Gwybodaeth i Bleidleiswyr
Etholiad Lleol – Dydd Iau 23 Mehefin 2022
Cynhelir yr Etholiad canlynol ar 23 Mehefin 2022:
- Ward Etholiadol Port Talbot
- 2 Gynghorwyr i'w hethol
Cymhwysedd
Ar gyfer etholiadau lleol, rhaid eich bod:
- Wedi cofrestru i bleidleisio: Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, ewch i wefan gov.uk
- Yn 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad
- Yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, yr UE neu o'r Gymanwlad
- Yn ddinesydd tramor cymwys sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r DU neu i aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd o'r fath arnoch.
Cofrestru i bleidleisio
Sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio
Gallwch wirio a ydych wedi cofrestru i bleidleisio drwy e-bostio elections@npt.gov.uk
Mae'n cymryd llai na 3 munud i gofrestru ar-lein. Mae'n helpu i gael eich rhif Yswiriant Gwladol wrth law - gallwch ddod o hyd iddo ar eich slip cyflog, eich P60, neu lythyrau am dreth, pensiynau a budd-daliadau.
Gall pleidleiswyr hefyd gofrestru drwy ffonio 01639 763330.
Peidiwch â gadael cofrestru tan y funud olaf, rhag ofn y bydd gennych unrhyw broblemau.
Pleidleisio mewn Gorsaf Bleidleisio – 23 Mehefin 2022
Mae Gorsafoedd Pleidleisio ar agor o 7.00am tan 10.00pm ar y Diwrnod Pleidleisio – 23 Mehefin 2022
Mae cyfnodau prysur mewn gorsafoedd pleidleisio yn aml yn cynnwys rhwng 7.00am a 9.30am, amser cinio, 3.30pm i 4.30pm a 6.00pm i 8.00pm.
Gall ceisio osgoi'r oriau brig hyn olygu y bydd pleidleiswyr yn aros am gyfnod byrrach.
Bydd unrhyw un sy'n ciwio i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio erbyn 10pm yn dal i allu pleidleisio.
Pleidleiswyr drwy'r post
Rhaid bod ymgeiswyr pleidlais drwy'r post eisoes wedi cofrestru i bleidleisio.
Pleidleiswyr drwy ddirprwy
Mae pleidleisiwr drwy ddirprwy yn rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo rydych chi'n ei benodi i bleidleisio ar eich rhan.
Mae'n rhaid i chi eisoes fod wedi cofrestru i bleidleisio i wneud cais drwy ddirprwy. Mae ffurflenni a manylion llawn am gymhwysedd i'w gweld ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Rhaid i'ch dirprwy fod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad a bydd angen iddo allu pleidleisio'n bersonol yn eich gorsaf bleidleisio, neu bydd angen iddo wneud cais i fwrw pleidlais drwy ddirprwy drwy'r post.
Byddant yn derbyn llythyr neu gerdyn pleidleisio yn eu cyfeiriad nhw, a fydd yn rhoi'r manylion angenrheidiol iddynt.
Pleidleiswyr drwy ddirprwy brys
Gall pleidleisiau drwy ddirprwy brys fod ar gael ar ôl y dyddiad cau ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy tan 5.00pm ar 23 Mehefin 2022, ond dim ond am resymau gwaith neu iechyd penodol.