Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Teithio Llesol

Rhesel Beiciau Am Ddim

Er mwyn helpu i annog mwy o bobl i feicio, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhoi hyd at bedair rhesel feiciau am ddim i sefydliadau mewn lleoliadau lle mae angen cyfleusterau parcio beiciau.

Ystyr Teithio Llesol yw gwneud ein teithiau pob dydd – fel teithio i’r ysgol, i’r gwaith neu i’r siopau trwy gerdded, beicio neu olwyno.

Byddwch teithio llesol chi’n arbed arian, gwella eich iechyd a helpu'r blaned.

Gwelwch Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol CnPT.

Mae'r cynllun hwn nodi'r weledigaeth ar gyfer teithio llesol a sut y caiff y rhwydwaith teithio llesol ei wella a'i ymestyn yn CNPT dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd newid sut rydyn ni’n symud o gwmpas Castell-nedd Port Talbot yn cael effaith aruthrol ar eich cymuned. Wyddech chi? Mae 2 o bob 3 taith yn llai na 5 milltir. Os nad yw’n bell, mae gadael y car yn well!

Oes angen cefnogaeth arnoch chi i gael eich traed danoch?

Awgrymiadau defnyddiol i helpu chi'n cynllunio eich taith.

Mae arolygon a gynhaliwyd fel rhan o’n rhaglen teithio llesol yng Nghymru yn dangos y byddai’n well gan ddisgyblion deithio’n llesol petaen nhw’n cael dewis.

Dylai cyflogwyr ar draws Castell-nedd Port Talbot annog eu gweithwyr i ystyried cerdded, beicio neu olwyno.

Mae angen eich help chi arnon ni wrth i ni lunio cynlluniau Teithio Llesol i wella trefi a phentrefi yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Rydym yn ymdrechu i'w gwneud yn fwy diogel ac yn haws i bobl gerdded, beicio ac olwyno yn y sir.

Gweld y lleoliadau storio beiciau a rhwystrau beiciau rydym wedi'u mapio

Beth yw Teithio Llesol?

Ystyr Teithio Llesol yw gwneud ein teithiau pob dydd – fel teithio i’r ysgol, i’r gwaith neu i’r siopau trwy gerdded, beicio neu olwyno.

""  "" ""

Sut bydd teithio llesol yn fy helpu i?

Byddwch chi’n arbed arian

Mae ceir yn gallu bod yn ddrud. Mae treth cerbyd, cynnal a chadw a chostau yswiriant yn costio tua £969 y flwyddyn. A dyw hynny ddim yn cynnwys y tanwydd i’w yrru.

Byddwch chi’n gwella eich iechyd a’ch llesiant

Gall cerdded yn rheolaidd leihau’r risg o ddatblygu clefyd y galon, ac mae teithio llesol yn helpu i leddfu lefelau straen, gan gyfrannu at eich lles meddyliol.

Byddwch chi’n helpu eich cymuned a’r blaned

Mae teithio llesol yn lleihau tagfeydd, allyriadau carbon deuocsid (CO2) a llygryddion eraill yn yr aer.

Byddwch chi’n arbed amser

Mae’n gyflymach nag y byddech chi’n tybio – gallwch chi gerdded milltir mewn rhyw 15 – 20 munud neu feicio mewn 5. Gallai gymryd hwy na hynny i ffeindio allweddi’r car!

"" "" ""  ""

*

Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol

Mae ein Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol yn dangos ble mae llwybrau cerdded a beicio eisoes yn bodoli (Llwybrau Presennol) a ble rhagwelir uwchraddio neu lwybrau newydd sbon yn ystod y 15 mlynedd nesaf (Llwybrau i’r Dyfodol). Fel y nodir gan Lywodraeth Cymru, dylai’r llwybrau hyn fod yn yr ardaloedd canlynol:

Castell-nedd, Port Talbot, Pontardawe, Croeserw, Cymer, Brynaman, Gwaun Cae Gurwen, Blaengwrach, Glyn-nedd, Cwmafan, Blaendulais a Resolfen.

Mae hyn yn bwysig oherwydd gallwn ni wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn i weithredu’r cynigion ar y map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol. Os nad yw llwybrau ar y map, dydyn nhw ddim yn gymwys i gael eu hariannu.

