Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Derbyniadau i Ysgolion Cymunedol 2022/2023

Cyflwyniad

Y cyngor yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr holl ysgolion cymunedol a gynhelir yn y Fwrdeistref Sirol.  Fel yr awdurdod derbyn, y cyngor sy'n pennu'r meini prawf a ddefnyddir wrth ddyrannu lleoedd mewn ysgolion cymunedol.  Mae'r ddogfen hon yn nodi trefniadau derbyn 2022/23 ar gyfer y canlynol: dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cynradd cymunedol; ysgolion cynradd cymunedol; ysgolion uwchradd cymunedol; a dosbarthiadau chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg mewn ysgol uwchradd gymunedol.

Ar gyfer ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol (h.y. ysgolion ffydd), corff llywodraethu pob ysgol sy'n pennu'r trefniadau derbyn. Gellir cael manylion y trefniadau gan y corff llywodraethu priodol.

Mae'r ddogfen bolisi hon yn nodi'r egwyddorion sy'n sail i'r trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ynghyd â'r gweithdrefnau a'r amserlenni ar gyfer derbyn yn ystod blwyddyn ysgol 2022/23 (atodiadau 1, 2, 3 a 4). Bydd mwy o fanylion i gynorthwyo rhieni sy'n cyflwyno cais am le mewn ysgol wrth ddewis ysgol i'w plentyn yn y 'Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni 2022/2023' a fydd ar gael i rieni ym mis Hydref 2021, cyn y dyddiad cyflwyno cais. Bydd y llawlyfr yn cynnwys gwybodaeth bwysig am ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol gan gynnwys eu niferoedd derbyn, y dalgylchoedd maent yn eu gwasanaethu ynghyd â mapiau dalgylchoedd a threfniadau eu hysgolion partner. Mae'r llawlyfr hefyd yn cynnwys y trefniadau derbyn cyhoeddedig ar gyfer ysgolion unigol a gynorthwyir yn wirfoddol (h.y. ysgolion ffydd). O ran hyn, mae'r 'Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni 2022/2023' yn rhan annatod o'r wybodaeth sydd ar gael i rieni am dderbyniadau ysgolion

Cyd-destun

Uchelgais Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw cyflwyno gwasanaeth addysg gynhwysol sy'n dathlu amrywiaeth ac yn parchu hawl pawb i addysg. Mae'r cyngor yn rhoi mynediad i brofiadau dysgu o safon i bob plentyn a pherson ifanc drwy annog a chefnogi unigolion i wireddu eu huchelgeisiau, cyflawni eu potensial a bod yn aelodau gweithgar a chyfrifol o'r gymdeithas.

Er mwyn diwallu anghenion addysgol plant, mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn cyflwyno darpariaeth amrywiol, gan gynnwys:

  • Addysg feithrin ran-amser, sydd ar gael ym mhob ysgol gynradd ac ysgol 'pob oed' i blant 3 i 16 oed/3 i 18 Mae dysgu llwyddiannus yn dechrau yn y dosbarth meithrin lle gall plant dderbyn profiadau cyfoethog mewn amgylchedd diogel;
  • Addysg gynradd mewn ysgolion cynradd ac ysgolion 'pob oed' i blant 3 i 16 oed/3 i 18 oed (gan gynnwys ysgolion Cymraeg ac ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol), gan ddarparu addysg eang wedi'i seilio ar brofiadau ymarferol ac wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion yr unigolyn, gan gynnwys meysydd astudio'r cwricwlwm cenedlaethol.
  • Addysg uwchradd mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion 'pob oed' i blant 3 i 16 oed/3 i 18 oed (gan gynnwys ysgolion Cymraeg ac ysgol Gatholig), gan osod safonau uchel mewn arholiadau, gweithgareddau chwaraeon a diwylliannol, ac addysg bersonol a Mae'r disgyblion ym mhob ysgol yn cael cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd allgyrsiol a'r Cwricwlwm Cenedlaethol;
  • Ysgolion arbennig, sy'n darparu profiadau dysgu cyfoethog ac ysgogol i ddisgyblion ag anawsterau difrifol a Mae gan yr holl ddisgyblion sy'n mynd i'r ysgolion hyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae cefnogaeth arbenigol ar gyfer disgyblion oed cynradd ac uwchradd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol ar gael yn y fwrdeistref sirol;
  • Canolfannau cefnogi dysgu, sydd ar gael mewn sawl ysgol gynradd, uwchradd a rhai 'pob oed' ac sy'n darparu cefnogaeth arbenigol mewn ysgolion prif ffrwd i ddisgyblion â datganiadau o anghenion addysgol

Mae trefniadau derbyn y cyngor ar gyfer ysgolion cymunedol yn sicrhau nad yw gweithdrefnau derbyn yn rhoi mantais neu anfantais annheg i grwpiau trwy ddefnyddio Côd Derbyn Ysgolion Llywodraeth Cymru 005/2013.

Derbyn i ddosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cynradd cymunedol ac ysgolion 'pob oed' i blant 3 i 16 oed/3 i 18 oed.

Y cyngor yw'r awdurdod derbyn ar gyfer pob dosbarth meithrin mewn ysgolion cynradd cymunedol a 'phob oed' i blant 3 i 16 oed/3 i 18 oed.

Gall plentyn gael lle rhan-amser mewn dosbarth meithrin o ddechrau'r tymor sy'n dilyn ei drydydd pen-blwydd. Bydd gofyn i rieni/ofalwyr y mae angen lle ar eu plentyn mewn dosbarth meithrin gyflwyno cais am le. Mae ffurflenni cais ar gael gan y Swyddog Derbyniadau, Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot SA13 1PJ, a dylid eu dychwelyd i’r un cyfeiriad ar ôl eu cwblhau.Gall rhieni/gofalwyr wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall.

Gall plentyn gael ei dderbyn i ddosbarth meithrin cyn dechrau'r tymor sy'n dilyn ei drydydd pen-blwydd dim ond drwy ymgynghori â'r Swyddog Derbyn.

Gall nifer y lleoedd meithrin sydd ar gael fod yn wahanol i nifer derbyn grwpiau blwyddyn amser llawn mewn ysgol (Derbyn).

I blant y mae ganddynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n nodi addysg feithrin brif ffrwd mewn ysgol gymunedol, gwarentir lle iddynt yn y lleoliad hwnnw. Mae dyletswydd ar ysgolion i dderbyn plant â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi cael eu rhoi yn yr ysgol gan yr ALl a chaiff y disgyblion hyn eu cyfrif tuag at nifer y disgyblion i’w derbyn oni bai fod eu lleoliad mewn Canolfan Cefnogi Dysgu sydd mewn ysgol.

