Cronfa Twf Economaidd a Buddsoddi
Mewn ymateb i gynlluniau datgarboneiddio Tata Steel (UK) a'r ailstrwythuro cysylltiedig ar eu safle ym Mhort Talbot, sefydlwyd Cronfa Twf Economaidd a Buddsoddi. Mae’r gronfa’n cynnwys £6.78 miliwn oddi wrth Lywodraeth y DU a £5 miliwn oddi wrth Tata Steel UK.
Mae'r gronfa yn ceisio cefnogi prosiectau twf a fydd yn darparu buddion economaidd hirdymor, yn ysgogi buddsoddiad newydd ac yn creu swyddi newydd cynaliadwy yn ardaloedd yr awdurdodau lleol sy'n cael eu heffeithio fwyaf.
Gellir dyfarnu grantiau rhwng £300,001 a £1.5m @ 70% o gostau cyfalaf a refeniw cymwys i ymgeiswyr llwyddiannus. Mewn amgylchiadau eithriadol, gallai hyn godi i £2m.
Bydd y gronfa yn cefnogi prosiectau sy'n:
- denu ac yn annog buddsoddiad a thwf
- cynyddu cynhyrchiant a meithrin arloesedd
- creu a diogelu cyflogaeth gynaliadwy gwerth uchel
- gwella seilwaith ac eiddo busnes
Efallai y bydd eich busnes yn gymwys i wneud cais os yw:
- yn ardaloedd awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot neu Abertawe neu'n lleoli yno
- yn Fenter Fach neu Ganolig (BBaCh) neu'n ganolfan elw annibynnol ar gyfer grŵp
- wedi bod yn masnachu'n weithredol am o leiaf 24 mis
AC
- yn gweithredu mewn sector allweddol, h.y. rhoddir blaenoriaeth i fusnesau sy'n gweithredu ym maes Gweithgynhyrchu Uwch Gwerth Uchel, Ynni Gwyrdd ac Ynni Adnewyddadwy, Deunyddiau ac Economi Gylchol (gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi'r sector Dur), Digidol/Technoleg, Niwclear, Peirianneg, Medd-Tech, Amddiffyn, Adeiladu, Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS), Cynhyrchu Hydrogen a diwydiannau sy'n gysylltiedig â'r economi werdd
Bydd busnesau sydd â'r potensial i gryfhau'r gadwyn gyflenwi leol ac sy'n gysylltiedig â throsglwyddo Tata Steel UK i wneud dur gwyrdd, Ffermydd Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOW), Llanw, a diwydiannau eraill, hefyd yn gymwys i wneud cais os gallant ddangos tystiolaeth o fudd sylweddol i'r economi leol.
Darllenwch y Meini Prawf a'r Canllawiau i Ymgeiswyr a'r Cwestiynau Cyffredin i wirio eich cymhwysedd cyn gwneud cais.
Ar gyfer ffurflen gais neu unrhyw gwestiynau ac ymholiadau, anfonwch e-bost at: tsukgrantqueries@npt.gov.uk
I’n galluogi i ymateb yn gynt i chi, a wnewch chi gynnwys yn eich e-bost:
- enw cyswllt
- enw busnes
- rhif ffôn cyswllt
- lleoliad y busnes – Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot neu Abertawe
Llawrlwythiadau
-
Cwestiynau cyffredin (DOCX 131 KB)
-
Meini prawf a chanllawiau i ymgeiswyr (DOCX 159 KB)
-
Canllawiau a meini prawf sgorio (DOCX 313 KB)