‘Gweld y Map diweddaraf o’r Rhwydwaith Teithio Llesol a gymeradwywyd yn 2022:

Fersiwn y gellir ei lawrlwytho o ein Map o'r rhwydwaith Teithio Llesol:

Cynllun Cyflawni Teithio Llesol

Mae Cynllun Cyflawni Teithio Llesol Castell-nedd Port Talbot yn nodi'r glasbrint ar gyfer y ffordd rydym yn bwriadu annog a hwyluso newid mewn dulliau teithio er mwyn i bobl wneud siwrneiau lleol drwy gerdded, beicio ac olwyno (e.e. cadeiriau olwyn, sgwteri, pramiau). Mae'r Cynllun Cyflawni Teithio Llesol yn cydnabod gwerth economaidd a chymdeithasol teithio llesol, gan esbonio rôl gwahanol randdeiliaid a nodi camau gweithredu â blaenoriaeth sy'n adlewyrchu'r adnoddau sydd ar gael.

*

Mwy Gwyrdd, Hapus a Iach

Ar draws y wlad, mae mwy a mwy o bobl yn dewis teithio’n llesol, er mwyn bod yn fwy:

  • Gwyrdd
  • Hapus
  • Iach

Bydd newid sut rydyn ni’n symud o gwmpas Castell-nedd Port Talbot yn cael effaith aruthrol ar eich cymuned. A byddwch yn darganfod golygfeydd a seiniau newydd doeddech chi byth yn ymwybodol ohonyn nhw!

Wyddech chi? Mae 2 o bob 3 taith yn llai na 5 milltir

Dewiswch gerdded, beicio neu olwyno

"" "" ""

Os nad yw’n bell, mae gadael y car yn well!

*

Ychydig o ysbrydoliaeth

Oes angen cefnogaeth arnoch chi i gael eich traed danoch?

P’un a ydych chi’n mynd am dro byr pwyllog neu’n teithio o gwmpas ar feic, mae bod yn actif yn gallu bod yn llesol i bawb.

Mae ymuno â chlwb beicio lleol yn ffordd wych o gael cyngor ar feicio, y math o feic sy’n addas i chi, a hefyd mae’n ffordd wych o fwynhau manteision beicio, cadw’n heini a gwneud ffrindiau newydd. Isod nodir rhai clybiau beicio lleol y gallech chi ddewis ymuno â nhw.

Clwb beicio yn Abertawe yw Swansea Wheelrights, a’u ffocws yw helpu pobl i fynd ar gefn beic, er enghraifft, trwy ddarparu dosbarthiadau dechreuwyr.  

Mae’r Port Talbot Wheelers yn trefnu amrywiaeth o rasys agored a threialon amser yn ystod y flwyddyn. Maen nhw’n cynnal amrywiol reidiau ar hyd yr wythnos sy’n addas ar gyfer safon amrywiol o allu.

Mae’r Swansea Cycle Group yn beicio yn Abertawe a’r cyffiniau. Maen nhw’n darparu ar gyfer pob oed a lefel o allu, ond sylwer bod rhaid i riant neu warcheidwad hebrwng plant o dan 16 oed.

*

Byddwch yn barod

  • Gallwch ysgafnhau’r baich trwy gadw pethau yn eich cyrchfan, e.e. sgidiau neu ail frwsh gwallt.
  • Bydd bagiau bach gwrth-ddŵr yn cadw eich eiddo’n ddiogel rhag glaw, chwys, neu ollyngiadau, heb fod angen sach gefn ddrud arnoch chi.
  • Os byddwch chi’n cario bwyd, meddyliwch beth allai deithio’n dda, a rhowch e mewn cynhwysydd priodol.
  • Rhowch bopeth yn barod y noson flaenorol os ydych chi’n teithio yn y bore. Byddwch chi’n llai tebygol o anghofio rhywbeth!
  • Byddwch yn actif am gymaint neu gyn lleied o’ch taith ag y dymunwch. Mae disgyn o’r bws arhosfan yn gynnar a cherdded am 10 munud ychwanegol yn cyfri.
  • Ymunwch â ffrind neu gydweithiwr i gymell eich gilydd a chael cwmni.

"" "" "" "" "" ""

Ysgolion

Pam dylai ysgolion hybu teithio llesol i’r ysgol

Mae arolygon a gynhaliwyd fel rhan o’n rhaglen teithio llesol yng Nghymru yn dangos y byddai’n well gan ddisgyblion deithio’n llesol petaen nhw’n cael dewis.

