Cyngor Newydd ar Corornafeirw (COVID-19)
Beth sydd angen i chi ei wybod
Llywodraeth Cymru:
- Gwybodaeth Coronafeirws (COVID-19) Llywodraeth Cymru
- Cyfyngiadau cyfredol: cwestiynau cyffredin
- Hysbysiadau diweddaraf
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
Iechyd Cyhoeddus Cymru:
- Gwybodaeth Coronafeirws (COVID-19)
- Dangosfwrdd Data Coronafeirws (ffôn symudol)
- Dangosfwrdd Data Coronafeirws (cyfrifiadur)
Dolenni Defnyddiol Eraill:
Os ydych chi’n dioddef cyni ariannol oherwydd bod angen i chi hunanynysu ac yn methu â gweithio, mae sawl cynllun a allai roi cymorth i chi:
Cynllun cymorth hunanynysu - fe allech chi gael £500 taliad i helpu os ydych wedi colli enillion o ganlyniad i orfod hunanynysu am gyfnod ac na allwch weithio gartref.
- Cwestiynau a ofynnir yn aml: Cynllun cymorth hunanynysu
Mae Credyd Cynhwysol yn helpu gyda chostau byw, a chaiff ei ôl-dalu bob mis. I fod yn gymwys rhaid i chi fod ar incwm isel; yn ddi-waith; yn hunangyflogedig; yn sâl neu’n hunanynysu. Gallwch wirio a ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol ar www.gov.uk/credyd-cynhwysol
Tâl Salwch Statudol - gall pobl sydd wedi'u cyflogi ac sy'n methu â gweithio oherwydd coronafeirws, ac sy'n gymwys, dderbyn Tal Salwch statudol (SSP) o ddiwrnod cyntaf eu salwch. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am SSP, gan gynnwys pwy sy'n gymwys a sut i hawlio ar www.gov.uk/tal-salwch-statudol
Cynllun Gwella Tâl Salwch Statudol - Bydd staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio yng Nghymru'n derbyn hawliau tâl salwch uwch i'w cefnogi'n ariannol drwy'r pandemig Covid-19 (Coronafeirws) sy'n dod i rym ar 1 Tachwedd 2020.
Dim ond gweithwyr gofal nad yw eu cyflogwyr yn darparu tâl llawn am absenoldeb salwch sy'n gymwys ar gyfer y taliad hwn. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr gofal a gyflogir gan gartrefi gofal cofrestredig a gwasanaethau cymorth cartref, Cynorthwywyr Personol a delir trwy staff asiantaeth taliadau uniongyrchol a staff sy'n gweithio i gontractwyr asiantaeth, gan ddarparu yn ddyddiol gwasanaethau gofal craidd.
Byddwn yn cysylltu â'u cyflogwyr yn uniongyrchol.
Credyd Treth Gwaith - os ydych chi'n derbyn y budd-dal hwn gall eich hawl iddo barhau dros y 28 wythnos gyntaf o fod yn sâl os ydych chi'n gyflogedig, oni bai eich bod chi'n hawlio Credyd Cynhwysol.
Efallai y gall pobl sy’n sâl neu’n hunanynysu wneud cais am Lwfans Cymorth a Chefnogaeth (ESA). I gael mwy o wybodaeth ewch i: www.gov.uk/lwfans-cyflogaeth-a-chymorth
Taliadau hunanynysu – Os ydych chi’n dioddef cyni ariannol oherwydd bod angen i chi hunanynysu ac yn methu â gweithio, mae sawl cynllun a allai roi cymorth i chi (efallai mae rhieni a gofalwyr ar incwm isel y mae eu plant yn gorfod hunanynysu yn gymwys i gael taliad cymorth hefyd). Mwy - ewch i:
- Castell-nedd Port Talbot - www.npt.gov.uk/taliadauhunanynysu (os nad ydych ar-lein, ffoniwch: 01639 686838)
Cyngor ariannol neu ddyled - gwasanaethau sy’n cynnig cyngor diduedd am ddim ar arian a dyled
Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim ar lawer o broblemau, gan gynnwys budd-daliadau, dyled ac arian neu faterion cyfreithiol. Ewch i www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/ neu ffoniwch Advicelink: 03444 77 20 20; Ffon Testun: 18001 0800 144 8884
Mae'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn rhoi cyngor ariannol diduedd am ddim i helpu i gynllunio a rheoli'ch arian. Ewch i www.moneyadviceservice.org.uk/cy neu ffoniwch 0800 138 7777; Typetalk 18001 0800 915 4622
Mae Dewis Cymru yn eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau cynghori ar arian a dyled lle rydych chi'n byw. Am fwy o wybodaeth ewch i www.dewis.cymru
Mae tim Hawliau Lles eich cyngor lleol yn ymdrin a phob agwedd ar helpu pobl i hawlio'r budd-daliaday sy'nb agored iddyn nhw. Gall trigolion Castell-nedd Port Talbot anfon e-bost at welfarerights@npt.gov.uk neu ffonio 01639 685225.
