Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datblygu Twristiaeth

Melincwrt Waterfall

Yn 2012, cyfrannodd twristiaeth £99.6 miliwn at economi Castell-nedd Port Talbot a chefnogodd 1,637 o swyddi'n lleol.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymroddedig i gynyddu effaith twristiaeth ar yr ardal leol ac mae'n parhau i fuddsoddi yn natblygiad cyfleusterau a phrosiectau twristiaeth i gynyddu nifer yr ymwelwyr â'r ardal. 

I gael mwy o wybodaeth am ddatblygiad twristiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i wefan Busnes Castell-nedd Port Talbot.

I gael gwybod mwy am yr amrywiaeth o bethau i'w gweld yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i www.visitnpt.co.uk ac www.afanforestpark.co.uk

Cognation Mountain Biking in Afan Forest Park

Mae llwybrau beicio mynydd Cognation De Cymru wedi buddsoddi mewn beicio mynydd ar draws de Cymru dros y blynyddoedd diwethaf a'i nod yw hyrwyddo'r ardal fel un o'r lleoedd gorau yn y byd i feicio mynydd.

Arweinir y fenter gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar ran partneriaid ar draws de Cymru, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, CBS Merthyr Tudful ac CBS Caerffili. Mae'r prosiect wedi buddsoddi mewn llwybrau beicio mynydd newydd a gwelliannau i'r ganolfan ymwelwyr ym Mharc Coedwig Afan a llwybr digwyddiadau beicio mynydd a man digwyddiadau newydd ym Mharc Gwledig Margam.

Yn ogystal â hyn, mae datblygiadau eraill ar draws de Cymru'n cynnwys maes parcio estynedig, uned manwerthu a chyfleusterau cawod newydd, a pharc beicio mynydd traws gwlad a disgynnol yng Nghwm-carn, Caerffili, a Pharc Beicio Cymru newydd ym Merthyr Tudful, sef y parc beicio masnachol graddfa lawn gyntaf yn y DU.

Amcan Cognation yw gwella'r cyfleusterau a'r llwybrau beicio mynydd yn ne Cymru fel cymhelliant allweddol ar gyfer datblygiad economaidd yn y rhanbarth.

Yn ogystal â gwella cyfleusterau ar lawr gwlad, mae Cognation wedi rhoi strategaeth farchnata ar waith i hyrwyddo'r cyfleusterau i'r farchnad leol a marchnad y DU.

Ariennir Cognation yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Gydgyfeirio'r UE trwy Lywodraeth Cymru gydag arian cyfatebol o Ardaloedd Adfywio Strategol Blaenau'r Cymoedd a Chymoedd y Gorllewin Llywodraeth Cymru, Parc Beicio Cymru a sefydliadau partner.

I gael gwybod mwy am Cognation, ewch i www.cognation.co.uk