Safleoedd bwyd cymeradwy
Rhaid i’ch busnes gael cymeradwyaeth cyn y gall weithredu os ydych yn bwriadu defnyddio cynhyrchion heb eu prosesu o darddiad anifeiliaid.
Mae hyn yn cynnwys trin eitemau fel:
- cig ffres
- cig briwgig amrwd
- llaeth amrwd
- wyau
Safleoedd rydym yn eu cymeradwyo
Safleoedd yr ydym yn eu cymeradwyo:
- Gweithfeydd prosesu cig
- Gweithfeydd paratoi cig
- Gweithrediadau prosesu briwgig
- Gweithfeydd prosesu cig wedi’i gwahanu’n fecanyddol
- Storfeydd oer
Safleoedd nad ydym yn eu cymeradwyo
Safleoedd nad ydym yn eu cymeradwyo:
- Lladd-dai
- Gweithfeydd torri
- Safleoedd trin hela
- Marchnadoedd cig cyfanwerthu
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Eithriadau
Nid oes angen cymeradwyaeth arnoch os ydych yn gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd neu i fanwerthwyr, er enghraifft:
- arlwywyr
- tafarndai
- bwytai
Ar yr amod:
- bod bwyd yn llai na 25 y cant o’ch masnach
- nad ydych yn trin unrhyw gynhyrchion cig hela gwyllt
- nad ydych yn gwerthu bwyd y tu allan i’r sir y mae’ch busnes wedi’i gofrestru ynddi
Gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer safleoedd bwyd
Gallwch wneud cais ar-lein am ddim.
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen gyflawn, byddwn yn trefnu ymweliad â’ch busnes.
Ni allwch weithredu nes eich bod wedi cael cymeradwyaeth.
Cysylltwch â ni
I gael cyngor neu i roi gwybod i ni am newid i’ch cymeradwyaeth safle bwyd presennol, cysylltwch â:
Tîm Diogelwch a Hylendid Bwyd