- Seremoni Codi Baner – Cynhelir a rheolir yn flynyddol gan Swyddfa’r Maer – dyddiad tua diwedd mis Mehefin fel arfer
- Dydd y Cadoediad – Rheolir gan Swyddfeydd y Lleng Brydeinig Frenhinol
- Dathliad Brwydr Prydain – Rheolir gan RAFA
- Gorymdeithiau Rhyddid - Cynhelir yn achlysurol, bob 3-5 mlynedd
Gwasanaeth Coffa’r Lleng Brydeinig Frenhinol
Ddydd Sul 10 Tachwedd 2019
Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol unwaith eto'n trefnu'r Gwasanaethau Coffa blynyddol yn y fwrdeistref sirol. Bydd Arweinwyr Dinesig yn ymuno â'r gorymdeithiau ym Mhort Talbot a Chastell-nedd.
Port Talbot
Bydd yr orymdaith yn gadael Gwesty’r Grand am 10.15 am ac yn teithio i'r Senotaff yn y Parc Coffa, Tai-bach, am Wasanaeth Coffa a Gosod Torchau, a dilynir hyn gan y Salíwt a'r Orymdaith y tu allan i Westy'r Grand.
Castell-nedd
Cynhelir y Salíwt a'r Orymdaith y tu allan i Swyddfeydd Cyngor y Dref (ger Neuadd Gwyn) am 10.45am, ac yna ceir Gwasanaeth Coffa yn Eglwys Dewi Sant am 11.00am. Ar ôl y gwasanaeth bydd gorymdaith i'r Gatiau Coffa wrth y fynedfa i Barc y Gnoll er mwyn gosod torchau.
Pontardawe
Bydd gwasanaeth yn Eglwys San Pedr am 9.45am ac ar ôl hyn bydd pobl yn cerdded i'r Gofeb Ryfel er mwyn gosod torchau.
Newyddion