Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Atodiadau

Mae Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 a Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn nodi CBSCNPT fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) ar gyfer yr ardal. Mae hyn wedi gosod nifer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau rheoli perygl llifogydd ar y cyngor. Yn benodol, mae Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn gosod dyletswydd ar CBSCNPT i gynnal ymchwiliadau i lifogydd i'r graddau y mae'n ystyried bod hyn yn angenrheidiol.

Mae 'Awdurdod Rheoli Perygl' (ARhP) yn golygu::

Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr: Adran 19 - Awdurdodau Lleol: Ymchwiliadau

  1. Wrth ddod i wybod am lifogydd yn ei ardal, mae'n rhaid i awdurdod llifogydd lleol arweiniol, i'r graddau y mae'n ystyried ei bod hi'n angenrheidiol neu'n briodol, ymchwilio i—
    • ba awdurdodau rheoli perygl sydd â'r swyddogaethau rheoli llifogydd perthnasol,
    • p'un a yw pob un o'r awdurdodau rheoli perygl hynny wedi arfer y swyddogaethau hynny, neu'n bwriadu eu harfer, mewn ymateb i'r llifogydd.
  2. Lle bydd awdurdod yn cynnal ymchwiliad o dan is-adran (1), rhaid iddo—
    • gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad, a
    • hysbysu unrhyw awdurdodau rheoli perygl.

Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (2010), A. 19, p.29, Llundain: Llyfrfa Ei Mawrhydi

  1. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  2. awdurdod llifogydd lleol arweiniol,
  3. cyngor dosbarth ar gyfer ardal nad oes ganddi awdurdod unedol,
  4. bwrdd draenio mewnol,
  5. cwmni dŵr ac
  6. awdurdod priffyrdd.

Wrth ystyried a yw'n angenrheidiol neu'n briodol ymchwilio i lifogydd yn ei ardal, bydd CBSCNPT yn adolygu difrifoldeb y digwyddiad, ynghyd â nifer yr eiddo yr effeithiwyd arnynt a pha mor aml y ceir y fath ddigwyddiad. Mae Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y cyngor yn nodi'r meini prawf i'w defnyddio wrth ystyried Adroddiad Ymchwiliad i Lifogydd.

Mae gan ARhP yng Nghastell-nedd Port Talbot gyfrifoldebau o ran rheoli perygl llifogydd. Mae Tabl 2 isod yn nodi'r ffynonellau llifogydd niferus a'r ARhP sy'n gyfrifol, a'r swyddogaethau rheoli perygl llifogydd sy'n ymwneud â ffynhonnell llifogydd benodol.

Tabl 3, Cyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Perygl

Ffynhonnell y llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Cwmni dŵr Awdurdod Priffyrdd
Prif afon *      
Cwrs dŵr cyffredin   *    
Dŵr wyneb   *    
Dŵr wyneb sy'n cychwyn ar y briffordd       *
Carthffos yn Gorlifo     *  
Y môr *      
Dŵr daear   *    

Amlinellir y cyfrifoldebau cyffredinol a osodir ar ARhP o ran rheoli perygl llifogydd isod.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd o brif afonydd a'r môr. Mae CBSCNPT yn gweithio'n agos gyda CNC, yn enwedig wrth reoli perygl llifogydd o sawl ffynhonnell ar y cyd ac os bydd llifogydd sylweddol. Mae CNC hefyd yn darparu gwasanaeth rhybuddion llifogydd ledled Cymru mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd neu'r môr.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel ALlLlA

Mae CBSCNPT yn gyfrifol am reoli'r perygl o lifogydd sy'n gysylltiedig â chyrsiau dŵr cyffredin, dŵr daear a dŵr wyneb. Mae CBSCNPT wedi llunio Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn unol â Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 sy'n nodi sut mae'r awdurdod yn bwriadu cyflawni'r swyddogaeth hon. Yn ogystal â hyn, ac fel y soniwyd yn flaenorol, mae gan yr awdurdod hefyd Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a luniwyd i fodloni gofynion Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Gosodir nifer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau ar yr awdurdod fel yr ALlLlA ar gyfer yr ardal gan y ddwy ddogfen ddeddfwriaethol hyn. Mae'r awdurdod hefyd yn gyfrifol am roi caniatâd am waith ar gyrsiau dŵr cyffredin a gorfodi gwaredu unrhyw adeiladwaith neu rwystr anghyfreithlon yn y cwrs dŵr.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel Awdurdod Priffyrdd

Mae'r awdurdod yn gwneud gwaith cynnal a chadw arferol ar yr isadeiledd cludo dŵr sydd yn y briffordd, gan gynnwys gweithredoedd glanhau cwlferi a gylïau. Ymgymerir â'r gweithredoedd hyn, ynghyd ag archwilio cyflwr asedau o'r fath yn weledol, i leihau'r perygl o lifogydd ar y rhwydwaith priffyrdd mabwysiedig a thir cyfagos.

Dŵr Cymru

Dŵr Cymru sy'n gyfrifol am gyflenwi dŵr yfed ac am gludo'r dŵr gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru ymaith, ynghyd â'i drin a'i waredu'n gywir. Cyfrifoldeb Dŵr Cymru yw unrhyw lifogydd sy'n digwydd oherwydd bod carthffosydd cyhoeddus wedi'u gorlwytho neu brif bibell ddŵr wedi torri.

Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru

Mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) yn gyfrifol am gynnal a rheoli'r rhwydwaith cefnffyrdd ledled de Cymru, gan gynnwys unrhyw asedau draenio a pherygl llifogydd cysylltiedig.

Perchnogion Tir/Eiddo

O dan gyfraith gwlad, mae gan berchnogion tir neu eiddo hawliau a chyfrifoldebau sy'n ymwneud ag unrhyw gwrs dŵr sy'n rhedeg drwy neu gerllaw ffiniau eu tir. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i berchennog tir:

  • Drosglwyddo'r llif heb unrhyw rwystr, llygredd neu ddargyfeiriad sy'n effeithio ar hawliau eraill.
  • Derbyn llifogydd naturiol trwy ei dir, hyd yn oed os cânt eu hachosi gan anallu i ymdopi â'r llif o ddŵr i lawr yr afon, oherwydd nad oes dyletswydd cyfraith gwlad i wella cwrs dŵr.
  • Cynnal gwely a glannau'r cwrs dŵr (gan gynnwys coed a llwyni sy'n tyfu ar y glannau) a chlirio unrhyw weddillion, naturiol neu fel arall, gan gynnwys sbwriel a sgerbydau anifeiliaid, hyd yn oes os na ddaeth o'i dir.
  • Sicrhau nad yw pysgod yn cael eu rhwystro rhag nofio'n rhydd.
  • Cadw'r gwely a'r glannau'n glir o unrhyw sylweddau a allai beri rhwystr naill ai ar ei dir, neu drwy gael ei olchi ymaith gan lif uchel i rwystro adeiladwaith i lawr yr afon.
  • Cymryd cyfrifoldeb am ddiogelu ei eiddo rhag diferiadau drwy lannau naturiol neu a adeiladwyd.
  • Cadw unrhyw adeiladwaith y mae'n berchen arno, megis cwlferi, sgriniau sbwriel, coredau etc. yn glir.

O dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae angen i berchennog tir gael caniatâd gan y cyngor os yw am adeiladu cwlfer neu adeiledd rheoli i liniaru llifogydd ar unrhyw gwrs dŵr cyffredin.