Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwerthuso Dewisiadau Cysoni’r Gerbydffordd, Cymer – CRYNODEB

Mae pob dewis yn cynnwys cau’r brif ffordd dros yr afon i bob trafnidiaeth gerbydol, gyda mynediad yn parhau ar gyfer cerddwyr a seiclwyr yn unig.

Mae Dewis 1 yn cadw’r ganolfan iechyd. Mae’r dewis hwn yn cyfyngu ar y cyfle i wneud gwelliannau i ffordd fynediad yr orsaf dân, tro’r Albion a mynediad i’r llyfrgell. Byddai strwythurau presennol y bont dros y rheilffordd ar Heol Maesteg yn cael eu sefydlogi neu’u tynnu i ffwrdd, neu’n gweld tanffordd yn cymryd eu lle er mwyn cynnal cyswllt llwybr seiclo Dyffryn Afan.

Ni fyddai’r dewis hwn yn caniatâu i welliannau ddigwydd i’r cyffyrdd presennol ar Heol yr Orsaf / Heol Maesteg na Heol yr Orsaf / Stryd Margam, nac i’r llwybrau troed yn yr ardal.

Lawrlwytho

  • Dewis Rhif 1 – gwneud y lleiafswm – cadw’r ganolfan iechyd (PDF 1.16 MB)

    m.Id: 31877
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Dewis Rhif 1 – gwneud y lleiafswm – cadw’r ganolfan iechyd
    mSize: 1.16 MB
    mType: pdf
    m.Url: /media/16900/c20910-ga-option-1.pdf

Byddai Dewis 2 yn dileu’r ganolfan iechyd er mwyn galluogi gwelliannau i gael eu gwneud i gysondeb ffordd fynediad yr orsaf dân, tro’r Albion a mynediad i’r llyfrgell. Byddai’r strwythurau pont dros y rheilffordd ar Heol Maesteg yn cael eu hamnewid am danffordd er mwyn cynnal cyswllt llwybr seiclo Dyffryn Afan.

Mae’r dewis hwn yn darparu rhai gwelliannai’n unig o’i gymharu â Dewis 1 i Heol Maesteg, mynediad i’r orsaf dân a thro’r Albion. Ni fyddai dim gwelliannau’n cael eu cyflenwi i’r eiddo sy’n wynebu Heol yr Orsaf.

Lawrlwytho

  • Dewis Rhif 2 – unioni syth – dileu’r ganolfan iechyd (PDF 1.69 MB)

    m.Id: 31878
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Dewis Rhif 2 – unioni syth – dileu’r ganolfan iechyd
    mSize: 1.69 MB
    mType: pdf
    m.Url: /media/16901/c20910-ga-option-2.pdf

Mae Dewis 3 yn cadw’r ganolfan iechyd, gan gyfyngu ar y cyfle i wneud gwelliannau i ffordd fynediad yr orsaf dân a mynediad i’r llyfrgell. Byddai strwythurau presennol y bont dros y rheilffordd ar Heol Maesteg yn cael eu dileu er mwyn galluogi creu pwynt croesi heb ei reoli ar yr un lefel wrth ochr y gylchfan, er mwyn cynnal cyswllt llwybr seiclo Dyffryn Afan.

Byddai’r dewis hwn yn darparu gwelliannau uwch o’i gymharu â dewis 1 a 2 o ran Heol Maesteg, mynediad i’r orsaf dân a thro’r Albion. Byddai unioni’r brif ffordd yn darparu ar gyfer cylchfan yn hytrach na chyffordd-T.

Byddai hyn yn gwella llif y traffig a byddai’n symud trafnidiaeth y briffordd oddi wrth yr eiddo ar Heol yr Orsaf, ble gallai preswylwyr elwa o gael llai o sŵn ac allyriadau gan gerbydau.

Byddai Heol yr Orsaf yn dod yn heol unffordd ar y pwynt hwn, i gyfeiriad blaen y dyffryn, gan roi cyfle i greu rhywfaint o barcio ar y stryd. Yn ddibynnol ar adborth gan y gymuned, byddai’r dewis hwn yn rhoi cyfle i gau Heol yr Orsaf i drafnidiaeth sy’n mynd drwodd, ond byddai’n galw am gaffael tir i greu man i droi yn y pen.

Lawrlwytho

  • Dewis Rhif 3 – cysoni’r gylchfan – cadw’r ganolfan iechyd (PDF 2.36 MB)

    m.Id: 31879
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Dewis Rhif 3 – cysoni’r gylchfan – cadw’r ganolfan iechyd
    mSize: 2.36 MB
    mType: pdf
    m.Url: /media/16902/c20910-ga-option-3.pdf

Mae Dewis 4 yn dileu’r ganolfan iechyd er mwyn galluogi cyfle i ddigwydd i wneud gwelliannau i ffordd fynediad yr orsaf dân, tro’r Albion a mynediad i’r llyfrgell. Byddai strwythurau presennol y bont dros y rheilffordd ar Heol Maesteg yn cael eu dileu er mwyn galluogi creu pwynt croesi heb ei reoli ar yr un lefel wrth ochr y gylchfan, er mwyn cynnal cyswllt llwybr seiclo Dyffryn Afan.

Mae’r dewis hwn yn darparu cyfleoedd i wneud gwelliannau uwch o’i gymharu â Dewisiadau 1, 2 a 3 o ran unioni’r briffordd yn llorweddol a fertigol. Byddai dileu’r ganolfan iechyd yn galluogi gwella’r unioni llorweddol ac yn gwella trefniant y cyffyrdd. Byddai cysoni’r brif ffordd yn darparu ar gyfer cylchfan yn hytrach na chyffordd-T. Byddai hyn yn gwella llif y traffig ac yn ail-gysoni’r drafnidiaeth y briffordd oddi wrth yr eiddo ar Heol yr Orsaf, ble gallai preswylwyr elwa o gael llai o sŵn ac allyriadau gan gerbydau. Byddai Heol yr Orsaf yn dod yn heol unffordd ar y pwynt hwn, i gyfeiriad blaen y dyffryn, gan roi cyfle i greu rhywfaint o barcio ar y stryd.

Fel gyda Dewis 3, byddai hyn yn ddibynnol ar adborth gan y gymuned, gyda chyfle i gau Heol yr Orsaf i drafnidiaeth sy’n mynd drwodd, gan alw am gaffael tir i greu man i droi yn y pen.

Lawrlwytho

  • Dewis Rhif 4 – Y DEWIS A FFAFRIR – cysoni’r gylchfan – dileu’r ganolfan iechyd (PDF 3.11 MB)

    m.Id: 31880
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Dewis Rhif 4 – Y DEWIS A FFAFRIR – cysoni’r gylchfan – dileu’r ganolfan iechyd
    mSize: 3.11 MB
    mType: pdf
    m.Url: /media/16903/c20910-ga-option-4.pdf