Llifogydd
Mae Heol y Farteg yn ne ward etholiadol Ystalyfera yng Nghwm Tawe uchaf. Mae Cwm Tawe uchaf yng ngogledd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Rhwng 03:00 ddydd Sadwrn 15 Chwefror a 07:00 ddydd Sul 16 Chwefror disgynnodd glaw parhaus ar draws y fwrdeistref sirol a barhaodd tua 27 awr, gan gyrraedd uchafbwynt mewn dwysedd yn gynnar ar fore Sul tua 02:00. Mae Heol y Farteg yn nalgylch afon Tawe, a chafodd y dalgylch hwn ynghyd â dalgylch afon Nedd y lefelau uchaf o law dros y 2 ddiwrnod.
Mae dalgylch afon Tawe tua 26,877ha o ran maint ac mae'n cynnwys rhannau o Fannau Brycheiniog sy'n draenio drwy nifer o gyrsiau dŵr cydnabyddedig ar eu llethrau deheuol cyn eu bod yn cydgyfarfod ar afon Tawe ger Glyntawe. Mae Ffigur 2 isod yn dangos maint y dalgylch gyda lleoliad Heol y Farteg wedi'i labelu.
Mae'r lefelau glaw trwm cyfartalog a gwympodd yn y fwrdeistref yn ystod cyfnod o 6 diwrnod i'w gweld yn Ffigur 3. Mae'n dangos sut y cwympodd glaw cyson am 3 diwrnod yn arwain at y penwythnos cyn cynyddu mewn dwysedd am 2 ddiwrnod. Mae'n dangos pa mor uchel oedd y lefelau glaw cyfartalog yn ystod dydd Sadwrn a dydd Sul. Dros 2 ddiwrnod y storm, cyfrifwyd bod 61.3mm o law ar gyfartaledd wedi glanio o fewn ffin y sir dros gyfnod o 48 awr.
Crynodeb o ddadansoddiad y glaw yn CBSCNPT:
- Dangosodd data a gofnodwyd o ddydd Sadwrn 15 fod y glaw yn amrywio o 113mm i 40mm yn y cyfnod 24 awr ar draws y dalgylch, ar gyfartaledd o 76.5mm.
- Dangosodd data a gofnodwyd o ddydd Sul 16 fod y glaw yn amrywio o 63mm i 29mm yn y cyfnod 24 awr ar draws y dalgylch, ar gyfartaledd o 46mm.
Mae Ffigur 4 yn dangos maint y glaw trwm a gwympodd ar ardal Ystalyfera. Mae'r data hydrograff glaw o waith trin carthffosiaeth Glan-rhyd 1km i'r gogledd-ddwyrain o Heol y Farteg ac mae'n dangos sut gwnaeth y glaw cynyddu'n raddol o ran dwysedd o brynhawn dydd Gwener hyd at y llifogydd ddydd Sul am 00:30 o'r gloch.
Mae crynodeb o ddadansoddiad y glaw yn Ystalyfera yn dangos:
- Dydd Gwener – 15:00, gostyngodd y glaw ar uchafswm o 3.4mm yr awr.
- Bore Sadwrn – 11:00, cynyddodd y glaw i 5.4mm yr awr.
- Nos Sadwrn – 23:00, cynyddodd y glaw ymhellach i 8.4mm yr awr.
- Bore Sul – 02:00, cyrhaeddodd y glaw uchafbwynt o 12.2mm yr awr.
Ar draws dydd Sadwrn a dydd Sul, ymatebodd yr awdurdod i lawer o alwadau a oedd yn gysylltiedig â llifogydd ar draws y fwrdeistref, ac ymatebodd y staff brys sydd ar ddyletswydd 'y tu allan i oriau' iddynt. Fodd bynnag, am tua 00:30 ddydd Sul 16 Chwefror, aeth y llifddwr cyntaf i mewn i eiddo ar Heol y Farteg.
Mae'n bwysig nodi bod y llifddwr wedi parhau i godi am gyfnod o tua phedair awr gyda'r eiddo cyntaf yn adrodd am lifogydd am 00:30 a'r olaf am 04:00. Deellir hefyd nad oedd y llifddwr wedi gostwng tan tua hanner dydd ddydd Sul, y diwrnod canlynol.
Dioddefodd cyfanswm o 29 eiddo lifogydd mewnol ar 16 Chwefror yn Ystalyfera, gan gynnwys 27 ar Heol y Farteg, 1 ar Ffordd Emlyn ac 1 tŷ allan ar Heol Ynysydarren.
Mae Ffigur 5 isod yn dangos yr eiddo hynny.
Mae ardal breswyl Stad y Farteg a'r ardal amgylchynol yn rhan o orlifdir afon Tawe yn Ystalyfera. Mae dalgylch y Farteg yn mesur oddeutu 400m ar y pwynt lledaenaf, ac mae'n cynnwys ardal o oddeutu 10 hectar.
Mae topograffi'r ardal yn gymharol wastad, gan amrywio mewn lefel rhwng 62.9m a 56.6m uwchben y datwm ordnans. Mae'r ail ar ei bwynt isaf o gwmpas cyffordd Heol y Farteg ac Ynysydarren. Mae afon Tawe yn ffinio'r safle i'r de-ddwyrain, a cheir llethr serth ac arglawdd yr A4067 i'r gogledd-orllewin. Mae'r ddaeareg arwynebol waelodol yn cynnwys silt, tywod a chlai llifwaddodol a ddyddodwyd dros amser gan afon Tawe. Serch hynny, ychydig iawn o'r priddoedd hyn sydd yn y golwg oherwydd y datblygiad llawr caled sef Stad y Farteg.
Mae Ffigur 6 yn dangos rhwydweithiau draenio tir, dŵr wyneb a Dŵr Cymru yng nghyffiniau'r llifogydd a fu, fel a nodir yn yr allwedd.
Ceir rhwydwaith carthffosiaeth cyfunol eang Dŵr Cymru hefyd sy'n cael ei fwydo i brif garthffos sy'n dwyrannu'r dalgylch sy'n rhedeg drwy gyffordd Stad y Farteg a Heol Ynysydarren cyn parhau i lawr Cwm Tawe, a ddangosir yn Ffigur 7.
Stad y Farteg
Mae Ffigur 8 isod yn dangos llwybrau llif y dŵr wyneb yn yr ardal sy'n mynd i'r cwlfer sy’n 1.2m mewn diamedr (MH1 a ddangosir yn Ffigur 10), sy'n rhedeg i gyfeiriad gorllewinol o dan yr A4067.
Ynysydarren
Mae cwrs dŵr â chwlferi'n croesi o dan Heol Ynysydarren ger cornel mwyaf gogleddol caeau rygbi Ystalyfera. Mae'r cwlfer yn rhedeg o dan yr hyn a oedd yn dir preifat (sydd wedi'i brynu gan y cyngor ers hynny), ar hyd ffin ogleddol y caeau cyn mynd i mewn i siambr ar dir rhifau 1 – 35 Maes y Darren, sy'n cael ei reoli gan Tai Tarian. O'r pwynt hwn, mae'r cwlfer yn troi 90o cyn rhyddhau dŵr i afon Twrch. Nid yw'r cwrs dŵr â chwlferi yn rhyngweithio â'r system ddraenio sy'n gwasanaethu Stad y Farteg yn ystod llifau arferol. Fodd bynnag, os yw'r cwlfer yn gorlifo o’r siambr archwilio yn Heol Ynysydarren (a ddangosir yn ffigur 11), fel y gwnaeth yn ystod y llifogydd yn 2016 a 2020, caiff y dŵr ei drwy'r llwybr llif a welir isod yn Ffigur 9.
Yn ystod y llifogydd, llifodd y dŵr a oedd wedi gorlifo o'r ffynonellau a oedd yn cyfrannu a dŵr wyneb i'r pwynt isel yn yr ardal, wrth gyffordd Ynysydarren a Heol y Farteg.
Mae Siambr MH1 (ffigur 10) ar y pwynt isaf a dyma'r pwynt lle mae'r holl rwydweithiau draenio dŵr wyneb yn llifo iddo. Adeiledir MH1 ar gwlfer sy'n 1.2m ar ei draws sy'n llifo gyda'r afon o'r dwyrain i'r gorllewin o dan Stad y Farteg, y byddai wedi cyflenwi dŵr i'r hen waith haearn/tun ac sydd bellach yn cludo dŵr o'r stad o dan yr A4067 tuag at safle ASDA a ddatblygwyd yn ddiweddar. Credir bod y rhan hon o dan Stad y Farteg yn ddiangen ac eithrio'r ffaith ei fod yn darparu rhywfaint o le storio ar gyfer llifoedd sy'n mynd i mewn i MH1. Yn dilyn yr ymchwiliad credir bod dŵr wedyn wedi ei gludo drwy system gwlferi i lawr y cwm, cyn disgyn i lawr yr afon ar lannau afon Tawe.
Ynysydarren
Yn flaenorol, roedd ymchwiliadau i'r rhan o'r cwlfer yn is i lawr yr afon o Heol Ynysydarren wedi tynnu sylw at y ffaith fod yr anallu i ymdopi â llif mawr wedi'i achosi gan gwlfer a oedd wedi cwympo'n rhannol ar dir preifat.
Ers yr archwiliadau hyn, penderfynodd y cyngor, sy'n gweithredu fel ALlLlA, brynu'r tir 3ydd parti er mwyn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol i'r cwlfer er mwyn atal llifogydd i'r gymuned.
Ers hynny, mae'r cwlfer presennol wedi'i dynnu a'i ddisodli gan bibell newydd a mwy o ran maint, sy’n 900mm mewn diamedr. Mae'r cynllun hwn eisoes wedi bod yn llwyddiannus ac wedi lleihau'r perygl o lifogydd i breswylwyr Stad y Farteg.
