Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

  • Lansio Gwobrau Gofalwn Gyda'n Gilydd i ddathlu rhagoriaeth ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blyny
    28 Tachwedd 2025

    Mae Gofalwn Cymru, Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn falch o lansio Gwobrau Gofalwn Gyda'n Gilydd, digwyddiad newydd uchel ei fri sy'n ymroddedig i anrhydeddu'r gweithwyr proffesiynol eithriadol ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yn rhanbarth Gorllewin Morgannwg (Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot).

  • Adrodd straeon creadigol yn dod â hud yr hydref i Barc Gwledig Gnoll
    26 Tachwedd 2025

    Trawsnewidiwyd Parc Gwledig Gnoll yn ganolbwynt dychymyg a dathlu ynghynt yn y mis pan ymunodd disgyblion o Ysgol Gynradd yr Henadur Davies, Castell-nedd, â’r storïwr Michael Harvey ar gyfer diwrnod o antur yn yr awyr agored, ysgrifennu creadigol ac adrodd straeon diwylliannol.

  • Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot yn Dathlu Llwyddiant yng Ngwobrau Dengmlwyddiant Bwyd a Hwyl Llywodraeth
    20 Tachwedd 2025

    Mae Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei gydnabod am ei lwyddiant yng ngwobrau dathlu dengmlwyddiant Bwyd a Hwyl Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi cydnabyddiaeth i'r staff, yr ysgolion, y byrddau iechyd a'r partneriaethau sydd wedi gwneud y rhaglen yn llwyddiant ledled Cymru.

  • Parciau Gnoll a Margam ill dau’n cael eu henwebu ymysg deg uchaf y lleoliadau glas ym Mhrydain
    20 Tachwedd 2025

    Mae Parc Gwledig Gnoll a Pharc Gwledig Margam yn rhestr Keep Britain Tidy o ddeg uchaf y llecynnau glas yn y Deyrnas Unedig.

  • Dyn o Gastell-nedd a anwybyddodd hysbysiad cosb benodedig am ollwng gwastraff ar stryd yn talu mwy na £700 yn y pen draw
    20 Tachwedd 2025

    Mae dyn a ollyngodd fwyd, basged fara, blychau cardbord a gwastraff arall ar stryd ym Mhort Talbot wedi talu mwy na £700 yn y pen draw, ar ôl peidio â thalu hysbysiad cosb benodedig.

  • Bellach ar agor – cyfleusterau newydd sbon Parc Gwledig Gnoll a’i hanes wedi’i adnewyddu
    19 Tachwedd 2025

    Mae cyfleusterau i ymwelwyr sydd wedi’u moderneiddio a nodweddion hanesyddol a adnewyddwyd ar draws 240 erw o Barc Gwledig Gnoll yng Nghastell-nedd ar agor i’r cyhoedd heddiw (Dydd Mercher, Tachwedd 19eg, 2025), ar ôl gwaith ailddatblygu o bwys a gostiodd £12m.

  • Dyn o Lanelli yn Talu’n Ddrud am Adael Gwastraff Anghyfreithlon Gwaith Adnewyddu Tŷ yn Llansawel
    14 Tachwedd 2025

    Mae’r person oedd yn gyfrifol am gerbyd a ddefnyddiwyd i ddympio gwastraff o waith adnewyddu tŷ, mewn dau leoliad ar wahân yn Llansawel ar yr un diwrnod, wedi cael gorchymyn i dal costau o £1,516, Gordal Dioddefwr o £114, ac i wneud 100 o oriau o waith di-dâl.

  • Golwg gyntaf ar gyfleusterau newydd trawiadol Parc Gwledig Gnoll Castell-nedd ar eu newydd wedd
    12 Tachwedd 2025

    MAE GWAITH bellach wedi dod i ben ar y prosiect £12m i ddiweddaru cyfleusterau i ymwelwyr ac adfer nodweddion hanesyddol ar draws 240 erw Parc Gwledig Gnoll.

  • Golwg Gyntaf: Datgelu Placiau Glas i Richard a Philip Burton
    10 Tachwedd 2025

    Ar y dydd a fyddai'n ganfed pen-blwydd Richard Burton [10 Tachwedd 2025], datgelwyd Placiau Glas yn ei fan geni a chyn-gartref ei fentor a’i dad mabwysiedig, Philip Burton.

  • Cyhoeddi dyddiadau parcio am ddim ynghanol trefi Castell-nedd Port Talbot dros Dymor yr Ŵyl
    05 Tachwedd 2025

    Mae’r fenter i gynnig parcio rhad ac am ddim ar gyfer canol trefi Port Talbot, Pontardawe a Chastell-nedd yn parhau eleni gyda phum dyddiad yn arwain at y Nadolig yn cael eu pennu’n ‘ddiwrnodau parcio am ddim’.

Rhannu eich Adborth