Yn dilyn cyfnod datblygu o ddwy flynedd a ddechreuodd yn 2019, dyfarnodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol £1.56m pellach i brosiect Mawndiroedd Coll De Cymru er mwyn cyflawni ein nodau a’n hamcanion.
Gydag arian cyfatebol ychwanegol gan ein partneriaid, sef Cronfa Rheoli Cynefinoedd Fferm Wynt Pen y Cymoedd Vattenfall yn bennaf, mae gwerth y prosiect cyfan bellach yn fwy na £2.8m.
Bydd Partneriaeth y Mawndiroedd Coll yn cyflawni amcanion a chanlyniadau’r prosiect, gan ddefnyddio’r arbenigedd cyflawni mwyaf perthnasol yn y bartneriaeth.
Mae ein cytundeb partneriaeth yn pennu’r manylion cyfreithiol o ran sut bydd y bartneriaeth yn gweithio i gyflwyno’r prosiect yn y dyfodol. Bwrdd llywio’r bartneriaeth fydd yn gyfrifol am y prosiect, am bennu cyfeiriad y prosiect a gwneud y penderfyniadau.
Byddwn yn ymgysylltu â grŵp ehangach o randdeiliaid er mwyn llywio’r prosiect, helpu i’w gyflawni a chyfranogi ynddo. Bydd y rhanddeiliaid a nodir yn cael gwahoddiad i ymuno â’r grŵp a bydd cylch gorchwyl y grŵp yn rhestru cyfrifoldebau’r grŵp a sut bydd yn gweithio.
Bydd gan y grŵp rhanddeiliaid ehangach is-grwpiau, sef Addysg, Cymuned a Chyfathrebu, a fydd hefyd yn rhoi cyfle i gyfrannu at ddull cyflwyno’r prosiect. Bydd y grwpiau hyn yn croesawu pawb sydd am ymwneud â gweithgareddau’r prosiect a dylanwadu arnynt. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y grwpiau a restrir uchod, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Cyflwynir y prosiect gan Bartneriaeth y Mawndiroedd Coll, sy’n cynnwys:
Cyngor Castell-nedd Port Talbot (Arweinydd)
Ewch i http://www.visitnpt.co.uk/
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Ewch i https://www.visitrct.wales/cy
Cronfa Dreftadaeth
Ewch i https://www.heritagefund.org.uk/
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ewch i https://naturalresources.wales/?lang=cy
Prifysgol Abertawe
Ewch i https://www.swansea.ac.uk/
Coed Lleol
Ewch i https://www.coedlleol.org.uk/