Byddwch yn Gynghorydd
- Ydych chi'n poeni'n angerddol am eich cymuned leol?
- A oes rhywbeth rhydych chi am ei newid?
- Ydych chi'n barod i wneud penderfyniadau heriol?
- Beth am sefyll dros yr hyn yr ydych yn poeni amdano a dod yn gynghorydd lleol?
Mae bod yn gynghorydd yn fath gwerth chweil o wasanaeth cyhoeddus sy'n eich rhoi mewn sefyllfa unigryw lle gallwch wneud penderfyniadau am faterion lleol a gwella ansawdd bywyd pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'n rhoi cyfle i chi helpu eich cymuned leol a bod yn rhan o dîm ymroddedig sy'n darparu gwasanaethau allweddol ar gyfer eich ardal.
Caiff cynghorwyr eu hethol gan bobl yn eu cymuned i'w cynrychioli a gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae bod yn gynghorydd yn werth chweil, yn heriol ac yn bleserus a gallwch newid bywydau pobl er gwell.
Mae'n bwysig bod cynghorwyr fel y bobl sy'n eu hethol i gynrychioli'r holl safbwyntiau gwahanol yn y gymuned a gwneud penderfyniadau sydd o fudd i bawb.
Mae angen ar Gymru mwy o fenywod, pobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, pobl LHDTC+, pobl anabl a phobl ifanc i sefyll etholiad.
Yn ddiweddar, mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cynhyrchu ffilm fer sy'n darparu gwybodaeth i unigolion sy'n ystyried bod yn ymgeisydd yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf:
Mae rhagor o wybodaeth am y broses o ddod yn Gynghorydd a sefyll fel ymgeisydd mewn Etholiad Llywodraeth Leol ar gael gan y Comisiwn Etholiadol.
I gael gwybodaeth am sut i ddod yn Gynghorydd, ewch i wefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Datblygwyd y tudalennau gwe hyn i rhoi gwybodaeth am sut i ddod yn Gynghorydd ac i rhoi cyflwyniad i chi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT), ynghyd â gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â'u rôl.