Cyflwynwyd prosiect Mawndiroedd Coll De Cymru (LPSW) trwy bartneriaeth benodol oedd yn gyfuniad o sefydliadau oedd â’r arbenigedd penodol angenrheidiol i gyflawni amcanion a deilliannau’r prosiect. Yn dilyn cyfnod datblygu o ddwy flynedd a gychwynnodd yn 2019, derbyniodd y prosiect £1.56 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF) er mwyn ei gyflwyno’n llawn, gyda chefnogaeth arian cyfatebol sylweddol – yn bennaf o Gronfa Rheoli Cynefin Fferm Wynt Pen y Cymoedd Vattenfall – fel bod cyfanswm gwerth y prosiect yn fwy na £2.8 miliwn.
Roedd Cytundeb Partneriaeth ffurfiol yn rheoli sut roedd y partneriaid yn cydweithio, yn diffinio’u rolau a’u cyfrifoldebau, ac yn sicrhau cyflawni effeithiol, cydlynus. Darparodd Bwrdd Llywio Partneriaeth drosolwg strategol, gan lywio’r penderfyniadau, a sicrhau bod y prosiect yn parhau i gadw at ei nodau hirdymor.
Er bod y cyfnod cyflwyno a ariannwyd bellach wedi dod i ben, mae’r bartneriaeth yn parhau i weithio ar y cyd trwy fonitro hirdymor, rhannu ymchwil, ymrwymiadau rheoli tir ac ymgysylltu parhaus â’r gymuned, sy’n creu etifeddiaeth bwysig i’r prosiect.
Cyflwynwyd prosiect Adfer Mawndiroedd Coll De Cymru gan y sefydliadau canlynol:
- Cyngor Castell-nedd Port Talbot
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF)
- Coed Lleol (Small Woods Wales)
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Prifysgol Abertawe
Cysylltiadau’r Mawndiroedd Coll: Datblygu ac Uchelgais i’r Dyfodol
Gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect gwreiddiol, mae partneriaeth newydd wedi cwblhau ail gyfnod datblygu, o fis Ebrill 2025 tan fis Ebrill 2026. Cefnogwyd y cyfnod hwn gan £263,309 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n cynrychioli 79% o’r gyllideb ddatblygu o £334,432 a gymeradwywyd (yn cynnwys ariannu cyfatebol).
Mae cais llawn bellach wedi cael ei gyflwyno i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer ail gyfnod cyflwyno sylweddol a fyddai – o’i gymeradwyo – yn parhau tan ddiwedd 2029 ac yn estyn yn sylweddol raddfa’r gwaith adfer, ymgysylltu a threftadaeth ar draws yr ucheldir. Ar hyn o bryd mae’r partneriaeth yn disgwyl y penderfyniad ariannu.
