Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Opsiynau Digwyddiadau Coroni’r Brenin Charles III

Partïon Gardd

Un opsiwn ar gyfer dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines yw cynnal partïon yng ngerddi preifat pobl.

Canolfannau Cymunedol neu leoliadau lleol eraill

Neuaddau eglwys neu bentref (er enghraifft) fel lleoliad amgen ar gyfer pobl sydd eisiau trefnu ymgynulliad cymunedol mwy ffurfiol – yn enwedig o ystyried tywydd Cymru – hyd yn oed ym mis Mai does dim sicrwydd y bydd hi’n sych! Bydd angen gwneud cais i’r lleoliadau perthnasol.

Llecynnau cyhoeddus agored

Ardaloedd fel parciau neu lecynnau gwyrdd addas eraill byddai angen gwneud cais ffurfiol i’r tirfeddiannwr. Os yw’r tir yn eiddo i’r cyngor, cysylltwch â specialevents@npt.gov.uk ar y cyfle cyntaf posib os gwelwch yn dda i gael gwybodaeth ynghylch pa ddogfennau fydd angen i chi eu darparu. 

Partïon Stryd (cau heolydd)

Os ydych chi eisiau trefnu partïon stryd, bydd angen i chi ddarllen y canllawiau ar yr holl wybodaeth fydd ei angen ar y cyngor oddi wrthych. Fel arall, csylltwch os gwelwch yn dda â specialevents@npt.gov.uk

Bydd angen i chi ei llenwi Ffurflen i Gofrestru Digwyddiad.

Bydd gofyniad gorfodol i sicrhau fod gwerth £5 miliwn o warant Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus yn ei le cyn y gellir prosesu’r ceisiadau i gau heolydd.

Bydd angen cyflwyno ceisiadau terfynol i gau heolydd erbyn 28 Chwefror 2023 fan bellaf

Mae angen darpariaeth Cymorth Cyntaf hefyd rhag ofn y bydd damweiniau neu anafiadau’n digwydd – bydd gan rai partïon stryd fwy o risg o berygl na’i gilydd, yn dibynnu ar y gweithgareddau fydd yn digwydd. Gellir darparu darpariaeth cymorth cyntaf gan bobl sy’n mynychu’r parti, ar yr amod fod ganddynt gymwysterau addas a’u bod yn ymwybodol o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau. Bydd angen i ni weld copïau o’u tystysgrifau cymhwyster cymorth cyntaf.