Gwneud cwyn am fwyd
Gallwch wneud cwyn am fwyd rydych wedi’i brynu yn Castell-nedd Port Talbot, neu am fusnes bwyd sydd wedi’i leoli yn y fwrdeistref.
Cwynion am fwyd
Rhowch wybod i ni am fwyd os yw’n:
- wedi achosi gwenwyn bwyd
- yn gallu bod yn anniogel i’w fwyta
- yn cynnwys gwrthrych estron, fel metel neu wydr
- wedi’i halogi â chemegau neu ychwanegion heb eu hawdurdodi
- ddim yr hyn y mae’n honni ei fod
- wedi’i labelu’n anghywir neu’n gamarweiniol (er enghraifft, cig eidion wedi’i werthu fel oen)
Ni allwn ddelio â chwynion lle rydych yn anfodlon â’r ansawdd ac ond yn dymuno cael ad-daliad.
Cwynion am fusnesau bwyd
Rhowch wybod i ni am fusnes bwyd os yw:
- yn peri risg i iechyd (er enghraifft, tystiolaeth o blâu)
- wedi’i effeithio gan lifogydd, carthffosiaeth neu hylendid gwael
- yn arogli o nwy
- yn caniatáu ysmygu y tu mewn
- yn peri risg i ddiogelwch y cyhoedd
Gwnewch gŵyn
Gallwch roi gwybod am gŵyn am fwyd ar-lein.
Bydd angen i chi ddarparu:
- eich manylion cyswllt
- enw a chyfeiriad y busnes
- disgrifiad o’r broblem
- tystiolaeth ategol, megis lluniau, pecynnu neu dderbynebau
Nid ydym yn ceisio am ad-daliad nac iawndal ar eich rhan o ganlyniad i chi gyflwyno cwyn am fwyd
Beth sy'n digwydd nesaf
Byddwn yn trosglwyddo eich cwyn i'r Tîm Diogelwch a Hylendid Bwyd.
Bydd swyddog yn cysylltu â chi os oes angen ymchwilio ymhellach i'ch cwyn.
Cysylltwch â ni
Am gyngor neu ragor o wybodaeth ar sut i wneud cwyn, cysylltwch â:
Tîm Diogelwch a Hylendid Bwyd