Bydd y cyngor yn ystyried pob cais unigol a dderbynnir. Os yw nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl y meini prawf gorymgeisio isod, a restrir yn nhrefn eu blaenoriaeth.

Meini Prawf Gorymgeisio

  1. Plant sy'n derbyn gofal neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, yn unol ag adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu yn Lloegr yn unol ag adran 22 Deddf Plant 1989.
  2. Plant sy'n byw yn nalgylch y dosbarth meithrin y cyflwynir cais amdano
  3. Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer hŷn a fydd ar gofrestr yr ysgol lle mae'r dosbarth meithrin hwn pan gânt eu Diffinnir "brawd neu chwaer" fel brawd neu chwaer lawn, hanner brawd neu chwaer (h.y. un rhiant a rennir), llysfrodyr neu lyschwiorydd (h.y. plentyn person sy'n cyd-fyw â'r rhiant), brawd neu chwaer maeth neu a fabwysiadwyd. Ym mhob achos, ar adeg cyflwyno'r cais rhaid i'r brawd neu'r chwaer fyw yn yr un cyfeiriad â'r plentyn neu'r person ifanc. Dylid nodi perthynas unrhyw frodyr neu chwiorydd yn glir yn y cais. Yn achos genedigaethau lluosog, os nad yw'n bosib cynnig lle i bob plentyn yn y dosbarth meithrin, bydd gofyn i'r rhieni benderfynu pa blentyn a ddylai dderbyn lle'n gyntaf neu a ydynt yn dymuno ystyried lleoliad arall i'w holl blant.
Plentyn sy'n derbyn gofal yw plentyn y mae'r awdurdod lleol yn gofalu amdano/amdani o dan Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu o dan Adran 22(1) Deddf Plant 1989 ar yr adeg y gwneir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod wedi cadarnhau y bydd yn dal i dderbyn gofal ar yr adeg y caiff ei d(d)erbyn i'r ysgol. Plant a oedd yn derbyn gofal: plant a oedd yn derbyn gofal nad ydynt yn derbyn gofal mwyach am iddynt gael eu mabwysiadu neu ddod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal.

Os oes hawl gyfartal gan blant gael lle yn y meithrin yn y categorïau a) i c) uchod, rhoddir blaenoriaeth i'r plentyn sy'n byw agosaf. Caiff hyn ei fesur gan y llwybr cerdded/teithio byrraf rhwng y cartref a'r ysgol. Mae'r cyngor yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol i gyfrifo'r pellter byrraf.

Ym mhob achos, bydd rhaid darparu tystiolaeth o gyfeiriad preswyl parhaol y disgybl ar adeg gwneud y cais.

Unwaith bydd cynnig o le mewn ysgol wedi'i wneud, bydd y cyngor ond yn tynnu'r cynnig hwnnw yn ôl pan fydd lle wedi'i gynnig ar sail cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol gan riant (er enghraifft, honiad anwir am breswylio mewn dalgylch) sy'n gwadu cais i blentyn gyda chais cryfach.  Ni fydd lle mewn ysgol yn cael ei dynnu yn ôl unwaith bydd plentyn neu berson ifanc wedi dechrau yn yr ysgol, ac eithrio pan fydd lle wedi'i gael drwy dwyll.  Wrth benderfynu tynnu'r lle yn ôl, bydd cyfnod y plentyn hwnnw yn yr ysgol yn cael ei ystyried.

Pan fydd y lle'n cael ei dynnu yn ôl oherwydd gwybodaeth gamarweiniol, bydd y cais yn cael ei ystyried o'r newydd, a bydd hawl apelio'n cael ei gynnig os caiff lle ei wrthod.

Ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw prif breswylfa'r plentyn a'r rhieni ar y dyddiad cyhoeddedig, h.y. lle maent yn byw fel arfer ac yn rheolaidd. Os yw plentyn yn byw gyda ffrindiau neu berthnasau (am resymau eraill ar wahân i drefniadau maethu), ni chaiff cyfeiriad y ffrindiau na'r perthnasau ei ystyried o ran cais am dderbyn i ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Pan fo rhieni'n rhannu cyfrifoldeb am blentyn, ac mae'r plentyn yn byw gyda'r ddau riant yn eu tro am ran o'r wythnos ysgol, yna ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw'r cyfeiriad lle mae'r plentyn yn byw am y rhan fwyaf o'r wythnos e.e. 3 o 5 niwrnod.  Bydd gofyn i rieni ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r cyfeiriad y maent am iddo gael ei ystyried at ddibenion dyrannu.

Ni roddir ystyriaeth i'r ysgol gynradd y mae'r plentyn yn debygol o fynd iddi yn ddiweddarach neu'r cyfnod y mae'r ysgol wedi gwybod am fwriad y rhieni i wneud cais am le yn yr ysgol.

Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer derbyn ffurflenni cais fydd yn cael eu prosesu yn rownd gyntaf dyrannu lleoedd. Bydd ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr.  Caiff y rhain eu hystyried yn wythnosol unwaith bydd y dyraniad cychwynnol wedi'i gwblhau a bydd lleoedd yn cael eu dyrannu yn unol ag argaeledd.  Gan fod addysg feithrin yn ddarpariaeth anstatudol, nid oes gan rieni hawl apelio statudol.  Os nad ydynt yn llwyddo i gael lle mewn dosbarth meithrin, bydd plant yn cael cynnig lle o fewn dwy filltir o'u lleoliad preswyl, lle bynnag y bo hynny'n bosib.

Nid yw'r ffaith fod plentyn yn mynd i ddosbarth meithrin yn rhoi hawl awtomatig iddo gael lle yn nosbarth derbyn yr un ysgol.  Bydd rhaid cyflwyno cais ar wahân i blentyn gael ei dderbyn i ddosbarth derbyn yr ysgol y mae'r rhiant am i'w blentyn ei mynychu.

Er ei fod yn ddarpariaeth polisi ar wahân, mae'r cyngor yn cydnabod y gydberthynas rhwng derbyn a chludiant o'r cartref i'r ysgol, ac yn cynghori rhieni i ddarllen polisi teithio o’r cartref i’r ysgol y cyngor wrth ymgeisio am le mewn ysgol i'w plentyn.

Derbyn i ysgolion cynradd ac uwchradd cymunedol ac ysgolion 'pob oed'

Cyngor y Fwrdeistref Sirol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr holl ysgolion cynradd ac uwchradd cymunedol a gynhelir ac ysgolion 'pob oed' (gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg a darpariaeth chweched dosbarth).