Yn amlwg, gall manteision polisi teithio mwy llesol i ysgolion fod yn sylweddol iawn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Bod y plant yn cyrraedd yr ysgol yn ffres ac yn barod i ddysgu, gyda lefelau canolbwyntio uwch ar hyd y dydd.
  • Bod y strydoedd o amgylch yr ysgol yn fwy diogel, a’r aer yn lanach, gyda llai o dagfeydd.
  • Gall annog ffordd actif o fyw yn ifanc helpu plant yn nes ymlaen yn eu bywydau.
  • Bydd addysgu plant am leihau allyriadau carbon a helpu i ddiogelu ein planed yn helpu yn ein brwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.
*

Cyflogwyr

Rheseli Beiciau Am Ddim

Er mwyn helpu i annog mwy o bobl i feicio, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhoi hyd at bedair rhesel feiciau am ddim i sefydliadau mewn lleoliadau lle mae angen cyfleusterau parcio beiciau - er enghraifft gweithleoedd, cyfleusterau hamdden neu amwynderau a ddefnyddir gan y cyhoedd. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.

""

Pam dylai cyflogwyr hybu teithio llesol ymhlith eu staff

Dylai cyflogwyr ar draws Castell-nedd Port Talbot annog eu gweithwyr i ystyried cerdded, beicio neu olwyno, er mwyn teithio i’r gwaith mewn modd iachach, sy’n fwy llesol i’r amgylchedd. Gadael y car gartref yw’r ffordd fwyaf gwyrdd o deithio.

Mae yna gynlluniau gwych ar gael, fel y cynllun beicio i’r gwaith, sy’n rhoi mantais arbed 25-39% ar feic ac ategolion i weithwyr. Dyw’r gweithwyr ddim yn talu unrhyw fath o flaendal, a chymerir y taliadau mewn modd treth-effeithlon o’u cyflog gennych chi, eu cyflogwr.

Gallech chi hyd yn oed gynnal cystadlaethau, a gofyn i weithwyr gadw cofnod o’u ‘teithiau llesol’ er mwyn cystadlu â chydweithwyr i weld pwy sy’n gallu gwneud y nifer uchaf o filltiroedd ar droed/feic.

"" "" ""

Sut gallwn ni helpu

Bydden ni wrth ein bodd yn clywed eich syniadau.

Cysylltwch â greener@npt.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

""

Ymgynghori ar Deithio Llesol

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ymgynghoriadau teithio llesol byw ar gyfer Castell-nedd Port Talbot.

Os hoffech chi ymwneud â digwyddiadau ymgysylltu Teithio Llesol Castell-nedd Port Talbot yn y dyfodol, anfonwch e-bost i greener@npt.gov.uk a byddwn ni’n rhoi gwybod i chi pan fydd yr ymgysylltiad nesaf yn fyw.

Datblygu'r llwybr - gwella Teithio Llesol yng Nghastell-nedd Port Talbot

Rydym yn ymdrechu i'w gwneud yn fwy diogel ac yn haws i bobl gerdded, beicio ac olwyno yn y sir ac o'i chwmpas drwy wella llwybrau a chyfleusterau cerdded a beicio ar gyfer teithiau pob dydd. Mae'r adran hon yn manylu ar y cynlluniau teithio llesol rydym wedi'u datblygu yn y blynyddoedd diweddar drwy Gyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Daw cyllid Teithio Llesol oddi wrth Lywodraeth Cymru (gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru) drwy grant pwrpasol, a elwir yn ddyraniad craidd, a grantiau mwy ar gyfer prosiectau penodol y mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud cynnig amdanynt mewn proses gystadleuol.

Gwelliannau i lwybrau

Mae'r llwybr cerdded a beicio gerllaw Fabian Way a Ffordd Amazon yn llwybr allweddol i bobl sy'n cymudo i Abertawe o Gastell-nedd Port Talbot ac i'r gwrthwyneb. Gwnaed mân welliannau (er enghraifft, gwella draeniad, arwyddion beicio a marciau ffordd) ar y llwybr teithio llesol hwn i'w gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr ei ddefnyddio a'i ddilyn a sicrhau ei fod yn cyrraedd safonau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Derbyniodd y cyswllt poblogaidd hwn rhwng Ysgol Gyfun Dŵr y Felin a chanol tref Castell-nedd gyllid teithio llesol yn 2020 i wella'r droedffordd rhwng y bont droed bresennol a chanol tref Castell-nedd. Roedd y gwaith yn cynnwys ail-wynebu’r llwybr a gosod croesfannau isel/palmant cyffyrddol i ganiatáu gwell mynediad i bob math o ddefnyddiwr.

