Diwygio Lles
Mae'r newidiadau mwyaf i'r system les ers 60 o flynyddoedd yn digwydd yn dilyn cyflwyno'r Ddeddf Diwygio Lles.
Mae nodau'r diwygiadau'n cynnwys:
- Darparu cymhellion er mwyn cael mwy o bobl i weithio
- Darparu system symlach er mwyn darparu cefnogaeth mewn un taliad
- Arbed £18 biliwn yn nhymor y senedd bresennol
Mae gan y fwrdeistref sirol niferoedd uchel o bobl â phroblemau iechyd ac anableddau tymor hir sy'n derbyn budd-daliadau analluogrwydd ac anabledd; a niferoedd sylweddol o bobl sy'n derbyn budd-daliadau'n gyffredinol. O ganlyniad, mae'r newidiadau hyn yn cael effaith ariannol sylweddol ar nifer o bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'r awdurdod lleol a'i bartneriaid yn gweithio ar y cyd i ddarparu cymorth a chyngor i'r rhai yr effeithir yn andwyol arnynt.
Mae union fanylion y diwygiadau'n cael eu datblygu a'u diwygio'n barhaus. Mae statws presennol y prif newidiadau cynlluniedig yn cael eu crynhoi isod, a byddant yn cael eu diweddaru wrth i ddatblygiad pellach ddigwydd.
Budd-dal Analluogrwydd/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Mae pobl sy'n derbyn Lwfans Analluogrwydd, a budd-daliadau eraill oherwydd salwch neu anabledd yn cael eu hailasesu ar hyn o bryd gan ddefnyddio prawf llymach er mwyn bod yn gymwys i dderbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Budd-dal Tai
Mae nifer o newidiadau eisoes wedi cael eu gwneud i fudd-dal tai ers 2011. Yn sgîl newidiadau pellach sydd wedi dod i rym ers Ebrill 2013 cafwyd gostyngiad ym mudd-dal tai tenantiaid yn y sector rhentu cymdeithasol, yr ystyrir bod 'gormod o le' ganddynt.
Mae'r diffiniadau'n anhyblyg iawn, er enghraifft, disgwylir i bobl ifanc o'r un rhyw rannu ystafell wely hyd at 16 oed. Bydd gostyngiad o 14% yn y rhent a ganiateir ar gyfer budd-dal tai i'r rhai ag un ystafell sbâr a bydd gostyngiad o 25% i'r rhai â 2 ystafell wely sbâr neu fwy. Ar hyn o bryd, mae'r newid hwn yn effeithio ar dros 2,000 o aelwydydd. Dylai'r rhai yr effeithir arnynt geisio cyngor gan eu landlord yn y lle cyntaf.
Ers mis Gorffennaf 2013, mae terfyn budd-dal wedi cael ei gyflwyno. Mae hyn yn golygu y cyfyngir ar fudd-dal tai pobl sengl ag incwm cyfunol o dros £350 yr wythnos neu gyplau ag incwm dros £500 yn unol â hyn.
Wrth edrych i'r dyfodol, caiff Budd-dal Tai ei ddileu pan gyflwynir Credyd Cynhwysol oherwydd bydd costau tai'n rhan o'r cyfrifiad.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen am Gredyd Cynhwysol.
Cymhorthdal Treth y Cyngor
Diddymwyd Budd-dal Treth y Cyngor o fis Ebrill 2013 a chafodd ei ddisodli gan Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. O ganlyniad i hyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn 10% yn llai o gyllid gan Lywodraeth San Steffan na'r hyn a gafwyd yn flaenorol.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013/14, nid yw'r mwyafrif o'r rhai a oedd yn derbyn Bydd-dal Treth y Cyngor yn flaenorol wedi gweld unrhyw wahaniaeth yn eu hawl gan fod Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd yn cyfrannu at unrhyw ddiffyg. Nid yw'n bosib dweud ar hyn o bryd beth fydd yn digwydd yn y dyfodol!
Mae'r rhai a oedd yn derbyn ad-daliad ail oedolyn yn flaenorol bellach wedi colli'r hawl i'r ad-daliad hwn gan ei fod wedi'i ddileu dan y cynllun newydd.