Gwasanaeth Diogel ac Iach CnPT – Os ydych chi’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn methu â gadael eich cartref, a does dim ffrindiau na theulu sy’n gallu eich cefnogi, gall CnPT Iach a Diogel eich helpu drwy eich cysylltu â gwirfoddolwr lleol, grŵp cymunedol neu wasanaeth lleol er mwyn i chi gael cymorth gyda siopa am fwyd, casglu moddion ar bresgripsiwn, gwneud negeseuon dyddiol neu drefnu fod rhywun yn holi amdanoch. Dysgwch ragor ar www.npt.gov.uk/safeandwell neu ffoniwch 01639 686868.
Safe and Well CNPT
Gall cynllun Safe and Well CNPT eich helpu i gysylltu â'ch gwirfoddolwr lleol, eich grŵp cymunedol neu wasanaeth cymunedol fel y gallwch gael cefnogaeth ar gyfer y canlynol:
- Siopa bwyd
- Casglu meddyginiaeth ar bresgripsiwn
- Gwneud negeseuon dyddiol
- neu drefnu i rywun wirio eich bod yn iawn
Rydym yma i gynnig help i'r rheini nad oes ganddynt unrhyw ffrindiau a theulu i ddibynnu arnynt am gefnogaeth.
Mwy o wybodaeth am NPT Safe & wellPrynu'n Lleol yn CNPT
Mae ein siopau a'n busnesau wrth wraidd ein trefi, ein cymunedau a'n strydoedd mawr. Maent yn gwneud ein cymunedau'n unigryw ac yn amrywiol. Bellach mae angen ein cefnogaeth arnynt er mwyn ffynnu a goroesi'r argyfwng hwn. Rydym wedi sefydlu NPTBuyLocal i annog pobl i brynu'n lleol a helpu i wella'r economi leol.
Mae llawer bellach yn cynnig gwasanaethau dosbarthu fel y gallwch chi siopa'n lleol hyd yn oed os na allwch fynd o gwmpas.
Ymweld â NPT Buy LocalOs oes gennych chi symptomau coronafeirws, cymerwch Brawf Llif Ochrol (LFT) gartref. Gallwch eu harchebu ar-lein am ddim neu ffoniwch 119.
Cofiwch adrodd am holl ganlyniadau LFT. Mae’n hawdd riportio eich canlyniad. Ewch i https://www.gov.uk/report-covid19-result neu ffoniwch 119.
Cofiwch nad ydych chi wedi cwblhau’r prawf nes i chi riportio eich canlyniad.
Yn y fideo hwn, mae Jamie Roberts yn esbonio sut i wneud hunan-brawf.
Mae profion PCR i’r cyhoedd wedi dod i ben. Dim ond pobl sy’n gymwys am driniaethau COVID-19 fydd yn cael archebu profion PCR i’w cartrefi. Mwy o wybodaeth yma.
Gwasanaeth bws AM DDIM o ganol trefi Castell-nedd a Phort Talbot i Ganolfan Brechu Torfol (MVC) y Bae oddi ar Ffordd Fabian yn nawr rhedeg.
Bydd bysiau'n rhedeg rhwng 10am a 6pm, saith diwrnod yr wythnos.
Gwasanaeth Port Talbot (BFH2): Yn gadael Bae 7 yng Ngorsaf bws Port Talbot ar yr awr, gan stopio ym Mae 5 y Gyfnewidfa yng ngorsaf reilffordd Port Talbot Parkway.
Gwasanaeth Castell-nedd (BFH1): Yn gadael ar yr awr o Fae 5 yng Ngorsaf bws Castell-nedd wrth ymyl Gerddi Fictoria.
