Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Sylfaen dystiolaeth

Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) gael eu hategu gan swm sylweddol o dystiolaeth a gasglwyd, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn ‘gadarn’. Wrth baratoi'r CDLl, bydd y Cyngor yn casglu rhywfaint o wybodaeth o ffynonellau presennol, a bydd naill ai'n cynnal, neu'n comisiynu swm sylweddol o ymchwil ac astudiaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i nodi'r materion a'r heriau allweddol sy'n wynebu Castell-nedd Port Talbot, a bydd yn sail i ddatblygu polisi.

CDLIA Ymgynghoriad ar y Cynllun Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir)

Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad 8 wythnos ar y Strategaeth a Ffafrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid, rhwng 12 Rhagfyr 2024 a 6 Chwefror 2025.

Mae’r dystiolaeth ganlynol wedi’i pharatoi’n rhan o’r ymgynghoriad hwn: 

  • Cofrestrau Safleoedd Ymgeisiol - Cofrestr o'r safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd i'r Cyngor gan ddatblygwyr, perchnogion tir a phartion â diddordeb i'w hystyried ar gyfer datblygu yn y dyfodol, neu i'w gwarchod, yn ystod y ddwy alwad am safleoedd ac un alwad capasiti trefol.
  • Asesiad Effaith Integredig (AEI) - Mae'r arfarniad yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol tebygol y CDLlA. Mae'r AEI yn ymgorffori Arfarniad Cynaliadwyedd, Asesiad Amgylcheddol Strategol, Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb, Asesiad Effaith ar Iechyd ac Asesiad Effaith ar y Gymraeg. 
  • Crynodeb Annhechnegol yr AEI - Crynodeb annhechnegol o'r AEI.
  • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - Mae'r asesiad hwn yn profi a fyddai'r CDLlA yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar unrhyw safleoedd sydd â phwysigrwydd Ewropeaidd.
  • Asesiad Twf Economaidd a Thai - Asesiad o berthnasoedd strategol a gweithredol tai ac economeg yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ystyriwyd twf economaidd posibl i'r dyfodol, swm a chyfansoddiad y tir cyflogaeth, a thwf aelwydydd i'r dyfodol.
  • Asesiad o'r Farchnad Dai Leol - Asesiad o berthnasoedd strategol a gweithredol tai ac economeg yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ystyriwyd twf economaidd posibl i'r dyfodol, swm a chyfansoddiad y tir cyflogaeth, a thwf aelwydydd i'r dyfodol.
  • Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd (Cam 1) - Comisiynwyd yr asesiad Cam 1 hwn ar y cyd ag awdurdodau eraill yn y rhanbarth. Astudiaeth pen desg yw cam 1, er mwyn asesu risgiau llifogydd posibl ar draws ardal yr astudiaeth o bob ffynhonnell llifogydd.
  • Adolygiad Tir Cyflogaeth (Rhan 1, Rhan 2, Atodiad 1, Atodiad 2, Atodiad 3, Atodiad 4 - Asesiad o'r cyflenwad a'r galw am dir cyflogaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan edrych ar ansawdd, dosbarthiad a nifer y safleoedd a'r adeiladau cyflogaeth sydd ar gael, ac addasrwydd safleoedd i ymateb i'r galw yn y dyfodol.
  • Asesiad Seilwaith Gwyrdd - Mae'n darparu trosolwg strategol o rwydwaith natur a Seilwaith Gwyrdd Castell-nedd Port Talbot, gan nodi'r rhwydwaith presennol, gwydnwch y rhwydwaith a'r prif faterion a chyfleoedd o ran Seilwaith Gwyrdd.
  • Asesiad o Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel - Asesiad o ynni adnewyddadwy a charbon isel, gan roi sylw i'r galw presennol a phosibl am ynni, cynhyrchu ynni, cyfleoedd posibl o ran ynni adnewyddadwy a charbon isel, a thargedau a pholisiau posibl ar gyfer y CDLlA.
  • Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr - O dan Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru), astudiaeth i asesu anghenion llety'r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn y dyfodol.
  • Astudiaeth Dichonoldeb Lefel Uchel - Asesiad dichonoldeb lefel uchel o'r cynllun cyfan, y mae'r Cyngor yn ei gynnal i asesu dichonoldeb datblygu ar draws yr Ardaloedd Marchnad Dai yng Nghastell-nedd Port Talbot.
  • Asesiad Lletemau Gwyrdd - Asesiad i adolygu dynodiadau Lletem Las sydd eisoes yn bodoli yn y CDLl a fabwysiadwyd (2011-2026) ac i ystyried a oes angen dynodi Lletemau Glas yn y CDLlA.
  • Papur Materion Allweddol, Gweledigaeth ac Amcanion - Mae'r Papur hwn yn nodi'r Materion Allweddol, y Weledigaeth a'r Amcanion ar gyfer y CDLlA. Bydd y materion a'r blaenoriaethau a nodwyd yn cael eu symud ymlaen yn y CDLlA ac yn llywio'r dulliau gweithredu sydd i'w defnyddio fel rhan o'r Cynllun.
  • Asesiad Priffyrdd Strategol (Llwyfan 1) a (Llwyfan 2) - Asesiad o effaith bosibl graddfa a lleoliad datblygu a gynigir yn y Strategaeth a Ffafrir, gan ddefnyddio Model Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y De-orllewin a'r Canolbarth.
  • Papur Cefndir y Tir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas - Adroddiad i ystyried lleoliad ac ansawdd tir amaethyddol, gan nodi sut bydd y Cyngor, trwy ei asesiad o Safleoedd Ymgeisiol a Safleoedd Capasiti Trefol, yn ystyried yr angen am leiafu'r Tir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (BMV) a gollir.
  • Papur Twf ac Opsiynau Gofodol - Papur yn ystyried yr opsiynau gofodol a thwf posibl a realistig ar gyfer y CDLlA, gan roi sylw i ddeddfwriaeth, nodweddion a chyfyngiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot, materion allweddol, rhagamcanion Llywodraeth Cymru a rhagolygon economaidd.
  • Astudiaeth Capasiti Trefol - Astudiaeth yn ystyried cyfleoedd datblygu posibl i lywio nodi dyraniadau safle, fydd yn cynorthwyo i arddangos sut cyflawnir y lwfans safleoedd annisgwyl, a ffurfio cofrestr o safleoedd addas sydd o dan y trothwy ar gyfer dyrannu fel rhan o'r CDLlA.
  • Cynllun Cyflawni Seilwaith - Asesiad o'r gofynion seilwaith sy'n angenrheidiol i gynnal datblygu yn y dyfodol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer ffyrdd newydd a chyfleusterau addysg.
  • Asesiad Aneddiadau (Rhan 1, Rhan 2) - Asesiad o rôl, swyddogaeth a chynaliadwyedd aneddiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot. Nodau'r asesiad yw pennu hierarchaeth aneddiadau fydd yn nodi'r aneddiadau mwyaf cynaliadwy a'r rhai sydd â chapasiti ar gyfer twf yn y dyfodol.
  • Papur Pwnc Poblogaeth a Thai - Papur cefndir i edrych ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg a'r dull gweithredu a ddefnyddiwyd yn y Strategaeth a Ffafrir yng nghyswllt Poblogaeth a Thai, gan gynnwys Tai Fforddiadwy a Sipsiwn a Theithwyr.
  • Papur Pwnc y Gymraeg - Papur cefndir i edrych ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg a'r dull gweithredu a ddefnyddiwyd yn y Strategaeth a Ffafrir yng nghyswllt diogelu a hybu'r Gymraeg.
  • Papur Pwnc Cyflogaeth - Papur cefndir i edrych ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg a'r dull gweithredu a ddefnyddiwyd yn y Strategaeth a Ffafrir yng nghyswllt yr Economi a Chyflogaeth.
  • Papur Pwnc Addysg - Papur cefndir i edrych ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg a'r dull gweithredu a ddefnyddiwyd yn y Strategaeth a Ffafrir yng nghyswllt y ddarpariaeth addysg.
  • Papur Pwnc Trafnidiaeth - Papur cefndir i edrych ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg a'r dull gweithredu a ddefnyddiwyd yn y Strategaeth a Ffafrir yng nghyswllt y Rhwydwaith Trafnidiaeth.
  • Ardaloedd Tirlun Arbennig (ATAoedd) - Mae'n cyflwyno'r fethodoleg a ddefnyddir i asesu ansawdd tirlun ar draws y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys ailasesu dynodiadau ATA presennol yn y CDLl a fabwysiadwyd (2011-2026) ac asesiad o'r cynigion ar gyfer datblygiadau mewn ATAoedd.
  • Papur Safleoedd Allweddol - Papur cefndir sy'n rhoi rhagor o fanylion am y Safleoedd Allweddol a nodwyd ym Mhennod 9 y Strategaeth a Ffefrir.
  • Papur Profion Cadernid Hunanasesu/Cydweithio - Hunanasesiad yn erbyn y profion cadernid a throsolwg o'r cydweithio rhanbarthol a wnaed wrth baratoi'r Strategaeth a Ffafrir.

