Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwybodaeth Ychwanegol am Ofal Plant

Yn ystod tymor yr ysgol, bydd y cynnig yn cynnwys o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos. Ar ben hynny, bydd y gyfran o addysg gynnar ac oriau gofal plant yn dibynnu ar nifer yr oriau o addysg gynnar a gynigir gan bob ysgol unigol.

Yn ystod tymor yr ysgol, ni all plentyn dderbyn mwy na chyfanswm o 30 awr o ofal plant a ariennir a darpariaeth addysg gynnar. Er enghraifft, os bydd ysgol yn cynnig 15 awr o ddarpariaeth addysg gynnar bob wythnos, gellir darparu uchafswm o 15 awr o ofal plant a ariennir yn ychwanegol at hyn.

Mae gan blant hawl i dair wythnos o wyliau ar gyfer pob tymor llawn y mae ganddynt fynediad at y cynnig (uchafswm o 9 wythnos o wyliau mewn blwyddyn ysgol). Mae gan bob plentyn hawl i 30 awr o ofal plant a ariennir yn ystod ei wythnosau gwyliau dewisol.

RHIF YR WYTHNOS O WYLIAU

ENW ARFEROL

DECHRAU

DIWEDD

1

Hanner tymor yr hydref/mis Hydref

31/10/2022

06/11/2022

2

Gwyliau'r Nadolig

26/12/2022

01/01/2023

3

Gwyliau'r Nadolig

02/01/2023

08/01/2023

4

Hanner tymor y gwanwyn/mis Chwefror

20/02/2023

26/02/2023

5

Gwyliau'r Pasg

03/04/2023

09/04/2023

6

Gwyliau'r Pasg

10/04/2023

16/04/2023

7

Hanner tymor yr haf/y Sulgwyn

29/05/2023

04/06/2023

8

Gwyliau'r Haf – Wythnos 1

24/07/2023

30/07/2023

9

Gwyliau'r Haf – Wythnos 2

31/07/2023

06/08/2023

10

Gwyliau'r Haf – Wythnos 3

07/08/2023

13/08/2023

11

Gwyliau'r Haf – Wythnos 4

14/08/2023

20/08/2023

12

Gwyliau'r Haf – Wythnos 5

21/08/2023

27/08/2023

13

Gwyliau'r Haf – Wythnos 6

28/08/2023

03/09/2023

Newid yn fy Amgylchiadau Cyflogaeth​

Os bydd eich amgylchiadau'n newid, gallwch gyflwyno 'Cyfnod Esemptio Dros Dro' ar gyfer y Cynnig Gofal Plant. Bydd Cyfnod Esemptio Dros Dro 8 wythnos yn berthnasol i rieni y mae eu hamgylchiadau wedi newid tra'u bod yn derbyn y Cynnig Gofal Plant, sy'n golygu nad ydynt yn gymwys mwyach. Disgwylir i rieni roi gwybod i'w hawdurdod lleol a'u darparwr cyn gynted ag y bydd eu hamgylchiadau'n newid.