Derbyniodd y llwybr hardd hwn, sy'n rhedeg yn bennaf ar hyd Camlas Nedd, gyllid teithio llesol dros gyfnod o bedair blynedd. Mae'r gwelliannau a wnaed o fewn y cyfnod amser hwn yn cynnwys ailwynebu, symud rhwystrau, gwella arwyddion a gosod croesfan lleihau cyflymder ar y B4434 rhwng Llansawel a Thonna.  Mae'r gwelliannau hyn wedi galluogi aelodau o'r gymuned, fel y rheini â phramiau, cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd, i deithio rhwng ardaloedd preswyl Llansawel a Thonna i'r siopau yng Nghastell-nedd yn haws a chyda llai o gyfyngiadau.  Mae hefyd wedi annog rhagor o bobl i ddefnyddio'r llwybr.

Map o leoliadau'r gwelliannau

Ffotograffau o’r llwybr cyn ac ar ôl y gwaith

Llun cyn y gwaith - Camlas Castell-nedd

 

Llun ar ol y gwaith - Camlas Castell-nedd

Gan ddilyn cymysgedd o lwybrau glan afon, rhannau sydd wedi'u hadeiladu i'r diben a hen linellau rheilffordd, mae llwybr beicio cenedlaethol 43 yn darparu cyswllt cerdded a beicio pwysig o Bontardawe i Abertawe ac Ystalyfera ar lwybrau sydd bron yn gyfan gwbl ddi-draffig.

Roedd y gwelliannau i'r llwybr hwn yn bennaf o ganol tref Pontardawe i ffin Abertawe, ac roeddent yn cynnwys gwella wyneb y llwybr, (gan gynnwys darparu llwybr tarmac o amgylch ymyl Maes Chwaraeon Pontardawe) a chael gwared ar rwystrau beicio.  Mae hyn wedi darparu gwell mynediad i bob defnyddiwr, gan gynnwys pobl anabl.

Map o leoliadau'r gwelliannau

Ffotograffau o'r llwybr cyn ac ar ôl y gwaith

Llun cyn y gwaith - Pontardawe

 

Llun ar ol y gwaith - Pontardawe

Roedd y cynllun hwn yn cynnwys adeiladu rhan fach o'r llwybr rhwng y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a Godre'r-graig. Roedd y gwaith yn cynnwys cael caniatâd y perchennog tir i ymgymryd â'r gwaith, ail-wynebu’r llwybr, codi canllawiau (rhwystr diogelwch) y bont droed, cael gwared ar rwystrau a gwelliannau draenio. Mae hyn wedi darparu llwybr cerdded diogel sy'n cysylltu Godre'r-graig â gweddill Llwybr Beicio Cenedlaethol 43 a thu hwnt.

Mae pentrefi Blaengwrach a Chwmgwrach yn cael eu gwahanu oddi wrth Lyn-nedd gan yr A465. Yr unig lwybr diogel i gerddwyr sy'n darparu cyswllt o'r cymunedau hyn â Glyn-nedd yw drwy danffordd o dan yr A465 ac ar draws pont droed sy’n croesi afon Nedd. Mae Castell-nedd Port Talbot wedi gosod pont droed newydd yn lle'r un flaenorol dros afon Nedd yn dilyn difrod anhrwsiadwy iddi yn ystod storm Dennis. Adeiladwyd y bont droed newydd gyda mwy o led fel y gellid adeiladu llwybr defnydd a rennir. Defnyddiwyd cyllid Teithio Llesol i ehangu'r llwybrau troed presennol o'r ganolfan iechyd newydd i'r bont droed newydd. Mae hyn yn gwella hygyrchedd i bawb gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn a beicwyr.