Cymeradwyir yr holl dderbyniadau i ysgolion prif ffrwd gan y Swyddog Derbyniadau, Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd. Derbynnir plant i ddosbarthiadau derbyn yn y mis Medi sy'n dilyn pedwerydd pen-blwydd y plentyn. Gall rhieni ohirio mynediad i'r dosbarth derbyn tan y tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 5 oed. Mae plant yn trosglwyddo i addysg uwchradd yn y mis Medi sy'n dilyn pen-blwydd y plentyn yn 11 oed.

Mae ffurflen gais ar gael gan Is-adran Derbyniadau Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y dylai'r rhiant ei chwblhau a'i dychwelyd at y Swyddog Derbyniadau, Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot SA13 1PJ neu gall rhieni wneud cais ar-lein yn  www.npt.gov.uk. Caniateir ceisiadau am le oni bai y byddai gwneud hynny’n amharu ar ddarparu addysg effeithlon neu ddefnydd effeithlon o adnoddau.

Bydd y rhieni hynny sy’n gwneud cais am le mewn unrhyw ysgol ar amser yn cael  blaenoriaeth dros y rheiny sy’n gwneud cais yn hwyr.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 26 Tachwedd 2021.

Bydd y cyngor yn anfon Ffurflen Cais am Le at rieni pob disgybl a fydd yn symud o'r naill gyfnod addysgol i'r llall ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, yn ystod tymor yr hydref. Caiff rhieni wybod am y lle mewn addysg uwchradd a ddyrannwyd i'w plentyn ar 1 Mawrth 2022 ac am y lle mewn addysg gynradd ar 19 Ebrill 2022.

Nid yw'r ffaith fod plentyn yn mynd i ddosbarth meithrin yn rhoi hawl awtomatig iddo gael lle yn nosbarth derbyn yr un ysgol.

I blant y mae ganddynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n nodi addysgol feithrin brif ffrwd mewn ysgol gymunedol, gwarentir lle iddynt yn yr ysgol honno.

Meini prawf gorymgeisio o ran addysg gynradd

Mae gan rieni'r hawl i fynegi dewis a gaiff ei ystyried yn unigol a chydsynnir â hyn lle bynnag y bo modd. Mae rhai ysgolion yn derbyn mwy o geisiadau am leoedd na nifer y lleoedd sydd argael.

Mewn ysgol lle mae gorymgeisio, caiff dewisiadau eu hystyried o hyd ond dilynir y blaenoriaethau a bennwyd gan y cyngor. Wrth benderfynu ar ba blant i dderbyn i ysgol, mae'r cyngor yn defnyddio meini prawf a bennwyd isod yn ôl blaenoriaeth - a) yw'r flaenoriaeth uchaf.

Bydd y cyngor yn derbyn plant hyd at nifer derbyn yr ysgol yn unig ac ni fydd yn torri Rheoliadau Maint Dosbarth Plant sef 30 o blant neu lai, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

  1. Plant sy'n derbyn gofal neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, yn unol ag adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu yn Lloegr yn unol ag adran 22 Deddf Plant 1989.
  2. Plant sy'n byw o fewn dalgylch yr ysgol y cyflwynir cais
  3. Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer hŷn a fydd ar gofrestr yr ysgol pan gânt eu Diffinnir "brawd neu chwaer" fel brawd neu chwaer lawn, hanner brawd neu chwaer (h.y. un rhiant a rennir), llysfrodyr neu lyschwiorydd (h.y. plentyn person sy'n cyd-fyw â'r rhiant), brawd neu chwaer maeth neu a fabwysiadwyd. Ym mhob achos, ar adeg cyflwyno'r cais rhaid i'r brawd neu'r chwaer fyw yn yr un cyfeiriad â'r plentyn neu'r person ifanc. Dylid nodi perthynas unrhyw frodyr neu chwiorydd yn glir yn y cais. Yn achos genedigaethau lluosog, os nad yw'n bosib cynnig lle i bob plentyn yn y dosbarth meithrin, bydd gofyn i rieni benderfynu pa blentyn a ddylai dderbyn lle'n gyntaf neu a ydynt yn dymuno ystyried lleoliad arall i'w holl blant.
  4. Mae plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol a ffefrir

Os oes hawl gyfartal gan blant i le mewn ysgol yng nghategorïau -a) i d) uchod, rhoddir blaenoriaeth i'r plentyn sy'n byw agosaf. Mesurir hyn drwy'r llwybr cerdded/teithio byrraf addas rhwng y cartref a'r ysgol. Mae'r cyngor yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol i gyfrifo'r pellter byrraf.

Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer derbyn ceisiadau fydd yn cael eu hystyried yn rownd gyntaf dyrannu lleoedd. Bydd ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr.  Caiff y rhain eu hystyried yn wythnosol unwaith bydd y dyraniad cychwynnol wedi'i gwblhau, a bydd lleoedd yn cael eu dyrannu'n unol ag argaeledd.

Ym mhob achos, bydd rhaid darparu tystiolaeth o gyfeiriad preswyl parhaol y disgybl ar adeg gwneud y cais.

Unwaith bydd cynnig o le mewn ysgol wedi'i wneud, bydd y cyngor yn tynnu'r cynnig hwnnw yn ôl pan fydd cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol wedi'i wneud gan riant neu berson ifanc (er enghraifft, cais anwir am breswylio mewn dalgylch) sy'n gwadu lle i blentyn neu berson ifanc gyda chais cryfach.  Ni fydd lle mewn ysgol yn cael ei dynnu yn ôl unwaith bydd plentyn neu berson ifanc wedi dechrau yn yr ysgol ac eithrio pan fydd lle wedi'i gael drwy dwyll.  Wrth benderfynu p'un ai i dynnu lle yn ôl, bydd amser y plentyn hwnnw yn yr ysgol yn cael ei ystyried.  Pan fydd lle'n cael ei dynnu yn ôl oherwydd gwybodaeth gamarweiniol, bydd y cais yn cael ei ystyried o'r newydd a hawl i apelio os gwrthodir lle.

Ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw prif breswylfa'r plentyn a'r rhieni ar y dyddiad cyhoeddedig, h.y. lle maent yn byw fel arfer ac yn rheolaidd.  Os yw plentyn yn byw gyda ffrindiau neu berthnasau (am resymau eraill ar wahân i drefniadau maethu), ni chaiff cyfeiriad y ffrindiau na'r perthnasau ei ystyried at ddibenion dyrannu lle.

Pan fo rhieni'n rhannu cyfrifoldeb am blentyn, ac mae'r plentyn yn byw gyda'r ddau riant yn eu tro am ran o'r wythnos ysgol, yna ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw'r cyfeiriad lle mae'r plentyn yn byw am y rhan fwyaf o'r wythnos, e.e. 3 o 5 niwrnod.  Bydd gofyn i rieni ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r cyfeiriad y maent am iddo gael ei ystyried at ddibenion dyrannu.

