Ap Archwilio’r Mawndiroedd Coll
Gallwch ddarganfod tirlun y Mawndiroedd Coll trwy ddefnyddio’r Ap ‘Lost Peatlands Explorer’, a luniwyd i’ch helpu i gael hyd i lwybrau cerdded, dysgu am fywyd gwyllt lleol, archwilio nodweddion treftadaeth, a chyrchu mapiau rhyngweithiol ar draws yr ucheldir.
Mae’r ap yn darparu:
- Llwybrau cerdded i bob gallu
- Dehongli a storïau penodol i’r safle
- Mapio wedi’i alluogi gan GPS
- Gwybodaeth am fywyd gwyllt a chynefinoedd
- Pwyntiau o ddiddordeb ar draws yr holl safleoedd, gan gynnwys Realiti Estynedig a Chynnwys Sain
Gallwch lawrlwytho’r Ap am ddim o holl Siopau Ap Android ac IOS.
Canllawiau Llwybrau Cerdded
*Disgwylir hyrwyddo Teithiau Cerdded Swyddogol y Mawndiroedd Coll yng Ngwanwyn 2022*
- Llwybrau Cerdded Parc Coedwig Afan
- Llwybrau Parc Gwledig Cwm Dâr
- Llwybrau Rhyslyn (Cyfoeth Naturiol Cymru)
