Mae mawndiroedd yn gynefinoedd amrywiol, a ffurfiwyd dros filoedd o flynyddoedd. Maent yn cynnwys cyfoeth o garbon ac yn cynnal rhywogaethau unigryw o blanhigion ac anifeiliaid.
Fwy na thebyg, rydych chi’n eu galw’n syml yn ‘gorsydd’, ond mae mawndiroedd yn gynefinoedd amrywiol, a ffurfiwyd dros filoedd o flynyddoedd. Maent yn cynnwys cyfoeth eithriadol o garbon, ac yn cynnal rhywogaethau unigryw o blanhigion ac anifeiliaid.
Ardaloedd dirlawn yw mawndiroedd, ac fe’u ceir yn aml ar yr ucheldir. Maent yn cynnwys haen drwchus o fawn yn y pridd sy’n cael ei ffurfio o ddeunydd planhigion sydd wedi pydru’n rhannol, sy’n crynhoi’n araf iawn dros amser. Mae’r rhan fwyaf o fawndiroedd yn tyfu 0.5 – 1mm yn unig y flwyddyn, ac mae hynny’n golygu y gall gymryd dros 1,000 o flynyddoedd i greu 1 metr o fawn!
Migwyn – a adwaenir hefyd fel ‘adeiladydd hollbwerus y gors’ neu’n fwy cynnil fel ‘mwsogl cors’ – yw’r allwedd nid yn unig i drosi symiau mawr o garbon yn bridd mawn wrth iddo ymddatod, ond hefyd i amsugno a storio dŵr mewn symiau sy’n llawer iawn mwy na’u pwysau eu hunain. Cyfeiriwyd at y cynefin unigryw hwn fel ‘coedwigoedd glaw’ y Deyrnas Unedig, oherwydd bod y fath brinder ohonynt ar draws y byd a’r fflora a ffawna unigryw maen nhw’n eu cynnal.
Amcangyfrifir bod rhyw 12% o ardal tir y Deyrnas Unedig wedi’i orchuddio gan fawndiroedd, ac ar lefel Cymru gyfan mae hynny’n 4.3% - neu 90,000ha. Gorgorsydd yw’r ffurf fwyaf prin ar fawndir ar draws y byd, ond mewn gwirionedd nhw yw’r mwyaf lluosog yn y Deyrnas Unedig. Ffurfiau eraill yw corsydd a ffeniau lefel uwch ar iseldir.
Ardal prosiect y Mawndiroedd Coll yw’r adnodd mawn dwfn ucheldir rhyng-gysylltiedig pellaf i’r de o faint sylweddol yng Nghymru – ac un o’r ardaloedd mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig – gan ddarparu carreg camu bioddaearyddol unigryw yn nosbarthiad cyffredinol gorgorsydd yn ne Prydain.
Mae mawndiroedd ymhlith yr ecosystemau mwyaf cyfoethog o ran carbon ar y Ddaear, gan storio tua 30% o gyfanswm carbon y pridd, er nad ydynt ond yn llenwi 3% o arwynebedd tir y ddaear, ac maent wedi cael cydnabyddiaeth haeddiannol am gefnogi mesurau lliniaru’r newid yn yr hinsawdd. Amcangyfrifir bod ardal y Mawndiroedd Coll ei hun yn storio hyd at 350,000 tunnell o garbon, sy’n cyfateb i’r carbon fyddai’n cael ei storio gan 5,291,268 o egin goed gafodd eu plannu a’u tyfu am 10 mlynedd, neu allyriadau 794,044,665 o filltiroedd a yrrwyd gan gerbyd teithwyr nodweddiadol.
Gwaetha’r modd, mae mawndiroedd ar draws y Deyrnas Unedig wedi goddef degawdau o ddirywiad hirdymor, i raddau helaeth yn sgil ystod o ffactorau a achoswyd gan bobl. Effeithiwyd ar ryw 80% o’r mawndiroedd yn y Deyrnas Unedig, gan leihau gallu’r ecosystem i ddarparu manteision i bobl ac i’r blaned.
Yn syml iawn: mae mawndiroedd sydd wedi diraddio yn dechrau allyrru carbon – yn hytrach na’i storio – ac maent hefyd yn colli eu gallu i gynnal bywyd gwyllt; cynorthwyo i reoli llifogydd mewn modd naturiol; gwella ansawdd dŵr, a lleihau perygl tanau gwyllt. Mae ecosystemau mawndir iach, gweithredol yn gwneud hyn i gyd, a byddant fwy neu lai yn parhau i wneud hynny’n ddi-baid, os cânt eu gadael yn eu cyflwr naturiol.
Y newyddion da yw bod modd adfer mawndir yn bendant, ac mae’r prif gymhlethdodau yn ymwneud â her cludo peiriannau i safleoedd pellennig. Y dull nodweddiadol o sicrhau bod corsydd yn dychwelyd i gyflwr gweithredol yw ‘ailwlychu’ mawndiroedd trwy ddefnyddio amrywiol ddulliau i godi lefel y dŵr yn y mawn.
Mae ymdrechion ar waith i adfer a diogelu’r adnoddau hollbwysig hyn, a hynny yng Nghymru ac yn rhyngwladol, a chan fod cymuned gynyddol o wyddonwyr mawndir, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau yn archwilio’r ffordd orau o wneud y gwaith hwn, mae’n hen bryd i’r nodweddion naturiol hynafol hyn gael eu hadfer yn llawn i’w gogoniant gwlyb corsiog gynt.