Os yw rhieni'n anfodlon ar ganlyniad y cais am ysgol gymunedol benodol, gellir cyflwyno apêl i'w hystyried gan Banel Apeliadau Derbyn Annibynnol. Yn achos derbyniadau addysg gynradd, dylid cyflwyno apeliadau erbyn 20 Mai 2022.

Bydd unrhyw benderfyniad gan y panel yn orfodol ar y cyngor. Os nad yw'r apêl yn llwyddiannus, ni chaiff ceisiadau pellach am le yn yr un ysgol eu hystyried ar gyfer yr un flwyddyn academaidd oni bai fod Swyddog Derbyn y Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd yn barnu bod newidiadau arwyddocaol a pherthnasol yn amgylchiadau’r disgybl/rhieni neu'r ysgol.

Bydd y cyngor yn cadw rhestr aros o ymgeiswyr aflwyddiannus wedi’u blaenoriaethu yn ôl meini prawf gorymgeisio'r cyngor. Wrth i leoedd gwag godi, cânt eu cynnig ar sail y rhestr flaenoriaeth. Caiff rhestr aros ei chynnal tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y mae ymgeiswyr yn gwneud cais ynddi.

Er ei fod yn ddarpariaeth polisi ar wahân, mae'r cyngor yn cydnabod y gydberthynas rhwng derbyn a chludiant o'r cartref i'r ysgol, ac yn cynghori rhieni i ddarllen polisi teithio o’r cartref i’r ysgol y cyngor wrth ymgeisio am le mewn ysgol i'w plentyn.

Meini prawf gorymgeisio o ran addysg uwchradd

Mae gan rieni'r hawl i fynegi dewis a gaiff ei ystyried yn unigol a chydsynnir â hyn lle bynnag y bo modd. Mae rhai ysgolion yn derbyn mwy o geisiadau am leoedd na nifer y lleoedd sydd ar gael. Mewn ysgol lle mae gorymgeisio, caiff dewisiadau eu hystyried o hyd ond dilynir y blaenoriaethau a bennwyd gan y cyngor.

Wrth benderfynu ar ba blant i dderbyn i ysgol, mae'r cyngor yn defnyddio meini prawf a bennwyd isod yn ôl blaenoriaeth - a) yw'r flaenoriaeth uchaf.

Bydd yr awdurdod yn derbyn hyd at y nifer derbyn a nodir yn unig.

Gall rhieni/gofalwyr wneud cais am le yn ysgol y dalgylch neu fynegi dewis am le mewn ysgol arall. Caniateir ceisiadau am le oni bai y byddai gwneud hynny’n amharu ar ddarparu addysg effeithlon neu ddefnydd effeithlon o adnoddau.

Bydd y rhieni hynny sy’n gwneud cais am le mewn unrhyw ysgol ar amser yn cael blaenoriaeth dros y rheiny sy’n gwneud cais yn hwyr.

  1. Plant sy'n derbyn gofal neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, yn unol ag adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu yn Lloegr yn unol ag adran 22 Deddf Plant
  2. Plant a phobl ifanc sy'n mynychu ysgol gynradd bartner sy'n byw o fewn dalgylch yr ysgol y cyflwynir cais amdani.1
  3. Plant a phobl ifanc eraill sy'n byw yn nalgylch yr ysgol y cyflwynir cais amdani ond nid ydynt yn mynychu ysgol gynradd
  4. Plant a phobl ifanc y mae ganddynt frawd neu chwaer hŷn a fydd ar gofrestr yr ysgol pan gânt eu Diffinnir "brawd neu chwaer" fel brawd neu chwaer lawn, hanner brawd neu chwaer (h.y. un rhiant a rennir), llysfrodyr neu lyschwiorydd (h.y. plentyn person sy'n cyd-fyw â'r rhiant), brawd neu chwaer maeth neu a fabwysiadwyd. Ym mhob achos, ar adeg cyflwyno'r cais rhaid i'r brawd neu'r chwaer fyw yn yr un cyfeiriad â'r plentyn neu'r person ifanc. Dylid nodi perthynas unrhyw frodyr neu chwiorydd yn glir yn y cais. Yn achos genedigaethau lluosog, os nad yw'n bosib cynnig lle i bob plentyn yn y dosbarth meithrin, bydd gofyn i rieni benderfynu pa blentyn a ddylai dderbyn lle'n gyntaf neu a ydynt yn dymuno ystyried lleoliad arall i'w holl blant.
  5. Plant a phobl ifanc sy'n mynychu ysgol gynradd bartner ond sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol y cyflwynir cais amdani

Os oes hawl gyfartal gan blant a phobl ifanc i le mewn ysgol yng nghategorïau -a) i e) uchod, rhoddir blaenoriaeth i'r plentyn sy'n byw Mesurir hyn drwy'r llwybr cerdded/teithio byrraf addas rhwng y cartref a'r ysgol. Mae'r cyngor yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol i gyfrifo'r pellter byrraf.

Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer derbyn ceisiadau fydd yn cael eu hystyried yn rownd gyntaf dyrannu lleoedd. Bydd ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr.  Caiff y rhain eu hystyried yn wythnosol unwaith bydd y dyraniad cychwynnol wedi'i gwblhau, a bydd lleoedd yn cael eu dyrannu'n unol ag argaeledd.

Ym mhob achos, bydd rhaid darparu tystiolaeth o gyfeiriad preswyl parhaol y disgybl ar adeg gwneud y cais.

Unwaith bydd cynnig o le mewn ysgol wedi'i wneud, bydd y cyngor yn tynnu'r cynnig hwnnw yn ôl pan fydd cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol wedi'i wneud gan riant neu berson ifanc (er enghraifft, cais anwir am breswylio mewn dalgylch) sy'n gwadu lle i blentyn neu berson ifanc gyda chais cryfach. Ni fydd lle mewn ysgol yn cael ei dynnu yn ôl unwaith bydd plentyn neu berson ifanc wedi dechrau yn yr ysgol ac eithrio pan fydd lle wedi'i gael drwy dwyll.  Wrth benderfynu p'un ai i dynnu lle yn ôl, bydd amser y plentyn hwnnw yn yr ysgol yn cael ei ystyried.  Pan fydd lle'n cael ei dynnu yn ôl oherwydd gwybodaeth gamarweiniol, bydd y cais yn cael ei ystyried o'r newydd a hawl i apelio os gwrthodir lle.

Ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw prif breswylfa'r plentyn a'r rhieni ar y dyddiad cyhoeddedig, h.y. lle maent yn byw fel arfer ac yn rheolaidd.  Os yw plentyn yn byw gyda ffrindiau neu berthnasau (am resymau eraill ar wahân i drefniadau maethu), ni chaiff cyfeiriad y ffrindiau na'r perthnasau ei ystyried at ddibenion dyrannu lle.

Pan fo rhieni'n rhannu cyfrifoldeb am blentyn/berson ifanc, ac mae'r plentyn/person ifanc yn byw gyda'r ddau riant yn eu tro am ran o'r wythnos ysgol, yna ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw'r cyfeiriad lle mae'r plentyn yn byw am y rhan fwyaf o'r wythnos, e.e. 3 o 5 niwrnod. Bydd gofyn i rieni ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r cyfeiriad y maent am iddo gael ei ystyried at ddibenion dyrannu.

Os yw rhieni'n anfodlon â chanlyniad y cais am ysgol gymunedol benodol, gellir cyflwyno apêl i'w hystyried gan Banel Apeliadau Derbyn Annibynnol.  Yn achos derbyniadau addysg uwchradd, dylid cyflwyno apeliadau erbyn 25 Mawrth 2022. Bydd unrhyw benderfyniad gan y Panel yn orfodol ar y cyngor. Os nad yw'r apêl yn llwyddiannus, ni chaiff ceisiadau pellach am le yn yr un ysgol eu hystyried ar gyfer yr un flwyddyn academaidd oni bai fod Swyddog Derbyn y Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd yn barnu bod newidiadau arwyddocaol a pherthnasol yn amgylchiadau’r disgybl/rhieni neu'r ysgol.

Bydd y cyngor yn cadw rhestr aros o ymgeiswyr aflwyddiannus wedi’u blaenoriaethu yn ôl meini prawf gorymgeisio'r cyngor. Wrth i leoedd gwag godi, cânt eu cynnig ar sail y rhestr flaenoriaeth. Caiff rhestr aros ei chynnal tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y mae ymgeiswyr yn gwneud cais ynddi.

Er ei fod yn ddarpariaeth polisi ar wahân, mae'r cyngor yn cydnabod y gydberthynas rhwng derbyn a chludiant o'r cartref i'r ysgol, ac yn cynghori rhieni i ddarllen polisi teithio o’r cartref i’r ysgol y cyngor wrth ymgeisio am le mewn ysgol i'w plentyn.

Derbyn i'r Chweched Dosbarth

Mae dau chweched dosbarth yn y Fwrdeistref Sirol - chweched dosbarth Cymraeg mewn ysgol gymunedol yn Ysgol Newydd Gymunedol Gymraeg y mae'r cyngor yn awdurdod derbyn ar ei chyfer a chweched dosbarth a gynorthwyir yn wirfoddol yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Ysgol Gatholig San Joseff y mae corff llywodraethu'r ysgol yn awdurdod derbyn ar ei chyfer.

Bydd pobl ifanc â datganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n nodi darpariaeth chweched dosbarth penodol yn sicr o gael lle yn yr ysgol honno.

Meini prawf gorymgeisio (chweched dosbarth Cymraeg)

Mae gan rieni a disgyblion yr hawl i fynegi dewis a gaiff ei ystyried yn unigol a chydsynnir â hyn lle bynnag y bo modd.  Os bydd nifer y ceisiadau am le yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff dewisiadau eu hystyried o hyd ond dilynir y blaenoriaethau a bennwyd gan y cyngor. Wrth benderfynu ar ba blant i'w derbyn i'r chweched dosbarth, mae'r cyngor yn defnyddio'r meini prawf a nodir isod yn nhrefn y flaenoriaeth a nodir - a) yw'r flaenoriaeth uchaf. Ni fydd y cyngor fel arfer yn derbyn mwy o ddisgyblion i'r chweched dosbarth na'r nifer derbyn.

  • Pobl ifanc sy’n derbyn gofal, neu a oedd yn derbyn gofal gynt, gan awdurdod lleol yng Nghymru, yn unol ag Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu yn Lloegr, yn unol ag Adran 22 Deddf Plant 1989.
  • Pobl ifanc y mae ganddynt frawd neu chwaer hŷn a fydd ar gofrestr y chweched dosbarth pan gânt eu Diffinnir "brawd neu chwaer" fel brawd neu chwaer lawn, hanner brawd neu chwaer (h.y. un rhiant a rennir), llysfrodyr neu lyschwiorydd (h.y. plentyn person sy'n cydfyw â rhiant), brawd neu chwaer maeth neu a fabwysiadwyd.  Ym mhob achos, ar adeg cyflwyno'r cais rhaid i'r brawd neu'r chwaer fyw yn yr un cyfeiriad â'r plentyn neu'r person ifanc.  Dylid nodi perthynas unrhyw frodyr neu chwiorydd yn glir yn y cais.  Yn achos genedigaethau lluosog, os nad yw'n bosib cynnig lle i bob person ifanc yn y chweched dosbarth, bydd gofyn i rieni benderfynu pa berson ifanc a ddylai dderbyn lle'n gyntaf neu a ydynt yn dymuno ystyried lleoliad arall i'r holl bobl ifanc.

Os yw pobl ifanc â hawl gyfartal i le yn y chweched dosbarth yng nghategorïau a) a b) uchod, yna rhoddir blaenoriaeth i'r person ifanc sy'n byw agosaf. Mesurir hyn drwy'r llwybr cerdded/teithio byrraf rhwng y cartref a'r chweched dosbarth.

Mae'r cyngor yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol i gyfrifo'r pellter byrraf.

Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer derbyn ceisiadau fydd yn cael eu hystyried yn rownd gyntaf dyrannu lleoedd. Bydd ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr.  Caiff y rhain eu hystyried yn wythnosol unwaith bydd y dyraniad cychwynnol wedi'i gwblhau, a bydd lleoedd yn cael eu dyrannu'n unol ag argaeledd.

Ym mhob achos, bydd rhaid darparu tystiolaeth o gyfeiriad preswyl parhaol y disgybl ar adeg gwneud y cais os gofynnir amdani.

Unwaith bydd cynnig o le mewn ysgol wedi'i wneud, bydd y cyngor yn tynnu'r cynnig hwnnw yn ôl pan fydd cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol wedi'i wneud gan riant neu berson ifanc (er enghraifft, cais anwir am breswylio mewn dalgylch) sy'n gwadu lle i blentyn neu berson ifanc gyda chais cryfach.  Ni fydd lle mewn ysgol yn cael ei dynnu'n ôl unwaith bydd plentyn neu berson ifanc wedi dechrau yn yr ysgol ac eithrio pan fydd lle wedi'i gael drwy dwyll.  Wrth benderfynu p'un ai i dynnu lle yn ôl, bydd amser y plentyn hwnnw yn yr ysgol yn cael ei ystyried.  Pan fydd lle'n cael ei dynnu yn ôl oherwydd gwybodaeth gamarweiniol, bydd y cais yn cael ei ystyried o'r newydd a hawl i apelio os gwrthodir lle.