Ffigur 11 - Llun yn dangos dŵr yn gorlifo o gwlfer Ynysydarren (cyf Adroddiad 2016)
Stad y Farteg
Yn ystod oriau olaf dydd Sadwrn 15 Chwefror, llethwyd ar allu dylunio'r system draenio dŵr wyneb yn Stad y Farteg, gan achosi llifau dros y tir i gyffordd Ynysydarren a Heol y Farteg. Fel y nodwyd eisoes, y llifau gorlifol ychwanegol o siambr Ynysydarren a oedd wedi cael effaith sylweddol ar y gallu i ddraenio. Am tua 00:30 ddydd Sul 16 Chwefror dechreuodd y llifogydd ar hyd Heol y Farteg.
Dan gynllun ariannu ar raddfa fach Llywodraeth Cymru, comisiynodd CBSCNPT is-gontractwr annibynnol i osod drysau atal llifogydd ar 12 eiddo yn Heol y Farteg. Dywedodd swyddogion a oedd yn bresennol yn syth ar ôl y llifogydd fod dŵr yn dod i mewn drwy'r drysau.
Gwnaed archwiliadau hefyd i'r orsaf bwmpio dros dro ger MH1, yr ystyriwyd ei bod yn gweithio ar adeg y digwyddiad. Y dŵr ychwanegol a orlifodd o Ynysydarren, ochr yn ochr â’r swm cyson o ddŵr a syrthiodd yn ystod cyfnod byr a oedd wedi llethu ar allu’r orsaf bwmpio dros dro.
Rhwydwaith DCWW
Yn ystod oriau mân ddydd Sul 16 Chwefror, gorlifodd rhwydwaith carthffosydd DCWW gan arwain at garthffosiaeth gyfun yn llifo drwy Stad y Farteg ac yn cyfrannu at y llifogydd. (Gweler ffigurau 7 a 9).
Yn dilyn ymchwiliadau, canfuwyd mai'r llifau ychwanegol o ddŵr wyneb o gwlfer Ynysydarren a wnaeth ymuno â'r rhwydwaith carthffosiaeth a oedd wedi achosi i'r rhwydwaith carthffosydd orlifo. Yn ystod ymchwiliadau DCWW, ni nodwyd unrhyw broblemau i gyfanrwydd adeileddol y rhwydwaith carthffosydd.
Draen cludo o Siambr MH1 i Bwynt A (cyfeiriwch at Ffigur 10)
Mae'r awdurdod wedi penodi ymgynghorydd i lunio achos busnes amlinellol (ABA) a dyluniad manwl amlinellol i ailsefydlu'r cysylltiad rhwng pwynt A a B. Ers digwyddiad 2020 mae'r cyngor wedi cwblhau'r ABA a disgwylir iddo gwblhau'r dyluniad manwl ym mis Ebrill 2021. Bwriedir i'r cynllun arfaethedig ganiatáu i ddŵr wyneb lifo heb gymorth i ffwrdd o stad dai y Farteg a lleihau'r perygl llifogydd presennol i'r gymuned leol. Comisiynwyd yr adroddiad a'r dyluniad drwy Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd Llywodraeth Cymru a bwriad yr awdurdod yw datblygu'r prosiect i'r cam adeiladu yn ystod y flwyddyn ariannol 21-22.
Fel o'r blaen, casgliad ymchwiliadau'r awdurdod yw bod y system ddraenio, y credai ei bod wedi cysylltu pwynt A a phwynt B (Ffigur 12) yn flaenorol, wedi'i symud. Ynghyd â'r rhwystrau a'r cwympiadau i'r cwlfer ar dir preifat ger Heol Ynysydarren, dyma oedd y rheswm sylfaenol dros y llifogydd.
Gan gredu bod y cysylltiad o bwynt A a phwynt B wedi'i dorri, mae'r awdurdod wedi comisiynu achos busnes gyda dyluniadau manwl i sefydlu'r cysylltiad. Bwriad yr awdurdod yw datblygu'r prosiect yn ystod y flwyddyn ariannol 2021-22.
Fel ALlLlA, cychwynnodd y cyngor achos i brynu tir ger Heol Ynysydarren yn 2020 gan ddefnyddio ei bwerau draenio tir, ac ers hynny mae wedi unioni hyd y cwlfer sydd wedi'i esgeuluso.
Roedd y mesurau lliniaru dros dro a gyflwynwyd gan y cyngor ers y llifogydd yn cynnwys adeiladu siambr newydd ger pwynt isel y stad a gosod system bwmp. Serch hynny mae'r system ond yn pwmpio dŵr wyneb dros y tir i system ddraenio priffordd yr A4067, ac o ganlyniad, mae ei heffeithiolrwydd wrth ddelio ag amodau llifogydd yn gyfyngedig. Er mwyn lleihau'r problemau adnoddau sylweddol sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw gweithrediad y pympiau, mae'r awdurdod wedi cwblhau'r gwaith o osod cyflenwad pŵer parhaol ers hynny i gymryd lle'r generadur presennol sy'n cael ei bweru gan danwydd.
Nodir y cafwyd rhai adroddiadau blaenorol am fwy o lifogydd cyfyngedig gan breswylwyr Heol y Farteg ers datblygu safle ASDA; fodd bynnag, nid oedd un ohonynt wedi bodloni'r meini prawf er mwyn cynnal ymchwiliad llifogydd.