Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiadau Pontio Tata Steel

  • Golau gwyrdd i brosiect £1.25bn Ffwrnais Arc Drydan Tata Steel UK Port Talbot
    18 Chwefror 2025

    MAE CYNIGION TATA STEEL UK ar gyfer creu cyfleuster creu dur drwy gyfrwng Ffwrnais Arc Drydan (EAF) gwerth £1.25bn yn ei safle ym Mhort Talbot wedi cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

  • Arweinydd yn croesawu Strategaeth Ddur y Llywodraeth ond yn dweud ‘rhaid iddi fod yn bosib ei chyflawni’
    17 Chwefror 2025

    MAE ARWEINYDD Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, wedi croesawu’r strategaeth newydd sy’n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth y DU i chwistrellu £2.5bn i ddiwydiant dur Prydain.

  • Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 6 Chwefror 2025
    06 Chwefror 2025

    Cafwyd chweched cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 6 Chwefror 2025. Gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chadeirydd y Bwrdd Pontio, sef y Gwir Anrhydeddus yr Aelod Seneddol Jo Stevens, am gymeradwyaeth gan y Bwrdd i gyhoeddi £8.2 miliwn ar gyfer SWITCH (South Wales Industrial Transition from Carbon Hub).

  • Cronfa Cyflogaeth a Sgiliau newydd i gefnogi gweithwyr Tata Steel a'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru
    23 Hydref 2024

    Mae gweithwyr yng Nghymru sydd wedi colli eu swyddi yn Tata Steel UK neu mewn busnes yng nghadwyn gyflenwi'r cwmni a chontractwyr cysylltiedig eraill bellach yn gallu cael gafael ar gyllid sydd wedi cael ei neilltuo i'w helpu i ailsgilio a dychwelyd i fyd gwaith.

  • Datganiad Arweinydd y Cyngor adeg cau’r pen trwm yng Ngwaith Dur Port Talbot
    30 Medi 2024

    “Mae cau’r ffwrnais chwyth olaf ym Mhort Talbot yn ddiwrnod ingol iawn i’r ardal hon, a bydd yn cael ei deimlo’n arbennig o lym ar draws y dref ei hunan. Ers dros ganrif, mae’r gwaith dur wedi darparu cyflogaeth, naill a’i uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i filoedd – gan fy nghynnwys i fy hunan."

  • Lansio pecyn i helpu Cadwyn Gyflenwi Tata
    30 Medi 2024

    Bydd busnesau sy’n perthyn i gadwyn gyflenwi Tata Steel UK ac y bydd y newid i ddefnyddio trydan i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn effeithio arnyn nhw yn cael ceisio am arian o heddiw ymlaen i’w helpu â heriau tymor byr y cyfnod pontio, yn ogystal ag am help i baratoi ar gyfer cyfleoedd newydd i dyfu.

  • Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 27 Mawrth 2024
    27 Mawrth 2024

    Cafwyd pedwerydd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 27 Mawrth 2024. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Tata Steel UK am eu prosiect datgarboneiddio, gan gynnwys cau’r poptai golosg ym Mhort Talbot a'u cynnig diswyddo gwirfoddol. Mae'r Bwrdd yn cydnabod y brys y mae angen i ni weithio arno.

  • Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 1 Chwefror 2024
    01 Chwefror 2024

    Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am y trydydd tro ddydd Iau 1 Chwefror 2024 ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot.

  • Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 30 Tachwedd 2023
    30 Tachwedd 2023

    Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am yr ail dro dydd Iau 30 Tachwedd ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot, lle y cytunwyd y cylch gorchwyl ac aelodaeth y ddau is-grŵp ar gyfer Pobl, Sgiliau a Busnes; ac ar gyfer Lle ac Adfywio.

  • Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot
    19 Hydref 2023

    Cyhoeddwyd Tata Steel gynigion ym mis Medi i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU gwerth hyd at £500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur mwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Mae Bwrdd Pontio bellach wedi’i sefydlu i gefnogi’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y newid arfaethedig i symud tuag at wneud dur CO₂ isel.