Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwnewch gais am Fudd-dal Tai

Gyda rhai eithriadau, mae Budd-dal Tai wedi’i ddisodli gan fudd-dal newydd o’r enw Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth gyda chostau tai, felly nid oes angen i chi hawlio Budd-dal Tai.

Dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol i chi y gallwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai:

  • rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • rydych yn byw mewn tai â chymorth, tai gwarchod neu lety dros dro

Ni fyddwch yn cael Budd-dal Tai os:

  • rydych yn cael Credyd Cynhwysol neu’n gymwys i’w hawlio
  • rydych yn rhentu’ch cartref gan berthynas agos sy’n byw yn yr un tŷ
  • rydych yn berchen ar yr eiddo rydych yn hawlio budd-dal ar ei gyfer, neu os oes gennych forgais ar yr eiddo hwnnw
  • mae gennych chi a’ch partner gynilion neu fuddsoddiadau ar y cyd o fwy na £16,000 (oni bai eich bod yn derbyn Credyd Gwarant)
  • rydych yn ddinesydd tramor sy’n destun rheolaeth fewnfudo

Rhannu eich Adborth