Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Archwiliadau hylendid bwyd

Rydym yn archwilio busnesau bwyd i sicrhau eich bod yn dilyn cyfraith bwyd ac yn cynhyrchu bwyd diogel.

Yn ystod archwiliad, byddwn yn edrych ar:

Gallwn ymweld â’ch safle am wahanol resymau, gan gynnwys:

  • archwiliadau hylendid a safonau bwyd
  • samplu
  • ymchwilio i gwynion
  • ymweliadau cynghori
Mae gennym yr hawl i fynd i mewn ac archwilio eich busnes ar unrhyw adegau rhesymol. Nid ydym fel arfer yn gwneud apwyntiadau a gallwn ymweld heb rybudd.

Pa mor aml rydym yn ymweld

Mae rhai busnesau bwyd yn peri mwy o risg i’r cyhoedd nag eraill.

Rydym yn defnyddio dull seiliedig ar risg i benderfynu pa mor aml i archwilio eich safle.

Mae hyn yn cynnwys:

  • y math o fwyd rydych yn ei drin
  • sut mae’r bwyd yn cael ei baratoi a’i drin
  • maint eich busnes
  • eich lefel o gydymffurfiaeth yn y gorffennol

Caiff busnesau risg uwch eu harchwilio’n amlach.

Ar ôl yr archwiliad

Ar ôl i ni archwilio eich busnes, byddwn yn:

  • egluro ein canfyddiadau  
  • rhoi cyngor ar sut i wella  
  • gadael adroddiad ysgrifenedig i chi
  • rhoi sgôr hylendid bwyd i chi

Camau gorfodi

Gallwn gymryd camau gorfodi i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Gall hyn gynnwys:

  • rhoi hysbysiad cyfreithiol  
  • argymell erlyniad  
  • cau eich busnes

Byddwn yn rhoi amser i chi wneud gwelliannau oni bai bod risg uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.

Rhannu eich Adborth