Map o leoliadau'r gwelliannau

Gwnaed gwelliannau i lwybrau teithio llesol: FR-PT-SU065 a FR-PT-SU064 ar Southdown Road a Southdown Court i wella cysylltiadau cerdded a beicio rhwng Parc Manwerthu Bae Baglan a stad dai Sandfields. Roedd y gwaith yn cynnwys:

  • ehangu ac ail-wynebu’r llwybr er mwyn creu llwybr defnydd a rennir.
  • gwelliannau i gyffyrdd gan gynnwys ychwanegu mannau croesi cyffyrddol drwyddi draw.
  • gwelliannau i oleuadau ger mynedfa'r bont.

Map o leoliadau'r gwelliannau

Southdown Road ar ol y gwaith

Gwnaed gwelliannau sylweddol i gryfhau'r cysylltiad rhwng Ysbyty Tonna a'r gymuned gyfagos. Mae'r ymdrechion hyn wedi canolbwyntio ar wella mynediad at siopau lleol a chludiant cyhoeddus, a chefnogi anghenion teithio llesol preswylwyr.

Mae'r gwaith wedi'i gwblhau yn cynnwys:

  • ehangu troedffyrdd presennol
  • gwelliannau i'r cyfleusterau croesi wrth gyffyrdd. Mae'r rhain yn cynnwys cylchfan wedi'i godi a nifer o gyrbau isel gyda phalmant cyffyrddol drwy'r pentref
  • gostwng y cyflymder ar hyd y llwybr o 30mya i 20mya a chyflwyno parth trawsnewid rhwng y rhan 20mya a'r rhan 60mya
  • adleoli'r safle bysus fel y gellir gwella cyffordd y gilffordd
  • gosod seddi ar hyd y llwybr
  • gosod wal werdd i wella bioamrywiaeth a'r amgylchedd lleol

Lluniau cyn ac ar ôl

Cyffordd Tonna Uchaf i Ben y Bryn, Tonna

Tonna Uchaf - before Tonna Uchaf - after

Safle bysus yn Tonna Uchaf, Tonna.

Tonna Uchaf bus stop - before Tonna Uchaf bus stop - after

Cylchfan wedi'i godi

Raised roundabout - before Raised roundabout - after

Bydd cyflwyno croesfan twcan yn helpu i leihau cyflymder cerbydau, ac yn ogystal â chyfyngiadau parcio newydd ar Heol y Pentref, bydd yn sicrhau man croesi mwy diogel i'r holl ddefnyddwyr. Mae'r mesurau hyn yn atgyfnerthu cysylltedd rhwng yr ardal breswyl leol a chyrchfannau allweddol fel Ysgol Bae Baglan a Llwybr Beicio Cenedlaethol rhif 4. 

Lluniau cyn ac ar ôl

Heol y Pentref, Baglan. Mae'r groesfan twcan newydd yn fath o groesfan i gerddwyr a reolir gan oleuadau traffig sy'n caniatáu i gerddwyr a beicwyr groesi'r ffordd ar yr un pryd.

Village Road - before Village Road - after

Mae'r prosiect hwn yn edrych ar sut gellir gwella'r ffyrdd yn ardal Sandfields fel bod cerdded, beicio ac olwyno'n opsiynau mwy diogel a deniadol ar gyfer teithiau byr.

Rydym wedi edrych ar un ar ddeg llwybr ac wedi nodi gwelliannau posib. Mae'r rhain yn amrywio o newidiadau ar raddfa fach, fel darparu cyrbau isel a phalmentydd cyffyrddol (palmentydd gweadog i helpu'r rheini ag amhariad ar y golwg), i syniadau mwy mentrus fel creu llwybrau beicio newydd a chroesfannau i gerddwyr.

Yn 2025 bydd y prosiect yn dechrau edrych ar ddyluniad manwl ar gyfer 3 o'r 10 llwybr ar draws Sandfields. Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. Parêd Seaway, Rhodfa Handel, Rhodfa Purcell a Rhodfa Scarlett
  2. Ffordd y Dywysoges Margaret
  3. Heol Victoria a Heol St Paul

Ym mis Ionawr a mis Chwefror 2024, gofynnom i breswylwyr roi eu hadborth am y gwelliannau arfaethedig. Gweler y ganlyniadau'r arolwg.

