Paratoi i hunan-ynysu
Os oes angen i chi hunan-ynysu, rhaid i chi wneud hynny ar unwaith. Efallai y byddai’n ddefnyddiol ystyried y canlynol, er mwyn i chi fod yn barod i ynysu, os oes angen:
- Oes digon o fwyd gyda chi yn y tŷ, neu allwch chi drefnu i rywun gyflenwi bwyd ar fyr rybudd? www.npt.gov.uk/foodbanks
- All rhywun gasglu unrhyw foddion ar bresgripsiwn i chi?
- Ydych chi wedi darllen ynglŷn â pha gefnogaeth ariannol sydd ar gael?
- All rhywun bostio llythyr i chi?
- Oes gyda chi ffordd o gysylltu â ffrindiau, teulu neu gydweithwyr i gael sgwrs?
- All rhywun arall ysgwyddo eich cyfrifoldebau gofalu dros rywun arall?
- Ydych chi’n adnabod rhywun all ofalu am eich anifeiliaid anwes, fel mynd â’r ci am dro?
- Oes gyda chi ffordd o gael cefnogaeth os ydych chi’n teimlo’n unig, pryderus neu angen cymorth penodol?
Cefnogaeth ar gael i’ch helpu i hunan-ynysu
Os nad oes gennych ffrindiau neu deulu i’ch cefnogi, gall ein Gwasanaeth CPT Diogel ac Iach gynnig cymorth gyda’r pwyntiau a restrir uchod, a mwy. Beth bynnag fo eich angen, fe ddylen ni fod yn gallu cynnig eich helpu:
- Ffôn: 01639 686868