Datganiad I'r Wasg
-
Cyfleusterau Gwerth £12m yn Agor yn Swyddogol ym Mharc Gwledig Gnoll, Castell-nedd17 Mawrth 2026
Mae ailddatblygiad o bwys i Barc Gwledig Gnoll, yng Nghastell-nedd, sy’n werth £12 miliwn, wedi agor yn swyddogol.
-
Maer Ieuenctid Newydd yn “Llawn Cyffro” i Ddechrau Rôl Newydd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot16 Mawrth 2026
Mae Maer Ieuenctid newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CNPT) a gafodd ei “magu eisiau bod yn rhan o’r Cyngor Ieuenctid” wedi cael ei sefydlu a’i hurddo’n swyddogol yn ystod seremoni arbennig yng Nghanolfan Ddinesig y Cyngor.
-
Plac Glas yn cael ei Arddangos i Ddathlu’r Cymro Cyntaf i Ennill Oscar10 Mawrth 2026
Mae Plac Glas bellach wedi’i osod ar dŷ yng Nghastell-nedd – cartref plentyndod seren Hollywood leol.
-
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Sicrhau Miliynau i Drigolion drwy Gymorth Costau Byw10 Mawrth 2026
Helpodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot drigolion i gael gafael ar filiynau o bunnau mewn incwm ychwanegol yn ystod 2024-2025, fel rhan o'i waith parhaus i leihau effaith pwysau costau byw ledled y fwrdeistref sirol.
-
Cyhoeddi'r camau nesaf i Genedl Marmot Cymru03 Mawrth 2026
Mae Castell-nedd Port Talbot yn un o bum ardal awdurdod lleol i gael cyllid i ddod yn arloeswr ar gyfer uchelgais ‘Cenedl Marmot’, a gyhoeddwyd mewn Uwchgynhadledd Tegwch Iechyd yng Nghaerdydd (dydd Mawrth 24 Chwefror).
-
Arddangosfa Plac Glas i nodi 80 mlynedd ers i actor o Gymru ennill Oscar am y tro cyntaf27 Chwefror 2026
Bydd dyn o Gastell-nedd a sefydlodd waddol enfawr iddo’i hun yn Hollywood yn cael ei anrhydeddu â Phlac Glas i gofio amdano.
-
Dedfryd i Ddyn o Bort Talbot ar ôl Trosedd Tipio Anghyfreithlon Ganol Nos27 Chwefror 2026
Mae dyn o Bort Talbot wedi cael gorchymyn i dalu mwy na £1,000 ar ôl cael ei ddal yn tipio'n anghyfreithlon ar dir ger gorsaf drenau'r dref.
-
Prosiect Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain wedi'i gwblhau yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe26 Chwefror 2026
Mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cyhoeddi bod prosiect Ffeibr Tywyll yn y Dwyrain wedi'i gwblhau'n llwyddiannus, sy'n nodi cam mawr ymlaen o ran gwella cysylltedd digidol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ledled y rhanbarth. Mae'r prosiect wedi darparu rhwydwaith ffeibr diogel newydd sy'n cysylltu 36 o safleoedd sector cyhoeddus trwy 46 o gysylltiadau. Bydd hyn yn helpu sefydliadau allweddol i weithio'n agosach gyda'i gilydd ac yn helpu i wella gwasanaethau cyhoedd.
-
Ystyried Port Talbot a Chwm Afan ar gyfer Tref Diwylliant y DU 202824 Chwefror 2026
Mae’n debygol y bydd Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystyried cyflwyno cais Mynegi Diddordeb i gystadleuaeth newydd ‘Tref Diwylliant y DU’, gyda swyddogion eisiau argymell dethol Port Talbot a Chwm Afan fel prif sylw’r cynnig arfaethedig.
-
Y buddsoddiad mwyaf erioed mewn ysgolion wrth i'r Cabinet ystyried cynigion y gyllideb24 Chwefror 2026
Disgwylir i gyllideb arfaethedig Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2026/27 arwain at y buddsoddiad mwyaf erioed mewn ysgolion a diogelu gwasanaethau rheng flaen hanfodol yn ystod cyfnod o bwysau ariannol parhaus.