Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Asesiad Lles

Asesu eich anghenion

Eich sgwrs gyntaf â'n cyswllt cyntaf yw'r man cychwyn ar gyfer asesu'ch anghenion. Os nad yw'n bosib diwallu eich anghenion trwy gefnogaeth gymunedol a theuluol yn unig, byddwn yn cyflawni asesiad llawnach. Gall un person gynnal yr asesiad hwn ar ran nifer o sefydliadau a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i gydlynu'ch cefnogaeth. Gallai'r rhain gynnwys eich cyngor lleol, gwasanaethau iechyd lleol, gwasanaethau cymunedol a sefydliadau'r sector gwirfoddol.

Mae'r broses asesu ar gyfer gofal a chefnogaeth yn seiliedig ar eich anghenion a'r hyn sydd o bwys i chi fel unigolyn. Caiff ei chwblhau mewn partneriaeth â chi a'ch teulu. Yn ogystal â chael gwybod beth yw'r problemau, byddwn yn edrych ar eich cryfderau, yr hyn sy'n mynd yn dda yn eich bywyd a'r gefnogaeth sydd ar gael i chi gan eich teulu a'ch ffrindiau a phobl eraill yn y gymuned.

Nid yw cael asesiad bob amser yn golygu ein bod yn mynd i ddarparu gwasanaeth i chi.

Bydd yr asesiad yn edrych ar:

  • eich amgylchiadau personol
  • y canlyniadau rydych am eu cyflawni
  • y rhwystrau sy'n eich atal rhag cyflawni'r canlyniadau hyn
  • y risgiau a fydd yn bodoli os na chyflawnir y canlyniadau hyn, a'ch cryfderau a'ch galluoedd

Gallwch drefnu i ffrind neu berthynas fod gyda chi yn eich asesiad os dymunwch. Os oes gennych ofalwr - perthynas neu ffrind sy'n rhoi help di-dâl i chi - byddwn hefyd am siarad â'r person hwn am ba help mae'n gallu ac yn fodlon ei roi a pha gefnogaeth y gall fod ei hangen arno gyda'i rôl ofalu.

Efallai y byddwn hefyd am gael gwybodaeth gan bobl eraill, fel eich doctor.

Nid yw cael asesiad bob amser yn golygu ein bod yn mynd i ddarparu gwasanaeth i chi.

Byddwn yn ystyried yr holl ffyrdd posib i ddiwallu'ch anghenion a chyflawni'ch canlyniadau personol, ac yn sicrhau eich bod yn deall yr opsiynau sydd ar gael a'r hyn y maent yn eu golygu i chi.

Eich cynllun gofal a chefnogaeth

I fod yn gymwys am gefnogaeth y gwasanaethau cymdeithasol, rhaid bod gennych anghenion nad oes modd eu diwallu drwy ofal a chefnogaeth eraill na chymorth y gwasanaethau cymunedol, ac rydych yn annhebygol o gyflawni eich canlyniadau personol oni bai fod yr awdurdod lleol yn darparu neu'n trefnu cefnogaeth.

Os ydych yn gymwys am gefnogaeth gan wasanaethau cymdeithasol, byddwn yn gweithio gyda chi, ac efallai â phobl eraill, i lunio cynllun gofal a chefnogaeth.

Cewch gopi o hwn i'w gadw. Mae'n esbonio sut caiff eich anghenion eu diwallu gan wasanaethau lleol, eich teulu a'ch cymuned a pha ganlyniadau mae'r gefnogaeth hon yn ceisio eu cyflawni. Yn aml, nod y cynllun fydd cynnig gwasanaethau neu gefnogaeth i chi sy'n gweithio tuag at ganlyniad penodol.

Er enghraifft, efallai y bydd angen help arnoch i ymdopi gartref eto ar ôl cyfnod o salwch, neu efallai yr hoffech ddatblygu sgiliau ymarferol neu fagu hyder a fydd yn eich galluogi i fod yn fwy annibynnol a chymryd mwy o ran yn eich cymuned leol. Byddwn yn adolygu'ch cynllun gyda chi'n rheolaidd i wirio ei fod yn dal i ddiwallu'ch anghenion, ac i weld a yw'ch anghenion wedi newid. Gallai hyn olygu y cewch wasanaeth mwy penodol, gwasanaeth gwahanol, llai o wasanaeth, neu ddim gwasanaeth o gwbl. “Os bydd eich anghenion neu'ch amgylchiadau'n newid, cewch ofyn am asesiad newydd”