Ystyrir y cyfeiriad cartref fel cyfeiriad y person ifanc ynghyd â phrif breswylfa'r rhieni (neu'r person ifanc ar ei ben ei hun os yw'n byw ar ei ben ei hun) ar y dyddiad cyhoeddedig h.y. lle maent yn byw fel arfer. Os yw person ifanc yn byw gyda ffrindiau neu berthnasau (am resymau eraill ar wahân i drefniadau maethu), ni chaiff cyfeiriad y ffrindiau na'r perthnasau ei ystyried at ddibenion dyrannu lle.

Pan fo rhieni'n rhannu cyfrifoldeb am berson ifanc, ac mae'r person ifanc yn byw gyda'r ddau riant yn eu tro am ran o'r wythnos ysgol, yna ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw'r cyfeiriad lle mae'r person ifanc yn byw am y rhan fwyaf o'r wythnos, e.e. 3 o 5 niwrnod.

Bydd gofyn i rieni a phobl ifanc sy'n byw'n annibynnol ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r cyfeiriad y maent am iddo gael ei ystyried at ddibenion dyrannu.

Os yw rhiant neu berson ifanc yn anfodlon ar ganlyniad y cais am chweched dosbarth penodol, gellir cyflwyno apêl i'r Panel Apeliadau Derbyn Annibynnol erbyn 25 Mawrth 2022. Bydd unrhyw benderfyniad gan y panel yn orfodol ar y cyngor. Os nad yw'r apêl yn llwyddiannus, ni chaiff ceisiadau pellach am le yn yr un chweched dosbarth eu hystyried ar gyfer yr un flwyddyn academaidd oni bai fod Swyddog Derbyn y Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd yn barnu bod newidiadau arwyddocaol a pherthnasol yn amgylchiadau’r disgybl/rhieni neu'r ysgol.

Er ei fod yn ddarpariaeth polisi ar wahân, mae'r cyngor yn cydnabod y gydberthynas rhwng derbyn a chludiant o'r cartref i'r ysgol, ac yn cynghori rhieni i ddarllen polisi teithio o’r cartref i’r ysgol y cyngor wrth ymgeisio am le mewn ysgol i'w plentyn.

Derbyn yn ystod y flwyddyn academaidd

Penderfynir ar geisiadau i drosglwyddo plant o un ysgol i'r llall ar adegau ar wahân i'r oed trosglwyddo arferol trwy ddefnyddio'r meini prawf derbyn uchod. Mae ffurflenni cais ar gael gan Is-adran Derbyniadau Ysgolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y dylai rhieni eu cwblhau a'u dychwelyd at y Swyddog Derbyniadau, Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot SA13 1PJ. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael 'dyddiad gadael' gan yr ysgol lle maent ar y gofrestr ar hyn o bryd a 'dyddiad dechrau' yn yr ysgol dderbyn.  Nid yw symud plant a phobl ifanc yn ystod y flwyddyn academaidd yn cael ei argymell; oni nodir yn wahanol, fe'i derbynnir i'r ysgol newydd ar ddechrau'r tymor canlynol.

Bydd trosglwyddo i ysgol yn y Fwrdeistref Sirol o awdurdod lleol arall, neu oherwydd newid cyfeiriad, yn cael ei awdurdodi cyn gynted ag y bo modd, ond o fewn 15 niwrnod ysgol neu 28 niwrnod calendr, p'un bynnag sydd gyntaf.

Caiff plant a phobl ifanc sy'n trosglwyddo oherwydd bod ganddynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig eu derbyn i'r ysgol a enwir cyn gynted â phosib o fewn 15 niwrnod gwaith.

Nifer derbyn a maint dosbarthiadau - ysgolion cymunedol

Y nifer derbyn yw nifer y disgyblion y gall y cyngor ei dderbyn i ysgol. Mae gan bob ysgol nifer derbyn a gyfrifir gan ddefnyddio asesiad 'Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru' Llywodraeth Cymru.  Ni ellir gwrthod lle mewn ysgol oni bai fod y nifer derbyn wedi'i gyrraedd (atodiad 6).

Mae'n ofynnol yn ôl y ddeddfwriaeth nad yw dosbarthiadau sy'n cynnwys disgyblion y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 5, 6 a 7 oed yn ystod y flwyddyn ysgol yn cynnwys mwy na 30 o ddisgyblion heblaw am 'ddisgyblion eithriedig' fel a nodir gan y Rheoliadau. Y grŵp blwyddyn perthnasol yw'r grŵp y mae plant a phobl ifanc fel arfer yn cael eu derbyn iddo, h.y. dosbarth derbyn ar gyfer ysgolion cynradd a Bl7 ar gyfer ysgolion uwchradd.

Dalgylchoedd ac ysgolion partner - ysgolion cymunedol

At ddibenion derbyn i ysgolion cymunedol, diffinnir dalgylch fel yr ardal ddaearyddol a wasanaethir gan ysgol, fel a bennir gan y cyngor.

At ddiben derbyn i ysgolion cymunedol, diffinnir y term ysgol 'bartner' fel ysgol y mae ganddi ddalgylch sy'n gyffredin ag ysgol arall yn yr un categori, e.e. ysgol gynradd gymunedol Saesneg ac ysgol uwchradd gymunedol Saesneg neu ysgol gynradd gymunedol Gymraeg ac ysgol uwchradd gymunedol Gymraeg (ac eithrio ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol). Mae rhestr fynegol ar 1 Medi 2019 wedi'i hatodi yn atodiad 5.

Mae copïau o fapiau ardaloedd dalgylch ysgolion ar gael gan y Swyddog Derbyn, Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd.

Trosolwg o'r Broses Dderbyn - Ysgolion Cymunedol

Mae'n rhaid i bob cais am le mewn ysgol (gan gynnwys chweched dosbarth) yn y Fwrdeistref Sirol gael ei gyflwyno ar y ffurflen briodol i'r awdurdod ac nid i'r ysgol. Gall rhieni gyflwyno cais ar-lein.

Nid oes gan Benaethiaid yr awdurdod i dderbyn plant i'w hysgolion.  Rhaid cyflwyno ceisiadau i'r awdurdod derbyn, sef y cyngor, ar gyfer ysgolion cymunedol.

Bydd y cyngor yn anfon ffurflen cais am le a nodiadau trefniadau derbyn cysylltiedig at holl rieni plant sy'n hysbys i'r awdurdod ac sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol yn ystod tymor yr hydref cyn dechrau yn yr ysgol ym mis Medi y flwyddyn academaidd ganlynol.