Bydd y gwaith i adeiladu cam 1 y prosiect yn dechrau yn 2025. Bydd y cam hwn yn creu llwybr teithio llesol uniongyrchol sy'n cysylltu canol tref Castell-nedd. Bydd yn dechrau o Heol Forster, yn mynd drwy Barc Gwledig y Gnoll, ac yn parhau hyd at Heol Cwm Afan (y B4287) wrth ymyl Ysgol Gynradd Crynallt. Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud cerdded, beicio ac olwyno'n fwy diogel ac yn fwy cyfleus, gan helpu preswylwyr i ddewis teithio llesol fel eu ffordd orau o deithio i'r gwaith, yr ysgol neu'r siopau.

Mae cam 1 yn cynnwys:

  • ehangu llwybrau troed fel eu bod yn addas ar gyfer defnydd a rennir, gan alluogi pobl i gerdded a beicio ar hyd llwybrau
  • twmpathau wedi'u codi wrth rai cyffyrdd i helpu preswylwyr a chanddynt symudedd cyfyngedig i groesi'r ffordd
  • creu rhannau newydd o lwybr a rennir

Cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng mis Medi a mis Hydref 2024. Gofynnwyd i drigolion am eu barn ar yr uwchraddio arfaethedig. Gweler y cynigion a chanlyniadau'r ymgynghoriad.

Nod Uwchgynllun Canol Tref Castell-nedd yw trawsnewid sut y mae pobl yn symud drwy ganol tref Castell-nedd. Mae'r prosiect yn ceisio gwella isadeiledd cerdded, olwyno a beicio i greu canol tref mwy diogel, mwy hygyrch a mwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Mae'r cyngor yn canolbwyntio ar ddatblygu tri llwybr penodol ymhellach eleni:

  • Llwybr 1: Heol Abaty Nedd, Cadoxton Road a Bridge Street
  • Llwybr 2: Cadoxton Road, y B4434, Riverside Drive a Rhodfa Tywysog Cymru
  • Llwybr 3: Adran o Heol Parc y Gnoll

Mae gwelliannau posib yn cynnwys gwelliannau ar raddfa fach fel cyrbau isel a phalmant cyffyrddol, yn ogystal â newidiadau mwy mentrus fel creu llwybrau defnydd a rennir a chyflwyno cyfleusterau croesi diogel newydd i'r holl ddefnyddwyr.

O ganlyniad i gyflwyno'r rhain bydd Castell-nedd yn lle mwy cysylltiedig a chynhwysol i'r holl breswylwyr ac ymwelwyr.

Cynhyrchwyd adroddiad i grynhoi'r adborth a dderbyniwyd gan randdeiliaid a'r cyhoedd yn ystod cam dylunio'r cysyniad, ac i esbonio sut y caiff y sylwadau eu hystyried yn y dyfodol.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol ar gyfer Uwchgynllun Canol Tref Castell-nedd rhwng 10 Mawrth a 7 Ebrill 2025. Rydym yn gwerthfawrogi'r holl adborth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Gwelliannau i gyfleusterau

Mae rhwystr mynediad yn unrhyw beth sy'n cyfyngu neu'n atal unrhyw ddefnyddwyr rhag cael mynediad i lwybrau cerdded a beicio neu deithio ar eu hyd.

Yn hanesyddol, mae rhwystrau mynediad wedi'u gosod i atal beiciau modur a mopedau rhag defnyddio llwybrau yn anghyfreithlon, ond maent hefyd yn atal defnyddwyr cyfreithlon (fel y rheini â chymhorthion symudedd neu feiciau ansafonol) rhag cerdded, olwyno neu feicio ar hyd y rhwydwaith. Mae rhwystrau hefyd yn effeithio ar bobl nad ydynt yn gallu dod oddi ar eu beic i symud drwyddynt neu o'u cwmpas.

Ers 2019 rydym wedi disodli neu gael gwared ar 59 o rwystrau nad oeddent yn cydymffurfio, gan wella mynediad at ein rhwydwaith o lwybrau i'r holl ddefnyddwyr. Caiff y cyllid ei ddefnyddio i adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y gorffennol i ddisodli rhwystrau nad ydynt yn cydymffurfio a gwneud ein llwybrau'n fwy hygyrch. 

Blwyddyn ariannol Nifer y rhwystrau a ddisodlwyd gyda rhwystrau sy'n cydymffurfio 
2019-2020 14
2020-2021 11
2021-2022 18
2022-2023 9
2023-2024 4
2024-2025 4

Gweler map o'n gwelliannau rhwystrau o dan 'Rhwystrau sy'n cydymffurfio' a 'Rhwystrau y cafwyd gwared â nhw'.

