Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Derbyn i'r Chweched Dosbarth

Mae dau chweched dosbarth yn y Fwrdeistref Sirol - chweched dosbarth Cymraeg mewn ysgol gymunedol yn Ysgol Newydd Gymunedol Gymraeg y mae'r cyngor yn awdurdod derbyn ar ei chyfer a chweched dosbarth a gynorthwyir yn wirfoddol yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Ysgol Gatholig San Joseff y mae corff llywodraethu'r ysgol yn awdurdod derbyn ar ei chyfer.

Bydd pobl ifanc â datganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n nodi darpariaeth chweched dosbarth penodol yn sicr o gael lle yn yr ysgol honno.

  • Meini prawf gorymgeisio (chweched dosbarth Cymraeg)

    Mae gan rieni a disgyblion yr hawl i fynegi dewis a gaiff ei ystyried yn unigol a chydsynnir â hyn lle bynnag y bo modd. Os bydd nifer y ceisiadau am le yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff dewisiadau eu hystyried o hyd ond dilynir y blaenoriaethau a bennwyd gan y cyngor. Wrth benderfynu ar ba blant i'w derbyn i'r chweched dosbarth, mae'r cyngor yn defnyddio'r meini prawf a nodir isod yn nhrefn y flaenoriaeth a nodir - a) yw'r flaenoriaeth uchaf. Ni fydd y cyngor fel arfer yn derbyn mwy o ddisgyblion i'r chweched dosbarth na'r nifer derbyn.

    a) Pobl ifanc sy’n derbyn gofal, neu a oedd yn derbyn gofal gynt, gan awdurdod lleol yng Nghymru, yn unol ag Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu yn Lloegr, yn unol ag Adran 22 Deddf Plant 1989.

b) Pobl ifanc y mae ganddynt frawd neu chwaer hyn a fydd ar gofrestr y chweched dosbarth pan gânt eu derbyn. Diffinnir "brawd neu chwaer" fel brawd neu chwaer lawn, hanner brawd neu chwaer (h.y. un rhiant a rennir),  llysfrodyr neu lyschwiorydd (h.y. plentyn person sy'n cydfyw â rhiant), brawd neu chwaer maeth neu a fabwysiadwyd. Ym mhob achos, ar adeg cyflwyno'r cais rhaid i'r brawd neu'r chwaer fyw yn yr un cyfeiriad â'r plentyn neu'r person ifanc. Dylid nodi perthynas unrhyw frodyr neu chwiorydd yn glir yn y cais. Yn achos genedigaethau lluosog, os nad yw'n bosib cynnig lle i bob person ifanc yn y chweched dosbarth, bydd gofyn i rieni benderfynu pa berson ifanc a ddylai dderbyn lle'n gyntaf neu a ydynt yn dymuno ystyried lleoliad arall i'r holl bobl ifanc.

Os yw pobl ifanc â hawl gyfartal i le yn y chweched dosbarth yng nghategorïau a) a b) uchod, yna rhoddir blaenoriaeth i'r person ifanc sy'n byw agosaf. Mesurir hyn drwy'r llwybr cerdded/teithio byrraf rhwng y cartref a'r chweched dosbarth.
Mae'r cyngor yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol i gyfrifo'r pellter byrraf.

Dim ond ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer derbyn ceisiadau fydd yn cael eu hystyried yn rownd gyntaf dyrannu lleoedd. Bydd ffurflenni cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr. Caiff y rhain eu hystyried yn wythnosol unwaith bydd y dyraniad cychwynnol wedi'i gwblhau, a bydd lleoedd yn cael eu dyrannu'n unol ag argaeledd.

Ym mhob achos, bydd rhaid darparu tystiolaeth o gyfeiriad preswyl parhaol y disgybl ar adeg gwneud y cais os gofynnir amdani.

Unwaith bydd cynnig o le mewn ysgol wedi'i wneud, bydd y cyngor yn tynnu'r cynnig hwnnw yn ôl pan fydd cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol wedi'i wneud gan riant neu berson ifanc (er enghraifft, cais anwir am breswylio mewn dalgylch) sy'n gwadu lle i blentyn neu berson ifanc gyda chais cryfach. Ni fydd lle mewn ysgol yn cael ei dynnu'n ôl unwaith bydd plentyn neu berson ifanc wedi dechrau yn yr ysgol ac eithrio pan fydd lle wedi'i gael drwy dwyll. Wrth benderfynu p'un ai i dynnu lle yn ôl, bydd amser y plentyn hwnnw yn yr ysgol yn cael ei ystyried. Pan fydd lle'n cael ei dynnu yn ôl oherwydd gwybodaeth gamarweiniol, bydd y cais yn cael ei ystyried o'r newydd a hawl i apelio os gwrthodir lle.

Ystyrir y cyfeiriad cartref fel cyfeiriad y person ifanc ynghyd â phrif breswylfa'r rhieni (neu'r person ifanc ar ei ben ei hun os yw'n byw ar ei ben ei hun) ar y dyddiad cyhoeddedig h.y. lle maent yn byw fel arfer. Os yw person ifanc yn byw gyda ffrindiau neu berthnasau (am resymau eraill ar wahân i drefniadau maethu), ni chaiff cyfeiriad y ffrindiau na'r perthnasau ei ystyried at ddibenion dyrannu lle.

Pan fo rhieni'n rhannu cyfrifoldeb am berson ifanc, ac mae'r person ifanc yn byw gyda'r ddau riant yn eu tro am ran o'r wythnos ysgol, yna ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw'r cyfeiriad lle mae'r person ifanc yn byw am y rhan fwyaf o'r wythnos,
e.e. 3 o 5 niwrnod.

Bydd gofyn i rieni a phobl ifanc sy'n byw'n annibynnol ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r cyfeiriad y maent am iddo gael ei ystyried at ddibenion dyrannu.

Os yw rhiant neu berson ifanc yn anfodlon ar ganlyniad y cais am chweched dosbarth penodol, gellir cyflwyno apêl i'r Panel Apeliadau Derbyn Annibynnol erbyn 25 Mawrth 2022. Bydd unrhyw benderfyniad gan y panel yn orfodol ar y cyngor. Os nad yw'r apêl yn llwyddiannus, ni chaiff ceisiadau pellach am le yn yr un chweched dosbarth eu hystyried ar gyfer yr un flwyddyn academaidd oni bai fod Swyddog Derbyn y Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd yn barnu bod newidiadau arwyddocaol a pherthnasol yn amgylchiadau’r disgybl/rhieni neu'r ysgol.

Er ei fod yn ddarpariaeth polisi ar wahân, mae'r cyngor yn cydnabod y gydberthynas rhwng derbyn a chludiant o'r cartref i'r ysgol, ac yn cynghori rhieni i ddarllen polisi teithio o’r cartref i’r ysgol y cyngor wrth ymgeisio am le mewn ysgol i'w plentyn.