogydd er mwyn amddiffyn preswylwyr rhag llifogydd yn y dyfodol. Mae pob awdurdod rheoli risg yn ymwybodol o argymhellion yr adroddiad blaenorol ac yn ymwybodol o unrhyw argymhellion a amlygwyd yn yr adroddiad hwn.