Bydd gwasanaethau dychwelyd yn gadael yr MVC am hanner awr wedi'r awr.
Mae'r holl wasanaethau bysiau am ddim yn stopio'n agos at fynedfa'r MVC. Mae taith gerdded fer ar draws maes parcio gwastad i ddrws ffrynt y ganolfan.
Bydd gwasanaethau yn cael eu gweithredu gan Briggs Coaches.
Efallai bydd angen i chi brofi eich bod chi wedi cael cwrs llawn y brechlyn neu wedi cael prawf negatif i fynd i rhai digwyddiadauneu leoliadau.
- Llywodraeth Cymru - Cael eich pàs COVID y GIG
Dyw Covid ddim wedi mynd i ffwrdd ac mae angen eich help arnom i gasglu gwybodaeth leol i leihau’r trosglwyddiad yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Bydd yr wybodaeth rowch chi i ni’n ein helpu i gysylltu â phobl sydd wedi dod i gyswllt â’r feirws, ac i roi’r cyngor ac arweiniad cywir iddyn nhw o ran hunan-ynysu.
Mae hyn yn lleihau’r posibilrwydd o ledu’r feirws ymhellach, ac yn fwy pwysig, mae’n lleihau’r perygl o niwed i’r bobl fwyaf bregus.
Os byddwn ni’n eich ffonio, byddwn ni’n defnyddio’r rhifau canlynol: 02921 961133 neu 01639 686932. Codwch y ffôn ar gyfer y rhifau hyn os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu dilyn y broses Olrhain Cysylltiadau gyda chi.
Fel arall, fe allem anfon neges destun atoch, a gofyn i chi lenwi e-ffurflen.
Er mwyn derbyn yr e-ffurflen, anfonir cod diogel un-tro atoch drwy gyfrwng neges destun oddi wrth NHSWALESTTP. Bydd yn cynnwys dolen i lenwi’r e-ffurflen.
Llenwi’r ffurflen
PWYSIG: Rhaid i chi gwblhau’r ffurflen erbyn 22:00hrs ar y dydd y derbyniwch y ddolen, Bydd y ddolen yn stopio gweithio ar ôl 22:00hrs.
Dylai gymryd tua 10 munud i chi gwblhau’r ffurflen, Os na allwch gwblhau’r e-ffurflen erbyn 22:00hrs, byddwch chi’n derbyn galwad ffôn gan olrheiniwr cysylltiadau i gadarnhau eich manylion.
- Agorwch y ddolen yn eich neges destun.
- Cadarnhewch eich Dyddiad Geni a’ch Rhif Ffôn.
- Gwiriwch fod yr holl wybodaeth a lanwyd yn awtomatig gan y ffurflen yn gywir.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n nodi eich Gwaith neu Statws Gweithiwr Allweddol – mae hyn yn eithriadol bwysig er mwyn adnabod Clystyrau Covid.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud am unrhyw symptomau Covid.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadarnhau ar ba ddyddiad y dechreuodd eich symptomau.
- Bydd y ffurflen yn gofyn i chi â phwy y buoch mewn cyswllt agos dros y 10 diwrnod cyn i symptomau ddechrau ac ar ôl hynny (neu ddyddiad eich prawf Covid os nad oes gennych symptomau). Gall cysylltiadau agos gynnwys:
- Cysylltiadau yn eich cartref, a
- Cysylltiadau gwaith / ysgol / cymdeithasol
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadarnhau unrhyw leoedd rydych chi wedi ymweld â nhw yn ystod y 48 awr cyn eich symptom Covid cyntaf, neu, os nad oes gennych symptomau, cyn dyddiad eich prawf Covid.
Os ydych chi’n cael trafferth cael mynediad i’r ffurflen neu’n ei chael hi’n anodd ei llenwi, ffoniwch 01639-686932, ble gall un o’n Tîm Olrhain eich helpu chi.
Os ydych chi’n teimlo’n anhwylus, mynnwch gyngor meddygol gan eich meddyg teulu neu ffoniwch 111.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://gov.wales/contact-tracing-completing-your-online-e-form
Cyfnod Hunan-ynysu
Ar ôl i chi ddweud beth yw eich symptomau ar y ffurflen, bydd y cyfrifiadur yn cynhyrchu eich Dyddiad Hunan-ynysu a gofynnwn i chi lynu wrth y dyddiad hwn.