Asesiad Rheoliadau Chynefinoedd a Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig
Ymgynghoriad ar y Cynllun Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir)
Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad 8 wythnos ar y Strategaeth a Ffafrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid, rhwng 12 Rhagfyr 2024 a 6 Chwefror 2025.
Yn rhan o’r gwaith parhaus, mae’r Cyngor wedi paratoi Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) wedi’i ddiweddaru, ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC). Cynhaliwyd ymgynghoriad hefyd ar yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
Llawrlwythiadau
-
Crynodeb Annhechnegol o'r ACI (PDF 631 KB)
-
Arfarniad Cynaladwyedd Integredig (ACI) (PDF 5.31 MB)
-
Asesiad Effaith Integredig (AEI) (PDF 14.72 MB)
Ynglŷn â'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig
Pwrpas yr arfarniad yw edrych ar effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol tebygol y CDLl.
Bydd yr ACI yn ymgorffori:
- Arfarniad Cynaliadwyedd
- Asesiad Amgylcheddol Strategol
- Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb
- Asesiad o'r Effaith ar Iechyd
- Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg
Bydd yn edrych ar y strategaeth, polisïau a chynigion yn y cynllun i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy.
Bydd yr ACI yn chwarae rhan bwysig wrth ddangos bod y CDLl yn gadarn. Mae'n elfen annatod o bob cam o'r gwaith o baratoi'r cynllun, gan hysbysu'r CDLl o'r cychwyn cyntaf i'w fabwysiadu.
Adroddiad Cwmpasu'r ACI yw cam cyntaf proses y Gwerthusiad Cynaliadwyedd Integredig a bydd yn dogfennu sut y mae'r Awdurdod yn bwriadu asesu cynaliadwyedd y CDLl.
Ynglŷn â'r Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd (ARhC)
Mae'r asesiad hwn yn profi a fyddai'r CDLl Newydd yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar unrhyw safleoedd o bwysigrwydd Ewropeaidd - megis Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae tair ACA yn rhannol o fewn ffiniau Castell-nedd Port Talbot ac ystod o rai eraill yn y rhanbarth a allai gael eu heffeithio gan gynigion y CDLl Newydd.
Rhaid ymgymryd ag ARhC y CDLl ochr yn ochr â, ond ar wahân i'r ACI. Bydd canfyddiadau pob proses yn llywio pob asesiad. Bydd y ARhC yn cael ei wneud drwy gydol y broses paratoi CDLl.