Adroddiad ar Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol

Cyhoeddi Adroddiad yr Adolygiad

Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol presennol yn Ionawr 2016. Yn unol â’r canllawiau, gan fod 4 blynedd ers mabwysiadu’r Cynllun mae’n ofynnol yn awr i’r Cyngor gychwyn ar adolygiad o’r Cynllun.

Dechreuodd adolygiad llawn o CDLl presennol Castell-nedd Port Talbot (2011-2026) ym mis Ionawr 2020 pan gyhoeddwyd yr Adroddiad Adolygu Drafft, a roddodd drosolwg o'r materion allweddol i'w hystyried wrth ystyried y CDLl presennol. Ymlaen a nodi meysydd lle gallai fod angen newidiadau.  Fodd bynnag, nid yw'n manylu ar newidiadau y dylid eu gwneud i'r cynllun, gan y bydd manylion a maint y newidiadau yn cael eu nodi trwy baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl).

Roedd yr Adroddiad Adolygu Drafft yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 6 wythnos rhwng 3 Chwefror a 16 Mawrth 2020. Cyflwynwyd yr ymatebion i'r sylwadau a dderbyniwyd i'w hystyried mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 2 Gorffennaf 2020; gydag aelodau'n cymeradwyo'r Adroddiad Adolygu terfynol (Gorffennaf 2020) i'w gyhoeddi.

Mae'r Adroddiad Adolygu (Gorffennaf 2020) ar gael i'w weld neu ei lawrlwytho isod:

Llawrlwytho

  • Adroddiad Adolygur CDLL Gorffennaf 2020 (PDF 2.99 MB)

Am fwy o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar baratoi CDLl, gallwch gysylltu â Thîm y CDLl yn uniongyrchol:

CDLI
(01639) 686821 (01639) 686821 voice +441639686821