Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Y Strategaeth a Ffefrir

Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid

Mae’r ymgynghori ar y Strategaeth a Ffafrir bellach wedi cau. 

Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad 8 wythnos ar y Strategaeth a Ffafrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid, rhwng 12 Rhagfyr 2024 a 6 Chwefror 2025.

Bydd y CDLlA yn dyrannu tir ar gyfer cartrefi a chyflogaeth, yn diogelu amgylchedd unigryw CNPT ac yn cynnwys polisïau i ddarparu’r sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

Bydd y Cynllun hefyd yn cynorthwyo i dynnu ynghyd Gynllun Corfforaethol a Chynllun Lles y Cyngor, ynghyd â Strategaethau eraill y Cyngor.

Fideo CDLlA

Hwn yw cam ymgynghori statudol cyntaf y gwaith o baratoi’r CDLlA.

Llawrlwythiadau

  • Hysbysiad o Ymgynghoriad (PDF 159 KB)

Mae’r Strategaeth a Ffefrir yn nodi:

  • Y materion allweddol, y weledigaeth a’r amcanion ar gyfer y CDLlA; 
  • Y lefel ddymunol o dwf a dosbarthiad gofodol bras y twf hwn;
  • Y fframwaith polisi strategol; a
  • Safleoedd tai a chyflogaeth allweddol.

Dogfennau Ymgynghori

Mae fersiwn PDF ar gael o Ddogfen Ymgynghori y Strategaeth a Ffefrir hefyd, yn ogystal â fersiwn hawdd ei ddarllen:

CDLIA Y Strategaeth a Ffefrir (Dogfen Ymgynghori)

Llawrlwythiadau

  • CDLIA Strategaeth a Ffefrir Hawdd ei ddarllen (PDF 3.48 MB)
  • Cwestiynau Cyffredin Ymgynghoriad Cyn-adneuo (Strategaeth a Ffefrir) (PDF 584 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Tystiolaeth ategol

Mae modd gweld yr holl dystiolaeth ategol sydd wedi ategu ein Strategaeth a Ffefrir ar dudalen we ein sylfaen dystiolaeth.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r uchod neu am unrhyw agwedd arall ar y broses o baratoi’r CDLlA, cysylltwch â:

CDLlA
(01639) 686821 (01639) 686821 voice +441639686821

Dolenni defnyddiol

Gallai dogfennau canllaw cymunedol Cynlluniau Datblygu Llywodraeth Cymru fod o ddiddordeb hefyd.