Dylai rhieni ofyn am ffurflen cais am le, ac ar ôl ei chwblhau, ei dychwelyd at y Swyddog Derbyniadau neu gyflwyno cais ar-lein, erbyn y dyddiad a nodir ar y trefniadau derbyn.

Bydd y swyddfa ganolog yn hysbysu rhieni trwy lythyr neu e-bost fel y bo'n briodol, am ganlyniad pob cais am le ar y dyddiad a roddir yn y trefniadau derbyn.

Dylai rhieni sy'n fodlon ar y lleoliad a gynigir gadarnhau eu bod yn derbyn y cynnig yn ysgrifenedig i'r cyngor neu drwy'r wefan derbyniadau ysgolion.

Dyrennir lleoedd gwag i blant a phobl ifanc y mae eu rhieni wedi cyflwyno cais am le o flaen y rhai nad ydynt wedi derbyn y cynnig cychwynnol o le yn ffurfiol.

Mae gan rieni nad ydynt yn fodlon ar y lle a gynigir yr hawl i apelio.

Bydd y llythyr a anfonir yn cynnwys gwybodaeth am apelio. Caiff apeliadau eu clywed gan Banel Apeliadau Annibynnol a sefydlwyd yn benodol at ddiben clywed apeliadau.

Bydd ceisiadau am dderbyn i'r grŵp oed perthnasol a gyflwynir ar neu cyn y dyddiad cau gweinyddol yn cael eu hystyried gyda'i gilydd.  Yn hyn o beth, nid oes unrhyw fantais i gyflwyno'r cais am dderbyn yn gynnar.  Bydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau'n cael eu prosesu'n wythnosol.

Ni phennir derbyniadau ar sail meini prawf dethol sy'n cynnwys profion, gweld adroddiadau ysgol neu gyfweld â disgyblion, gyda rhieni neu hebddynt, er mwyn asesu gallu neu ddawn.

Lle mae'r ceisiadau am le yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir y lleoedd yn ôl meini prawf gorymgeisio'r cyngor.

Bydd y cyngor yn cadw rhestr aros o ymgeiswyr aflwyddiannus wedi’u blaenoriaethu yn ôl meini prawf gorymgeisio'r cyngor. Wrth i leoedd gwag godi, cânt eu cynnig ar sail y rhestr flaenoriaeth. Caiff rhestr aros ei chynnal tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y mae ymgeiswyr yn cyflwyno cais ynddi.

Os yw rhieni'n anfodlon â chanlyniad y cais am ysgol gymunedol benodol, gellir cyflwyno apêl i'w hystyried gan Banel Apeliadau Derbyn Annibynnol.  Yn achos derbyniadau addysg gynradd, dylid cyflwyno apeliadau erbyn 20 Mai 2022.

Yn achos derbyniadau addysg uwchradd, dylid cyflwyno apeliadau erbyn 25 Mawrth 2022. Bydd unrhyw benderfyniad gan y Panel yn orfodol ar y cyngor. Os nad yw'r apêl yn llwyddiannus, ni chaiff ceisiadau pellach am le yn yr un ysgol eu hystyried ar gyfer yr un flwyddyn academaidd oni bai fod Swyddog Derbyn y Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd yn barnu bod newidiadau arwyddocaol a pherthnasol yn amgylchiadau’r disgybl/rhieni neu'r ysgol.

Ni fydd hawl awtomatig gan blant y dosbarth derbyn gael addysg amser llawn yn yr un ysgol. Yn yr un modd, nid oes gan blant sy'n trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd hawl awtomatig i gael eu derbyn i unrhyw ysgol 3.

Ni fydd dyletswydd ar y cyngor i gydymffurfio â'r dewis a fynegir oni bai ei fod yn unol â'i drefniadau.

Mae trefniadau derbyn ar wahân yn berthnasol i ddisgyblion y mae gan y cyngor ddatganiad o anghenion addysgol arbennig ar eu cyfer. Mae'n rhaid i ddisgyblion â datganiad o anghenion addysgol arbennig gael eu derbyn i'r ysgol a nodir ar eu datganiad.

Mae'n rhaid i blant sy'n derbyn gofal, neu a oedd yn arfer derbyn gofal, gael eu blaenoriaethu mewn achosion o orymgeisio, ar ôl plant â datganiad o anghenion addysgol.

Derbyn i Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol (h.y. ysgolion ffydd)

Er bod ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol (h.y. ysgolion ffydd) yn awdurdodau derbyn hefyd, drwy ei system cyflwyno cais ar-lein, mae'r cyngor yn cynorthwyo gyda'r broses dderbyn ar gyfer Ysgol Gatholig San Joseff a'r Ganolfan Chweched Dosbarth. (Mae hyn yn berthnasol i geisiadau am le ym Mlwyddyn 7 yn unig.) Penderfynir ar geisiadau am le drwy gyfeirio at feini prawf derbyn a osodir gan y corff llywodraethu. (Mae cyrff llywodraethu Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol yn gyfrifol am bennu eu trefniadau derbyn eu hunain).

Atodiad 1

Amserlen y Camau Ysgolion Cymunedol Derbyniadau i Addysg Uwchradd a Chweched Dosbarth 2022/23

4 Hydref 2021

Ffurflenni cais/prosbectws ysgol/llawlyfr gwybodaeth i rieni yn cael eu dosbarthu i rieni. Mae gan rieni pobl ifanc sy'n dechrau mewn ysgol newydd (Blwyddyn 7) o leiaf 6 wythnos i wneud cais am le mewn ysgol o'u dewis.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais at: Mrs H Lewis, Swyddog Derbyniadau Ysgolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell- nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot SA13 1PJ

26 Tachwedd 2021

  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais am dderbyn
  • Prosesu ceisiadau

1 Chwefror 2022

Cadarnhau lleoedd plant â datganiad o anghenion addysgol arbennig.

1 Mawrth 2022

Rhoddir gwybod i rieni ac ysgolion am ddyraniad lleoedd ysgolion uwchradd i ddisgyblion prif ffrwd.

25 Mawrth 2022

Apeliadau yn erbyn gwrthod lle

Atodiad 2

Amserlen y Camau Ysgolion Cymunedol Derbyniadau i Addysg Gynradd 2022/23

4 Hydref 2021

Ffurflenni cais/prosbectws ysgol, llawlyfr gwybodaeth i rieni yn cael eu dosbarthu i rieni. Mae gan rieni plant sy'n dechrau mewn ysgol newydd (Derbyn) o leiaf 6 wythnos i wneud cais am le mewn ysgol o'u dewis.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais at: Mrs H Lewis, Swyddog Derbyniadau Ysgolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell- nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot SA13 1PJ

26 Tachwedd 2021

  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais am dderbyn
  • Prosesu ceisiadau

1 Chwefror 2022

Cadarnhau lleoedd plant â datganiad o anghenion addysgol arbennig.

