Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Prosiectau i Ieuenctid

Mae'r gronfa hon ar gael i swyddogion heddlu cymunedol neu grwpiau cymunedol eraill wneud cais am gymorth ariannol tuag at gostau prosiectau sy’n cynnwys pobl ifanc nad ydynt yn rhan o unrhyw weithgarwch cymunedol ar hyn o bryd mewn gweithgareddau dargyfeiriol, er mwyn cael mwy o ddiddordeb a chynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan. Uchafswm y grant ar gyfer pob cais yw £500. Bydd angen costau manwl ar gyfer pob cais.

Amcanion y gronfa:

  • lleihau nifer y troseddau lleol a chadw mwy o bobl ifanc allan o drafferth;
  • gwella cyfleoedd a chyfleusterau i bobl ifanc yn eu cymunedau lleol;
  • ysgogi diddordeb mewn gwaith gwirfoddol;
  • helpu i gryfhau cymunedau lleol;
  • gwella ansawdd bywyd y gymuned.

Pwy gaiff wneud cais?

  • swyddogion heddlu cymunedol;
  • grwpiau cymunedol sy'n gweithio gyda phobl ifanc.

Uchafswm y grant: £500 y cais y flwyddyn

Gwariant cymwys:

Nid yw hyn yn gyfyngedig ond gallai gynnwys:

  • cyfarpar;
  • rhent;
  • gorbenion;
  • costau cludiant;
  • oriau gweithwyr sesiynol.

Meini Prawf Asesu:

Bydd angen barnu pob cais yn ôl ei rinweddau ond rhaid iddo fodloni'r meini prawf canlynol:

  • ei fod yn cynnwys pobl ifanc;
  • mae ganddo gysylltiadau â Diogelwch Cymunedol;
  • mae'n ceisio cyflawni nodau'r grant;
  • mae'n bodloni meini prawf y cais.

Fel rhan o'r asesiad, ymgynghorir â'r Cynghorydd lleol ynghylch y cais. Y Bwrdd Adfywio Economaidd a Chymunedol y Cabinet fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ynghylch ceisiadau.

Os cymeradwyir y cais, rhaid cyflwyno adroddiad byr i'r Bwrdd Economaidd a Chymunedol ar ddiwedd y prosiect gan werthuso llwyddiant y prosiect, gan gynnwys gwybodaeth berthnasol am berfformiad.

Ffurflen Gais am Gyllid

  • Cais am Gyllid 2020/2021 (DOCX 126 KB)

    m.Id: 30664
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Cais am Gyllid 2020/2021
    mSize: 126 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/16370/cais-2020-2021-new.docx