Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus
Cynllun Llesiant Lleol
Pasiwyd deddf newydd yn 2015 gan Lywodraeth Cymru a elwir Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Noda'r ddeddf bod rhaid sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.
Sefydlwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot ym mis Mai 2016 i ddod â sefydliadau lleol ynghyd ac atgyfnerthu'r ffordd y maent yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn gwella lles y bobl sy'n byw yn ein bwrdeistref sirol.
Partneriaeth o sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol lleol o ar draws yr ardal yw Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot sy'n cynnwys:
Partneriaid statudol:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfranogwyr gwahoddedig:
- Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol CNPT
- Heddlu De Cymru
- Tai Tarian
- Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
- Cwmni Ailsefydlu Cymunedol Cymru
- Canolfan Byd Gwaith
- Grŵp Colegau CNPT
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Llywodraeth Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Cynghorau Tref a Chymuned
Yn unol â’r Ddeddf, bu’r bwrdd yn asesu lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar draws yr ardal. Roeddem wedi casglu llawer o wybodaeth am gryfderau pobl a chymunedau er mwyn deall sut i wella lles. Hefyd gwnaethom ddisgrifio’r heriau a’r cyfleoedd a wynebir, heddiw ac yn y dyfodol, gan Gastell-nedd Port Talbot. Defnyddiwyd yr wybodaeth hon yn yr Asesiad Lles a gyhoeddwyd ym mis Mai 2017.
Asesiad Lles" Lles yw: "Byw eich bywyd gydag iechyd da a hapusrwydd "
Mae'r bwrdd am greu Castell-nedd Port Talbot lle bydd pobl yn cael y cyfle gorau mewn bywyd. Mae llawer o bethau yng Nghastell-nedd Port Talbot i ni ymfalchïo ynddynt, ond rydym yn cydnabod bod heriau mawr hefyd. Mae'r Bwrdd wedi ymchwilio i'r meysydd lle gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf ac wedi ymgynghori â phobl leol, ac maent wedi pennu chwe blaenoriaeth y byddant yn eu datblygu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae'r Cynllun Lles Lleol yn egluro'r blaenoriaethau hyn, ynghyd ag esbonio sut bydd y gwaith yn dechrau ar y blaenoriaethau hyn a sut gall y bobl a'r sefydliadau lleol fod yn rhan o'r gwaith.
Mae'r Cynllun Lles hefyd yn nodi gweledigaeth tymor hir y bwrdd ar gyfer yr ardal.
Cynllun LlesLawrlwytho
-
Cynllun Lles 2018-2023 (DOCX 974 KB)
m.Id: 16074
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cynllun Lles 2018-2023
mSize: 974 KB
mType: docx
m.Url: /media/9093/cynllun-lles-2018-2023.docx
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf, yn amlinellu gwaith a wnaed a’r camau nesaf mae’n bwriadu eu cymryd tuag at wella llesiant yn y fwrdeistref sirol.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus drwy ffonio'r: 01639763677. E-bost: psb@npt.gov.uk neu ymwelch â www.nptpsb.org.uk