Datganiad I'r Wasg
-
Cynllun cyllido newydd ei ehangu yn annog cyn-weithiwr Tata i ailhyfforddi ym maes deallusrwydd artiffisial28 Awst 2025
Mae Cronfa Cyflogaeth a Sgiliau Llywodraeth y DU wedi galluogi Ryan Davies, sy'n gyn-Brif Ymchwilydd yn Tata Steel y cafodd ei swydd ei dileu, i symud tuag at yrfa newydd ym maes gwyddor data.
-
Y Cyngor yn Cyhoeddi Canfyddiadau Astudiaeth Ddichonoldeb ar gyfer Pwll Nofio ym Mhontardawe27 Awst 2025
Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer pwll nofio newydd arfaethedig ym Mhontardawe yn ei gyfarfod Cabinet ddydd Mercher, 3 Medi. Mae'r astudiaeth ddichonoldeb yn nodi lleoliad a ffefrir ac yn gosod y cyngor mewn sefyllfa gref i ymateb i gyfleoedd cyllido yn y dyfodol wrth iddynt godi.
-
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymrwymo i'r Safon Balchder mewn Cyn-filwyr (PiVS)21 Awst 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi datgan ei gefnogaeth i gyn-aelodau ac aelodau presennol o'r lluoedd arfog sy'n LHDTC+ ac sydd, ers blynyddoedd, wedi wynebu gwahaniaethu a'r risg o gamau cyfreithiol a cholli eu swyddi, drwy ymrwymo i'r Safon Balchder mewn Cyn-filwyr (PiVS).
-
Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau TGAU21 Awst 2025
Mae disgyblion yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion â chanlyniadau sy'n adlewyrchiad llawn o'u hymrwymiad, eu penderfynoldeb a'u hymroddiad dros flynyddoedd lawer.
-
Y Cyngor yn Cyhoeddi Cynlluniau ar gyfer Canolfan Alwedigaethol Newydd Arfaethedig19 Awst 2025
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Canolfan Alwedigaethol cyn-16 newydd arfaethedig yn yr hen Ganolfan Adnoddau Dysgu Addysg (ELRS) yn Felindre, Port Talbot. Bwriedir i'r ganolfan helpu pobl ifanc 14–16 oed i ddysgu sgiliau ymarferol, ennill cymwysterau galwedigaethol a dilyn llwybrau at yrfaoedd yn y dyfodol.
-
Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau Safon Uwch.14 Awst 2025
Mae myfyrwyr ac athrawon yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur a Chanolfan Chweched Dosbarth Gatholig Joseff Sant ym Mhort Talbot, sef y ddwy ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n cynnig addysg ôl-16, yn cael eu llongyfarch am eu llwyddiannau yn 2025. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynychu Grŵp Colegau NPTC i barhau â'u haddysg ôl-16.
-
Dyn yn talu'n ddrud am ollwng concrit yn y ffordd12 Awst 2025
Mae dyn a ollyngodd rwbel concrit ar Ffordd Amazon yn ardal Twyni Crymlyn wedi ymddangos gerbron Ynadon Abertawe ar ôl i Dîm Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot ddod o hyd iddo.
-
Castell-nedd Port Talbot yn ennill cyllid gan brosiect ‘Trefi Byd Natur’ sydd ar waith ledled y DU11 Awst 2025
Mae Castell-nedd Port Talbot wedi cael cyllid gan fenter sydd ar waith ledled y DU i wella mynediad at fannau gwyrdd, trawsnewid tirweddau trefol, integreiddio byd natur mewn prosesau gwneud penderfyniadau lleol a gwneud trefi a dinasoedd yn wyrddach, yn iachach, ac yn fwy gwydn a llewyrchus.
-
Canghellor y DU a Phrif Weinidog Cymru yn ymweld â Chastell-nedd Port Talbot08 Awst 2025
Mae Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves, a Phrif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi ymweld â Chastell-nedd Port Talbot i weld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar brosiect diogelwch tomen lo a chwrdd â phobl y mae cau'r ffwrneisi chwyth yng ngwaith dur Port Talbot wedi effeithio arnynt.
-
Cymeradwyaeth Cynllunio ar gyfer Safle Newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn Sandfields, Port Talbot06 Awst 2025
Mae cymeradwyaeth cynllunio wedi cael ei rhoi ar gyfer ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arloesol newydd sbon ym Mhort Talbot.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 13
- Tudalen 14 o 53
- Tudalen 15
- ...
- Tudalen 53
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf