Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Newyddion diweddaraf

Mae’r ymgynghori ar y Strategaeth a Ffafrir bellach wedi cau.

Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad 8 wythnos ar y Strategaeth a Ffafrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid, rhwng 12 Rhagfyr 2024 a 6 Chwefror 2025. Mae’r dogfennau i’w canfod ar dudalen y Strategaeth a Ffafrir ar y we, ac mae’r holl dystiolaeth ategol a fu’n sail ar gyfer y Strategaeth a Ffafrir i’w chanfod ar ein tudalen sylfaen o dystiolaeth ar y we.

Ochr yn ochr â’r Strategaeth a Ffafrir, bu’r Cyngor yn ymgynghori ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, sy’n cynnwys yr holl safleoedd posibl a gyflwynwyd i’r Cyngor i’w cynnwys yn y CDLlA. Mae’r Gofrestr a chrynodeb o’r asesu hyd yma i’w canfod ar y dudalen Safleoedd Ymgeisiol ar y we.

Cynhaliwyd ymgynghoriad hefyd ar yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ac mae i’w weld yma.

Mae’r holl sylwadau a ddaeth i law yn cael eu hystyried, a bydd gwaith yn awr yn mynd rhagddo ar y Cynllun Adnau