19 Ebrill 2022

Rhoddir gwybod i rieni ac ysgolion am ddyraniad lleoedd ysgolion cynradd i ddisgyblion prif ffrwd.

20 Mai 2022

Apeliadau yn erbyn gwrthod lle

Atodiad 3

Amserlen Ddigwyddiadau ar gyfer Ysgolion Cymunedol Derbyniadau i Ddosbarthiadau Meithrin 2022/23

4 Hydref 2021

Dosbarthu ffurflenni cais i rieni.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais at: Mrs H Lewis, Swyddog Derbyniadau Ysgolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell- nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot SA13 1PJ

18 Mawrth 2022

  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais am dderbyn
  • Prosesu ceisiadau

13 Mai 2022

Rhoddir gwybod i rieni ac ysgolion am ddyraniad lleoedd meithrin.

Atodiad 4

Ysgolion Cymunedol Partner (Rhestr Ddangosol ar 01/09/19)

Uwchradd Cynradd
Cefn Saeson Ysgol Gynradd Crynallt, Ysgol Gynradd y Gnoll, Ysgol Gynradd Melin, Ysgol Gynradd Tonnau.

Cwmtawe

Ysgol Gynradd Alltwen, Ysgol Gynradd Godre'r-graig, Ysgol Gynradd Llangiwg, Ysgol Gynradd y Rhos, Ysgol Gynradd Rhydyfro, Ysgol Gynradd Tai'rgwaith
Ysgol Bae Baglan Ysgol Gynradd Awel y Môr, Ysgol Carreg Hir, Ysgol Gynradd Baglan, Ysgol Gynradd Blaenbaglan, Ysgol Gynradd Sandfields, Ysgol Gynradd Tywyn.
Dwr Y Felin Ysgol Gynradd Abbey, Ysgol Gynradd Blaenhonddan, Ysgol Gynradd Coedffranc, Ysgol Gynradd Crymlyn, Ysgol Gynradd Waunceirch.
Ysgol Cwm Brombil Ysgol Gynradd Central, Ysgol Gynradd Coed Hirwaun, Ysgol Gynradd Cwmafan, Ysgol Gynradd Eastern, Ysgol Gynradd Croeserw, Ysgol Gynradd Cymer Afan, Ysgol Gynradd Glyncorrwg, Ysgol Gynradd Pen Afan.
Llangatwg Ysgol Gynradd Blaendulais, Ysgol Gynradd Blaengwrach, Ysgol Gynradd Catwg, Ysgol Gynradd Cilffriw, Ysgol Gynradd Creunant, Ysgol Gynradd Cwmnedd, Ysgol Gynradd Maesmarchog, Ysgol Gynradd Ynysfach.
Ysgol Gymraag Ystalyfera - Bro Dur YGG Blaendulais, YGG Castell-nedd, YGG Cwmllynfell, YGG Cwmnedd, YGG Gwaun Cae Gurwen, YGG Pontardawe, YGG Rhosafan, YGG Trebannws, YGG Tyle’r Ynn.

DS. Nid yw mynd i ysgol bartner yn sicrhau lle yn yr ysgol a ffefrir nac yn atal rhieni rhag cyflwyno cais am ysgol arall o'u dewis. Nid yw'r tabl hwn yn cynnwys ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol sy'n destun trefniadau derbyn ar wahân.

Atodiad 5

Nifer Derbyn - Medi 2020

Enw’r Ysgol Nifer Derbyn Cyfnod Cynradd

Ysgol Gynradd Abbey

53

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Henadur Davies

59

Ysgol Gynradd Alltwen

34

Ysgol Gynradd Awel y Mor

42

Ysgol Gynradd Baglan

38

Ysgol Gynradd Blaenbaglan

40

Ysgol Gynradd Blaendulais

23

Ysgol Gynradd Blaengwrach

20

Ysgol Gynradd Blaenhonddan

32

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bryncoch

31

Ysgol Gynradd Catwg

29

Ysgol Gynradd Central

55

Ysgol Gynradd Cilffriw

30

Ysgol Gynradd Coed Hirwaun

22

Ysgol Gynradd Coedffranc

62

Ysgol Gynradd y Creunant

19

Ysgol Gynradd Croeserw

25

Ysgol Gynradd Crymlyn

8

Ysgol Gynradd Crynallt

57

Ysgol Gynradd Cwmafan

60

Ysgol Gynradd Cwm Nedd

30

Ysgol Gynradd Cymer Afan

12

Ysgol Gynradd Eastern

26

Ysgol Gynradd Glyncorrwg

19

Ysgol Gynradd y Gnoll

48

Ysgol Gynradd Godre'r-graig

23

Ysgol Gynradd Llangiwg

21

Ysgol Gynradd Maesmarchog

16

Ysgol Gynradd Melin

34

Ysgol Gynradd Pen Afan

18

Ysgol Gynradd y Rhos

25

Ysgol Gynradd Rhydyfro

24

Ysgol Gynradd Sandfields

53

Ysgol Fabanod San Joseff

34

Ysgol Iau Gatholig San Joseff

39

Ysgol Gynradd San Joseff

29

Ysgol Gynradd St Therese

28

Ysgol Gynradd Tai'rgwaith

21

Ysgol Gynradd Tonnau

30

Ysgol Gynradd Tywyn

52

Ysgol Gynradd Waunceirch

30

Ysgol Bae Baglan - Cyfnod Cynradd

40

Ysgol Gynradd Ynysfach

25

Ysgol Carreg Hir

60

Ysgol Newydd Margam - Cyfnod Cynradd

30

Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur - Cyfnod Cynradd

26

YGG Blaendulais

17

YGG Castell Nedd

48

YGG Cwm Nedd

26

YGG Gwaun Cae Gurwen

25

YGG Pontardawe

51

YGG Rhosafan

45

YGG Tyle'r Ynn

29

YGG Cwmllynfell

13

YGGD Trebannws

18
Enw’r Ysgol Nifer Derbyn Cyfnod Uwchradd Nifer Derbyn Chweched Dosbarth
Ysgol Gyfun Cefn Saeson 184  
Ysgol Gymunedol Cwmtawe 256  
Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin 220  
Ysgol Newydd Margam 210  
Ysgol Gymunedol Llangatwg 233  
Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth San Joseff 144 143
Ysgol Bae Baglan 220  
Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur 240 130