Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwybodaeth ychwanegol y gall fod ei hangen arnoch

Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth ategol a thystiolaeth gyda’ch hawliad. Rhaid i’r rhain fod yn ddogfennau gwreiddiol, nid llungopïau.

Fel arfer, bydd angen i ni weld:

  • dau ddarn o dystiolaeth sy’n cadarnhau pwy ydych chi
  • un ddogfen sy’n dangos eich rhif Yswiriant Gwladol (a rhif eich partner, os oes angen)
  • prawf o’ch holl incwm
  • prawf o’ch holl gynilion a buddsoddiadau
  • prawf o incwm unrhyw un sy’n byw gyda chi nad yw’n dibynnu arnoch yn ariannol

Mae’r ffurflen gais yn rhoi manylion am y math o dystiolaeth rydym yn ei derbyn.

Dylech wneud eich hawliad cyn gynted â phosibl. Os nad oes gennych unrhyw un o’r dystiolaeth ategol pan fyddwch yn gwneud eich hawliad, gallwch ei chyflwyno’n hwyrach. Rhaid i ni dderbyn yr dystiolaeth hon o fewn un mis calendr o ddyddiad eich hawliad.

Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i brosesu’ch hawliad, bydd oedi cyn talu’ch budd-dal.

Cynilion a chyfalaf

Rhaid i chi roi gwybod i ni am eich holl gynilion a buddsoddiadau.

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • yr arian sydd gennych mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (hyd yn oed os yw’r cyfrif mewn gorddrafft)
  • tir neu eiddo rydych yn berchen arno, heblaw am y cartref rydych yn byw ynddo
  • stociau a chyfranddaliadau
  • bondiau premiwm
  • tystysgrifau cynilion cenedlaethol
  • cyfrifon ISA
  • cyfrifon Swyddfa’r Post
  • Crypto

Nid yw hon yn rhestr gyflawn, a’i diben yw rhoi enghreifftiau’n unig o’r hyn y mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni amdano.

Effaith ar fudd-dal

Os oes gennych fwy na £16,000 mewn cynilion neu fuddsoddiadau, fel arfer ni fyddwch yn gymwys i gael budd-daliadau.

Os ydych chi o oedran pensiwn, ni chaiff y £10,000 cyntaf ei gyfrif.

Os ydych yn cael Credyd Gwarant gan y Gwasanaeth Pensiynau, nid yw’r terfyn cynilion o £16,000 yn berthnasol. Gallwch barhau i gael budd-daliadau hyd yn oed os yw’ch cynilion yn uwch na’r swm hwn.

Nid yw rhai mathau o gynilion a buddsoddiadau yn cael eu cyfrif wrth gyfrifo’ch budd-daliadau.  I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’r Adran Budd-daliadau.

Rhannu eich Adborth