Os oes unrhyw rwystrau eraill yr hoffech inni gael gwared â nhw, cysylltwch â ni ar greener@npt.gov.uk a byddwn yn asesu dichonoldeb newid y rhwystrau hyn.

Ydych chi wedi gweld beic modur neu moped yn defnyddio llwybrau beicio Castell-nedd Port Talbot yn anghyfreithlon? Os ydych, yna rhowch wybod i Heddlu De Cymru.

Gall beic fod yn gostus ac mae ei adael heb oruchwyliaeth yn golygu ei fod yn dueddol i gael ei ddwyn neu ei fandaleiddio. Gall rheseli beiciau helpu i ddarparu lle diogel ar gyfer beiciau tra bo'r beiciwr yn ei weithle, yn y siopau neu'r ysgol. Gallai gosod llochesi beiciau annog pobl hefyd i ddefnyddio beiciau fel ffordd o deithio. Felly, rydym wedi gosod tair lloches feiciau yn 2022/2023 yng:

  • Nghanolfan Siopa Aberafan
  • Traeth Aberafan
  • Gorsaf Drenau Port Talbot.

Mae cylchynau beicio hefyd wedi'u gosod yn y Cymer ger yr ystafelloedd lluniaeth, yn lle'r stand storio beiciau a oedd wedi dadfeilio.

 

Lloches beic

Rhesel beiciau am ddim

Er mwyn helpu i annog mwy o bobl i feicio, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhoi hyd at bedair rhesel feiciau am ddim i sefydliadau mewn lleoliadau lle mae angen cyfleusterau parcio beiciau. Rhagor i wybodaeth i gwneud cais.

Diogelwch eich beic

Awgrymiadau ar gyfer cloi eich beic

  • Lle bo modd, defnyddiwch ddau glo beic i ddiogelu eich beic
  • Clowch yr olwyn a'r ffrâm gyda'i gilydd bob amser
  • Peidiwch â chloi olwyn neu ffrâm y beic yn unig i'r stand

Awgrymiadau ar gyfer cloi eich beic

BikeRegister

Yn 2021 adroddwyd bod dros 64,000 o feiciau wedi'u dwyn yn y DU. Gall cael eich beic wedi'i ddwyn fod yn anghyfleustra enfawr a pheri gofid mawr. Ond mae cofrestru eich beic yn golygu, os caiff ei ddwyn a’i ganfod gan yr heddlu, y gellir ei olrhain yn ôl i chi. BikeRegister yw cynllun cofrestru cenedlaethol y DU. Mae am ddim, ac mae'r heddlu'n ei ffafrio fel ffordd o gofrestru'ch beic.

Gall eistedd ar hyd llwybrau cerdded a beicio ddarparu lle mawr ei angen i orffwys. Y tu allan i ganolau trefi mae llai o lefydd yn gyffredinol i'r rheini sy'n teithio rhwng eu cartrefi a chyrchfannau allweddol eistedd a chael seibiant  Felly, rydym wedi dechrau gosod seddi newydd wrth ymyl llwybrau beicio yn y fwrdeistref sirol.  Yn 2021-2022 gosodwyd wyth sedd newydd. Yn 2022, cynhaliwyd ymgynghoriad â rhanddeiliaid i benderfynu lle'r oedd angen seddi ychwanegol. Gwerthuswyd lleoliadau arfaethedig, a gosodwyd seddi mewn tri lleoliad.

Os oes unrhyw lwybrau cerdded a beicio rydych chi'n credu bod angen seddi gerllaw iddynt, cysylltwch â ni yn greener@npt.gov.uk a byddwn yn asesu eu haddasrwydd.

Lleoliadau storio beiciau a rhwystrau mynediad

Cliciwch ar y botymau isod i weld y lleoliadau storio beiciau a rhwystrau beiciau rydym wedi'u mapio:

Sylwer nid yw hon yn rhestr gyflawn, e-bostiwch greener@npt.gov.uk i ddweud wrthym am unrhyw un rydych chi'n sylwi ei fod ar goll.

Logo Teithio Llesol Logo Teithio Llesol

Rhannu eich Adborth