Hepgor gwe-lywio

Safleoedd mawndiroedd coll

Archwilio ein Ardaloedd Adfer Tirglodd a Mannau Gwyllt Cymunedol

Ardal Adfer Cynefin (AAC) Cregan

Mae Ardal Adfer Cynefin Cregan yn rhan o floc coedwig Afan ar ymyl dwyreiniol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, yn edrych allan dros Lyncorrwg. Cyn i’r gwaith adfer gychwyn, roedd y tirlun yn glytwaith o gonifferau tal, coed oedd newydd eu cwympo, mawn moel a darnau gwasgaredig o wern ucheldir – etifeddiaeth degawdau o newid defnydd tir a oedd wedi effeithio ar yr hydroleg naturiol a diraddio’r cynefin cors a fu yma ar un adeg.  

Cofnododd arolygon gan ein hecolegwyr 124 o fesuriadau dyfnder mawn, a gadarnhaodd fod dros hanner y safle yn cynnal mawn dyfnach na 0.5m, gyda’r ardaloedd dyfnaf yn cyrraedd rhyw 2 fetr. Nododd y monitro ar lystyfiant hefyd sawl cilfach o gors safon uchel gyda mwsoglau Migwyn niferus a Drosera rotundifolia (gwlithlys crwn), dau blanhigyn arbenigol allweddol ar fawndir, ochr yn ochr â rhywogaethau ucheldir pwysig megis y Troellwr, a gofnodwyd yn ystod tymor magu 2021.

Gwaith Adfer yng Nghregan

Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2023, aeth Cregan trwy raglen lawn o adfer mawndir oedd yn cwmpasu 48 hectar. Roedd hyn yn cynnwys troi bonion, creu argaeau yn y mawn a chroes-dracio i ddileu llinellau aredig coedwigaeth, blocio draeniau a chodi lefelau dŵr ar draws y corff o fawn.

Mae monitro hydrolegol yn parhau trwy byllau profi, ac mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu bod effaith gadarnhaol ar lefelau’r dŵr, er y bydd setiau data hirdymor yn dangos tueddiadau cliriach mewn blynyddoedd i ddod.

Ar hyn o bryd mae Cregan mewn cyfnod o bontio ecolegol: mae tir moel a gweddillion pren o’r goedwigaeth a fu yno yn dal i’w gweld, ond mae arbenigwyr gwern – gan gynnwys Sphagnum a Drosera — eisoes yn ymsefydlu o’r newydd yn yr ardaloedd a adferwyd. Mae’r ymateb cynnar hwn yn dangos bod y cynefin yn ymadfer, ac fe ddylai barhau i ddatblygu wrth i’r amodau hydrolegol sefydlogi.

Pam mae Cregan yn Bwysig

Mae adfer Cregan yn cryfhau cysylltedd ecolegol ar draws Cwm Afan ac yn cynnal bywyd gwyllt ucheldir sy’n dibynnu ar gynefinoedd agored, cors wlyb. Dros amser, bydd y safle’n darparu amodau gwell ar gyfer rhywogaethau sy’n creu mawn, yn helpu i storio carbon ac yn cyfrannu at arafu llif dŵr trwy’r ardal.

Ymweld a Chwarae Rhan

Mae’r bartneriaeth yn parhau i gefnogi Cregan trwy reolaeth hirdymor ar dir a monitro.

Gallwch archwilio Cregan a’r tirweddau gerllaw trwy ddefnyddio’r llwybrau cerdded sydd ar Ap Archwilio’r Mawndiroedd Coll.

Cregan HRA Post Restoration (May 25) (6) Cregan HRA Post Restoration (May 25) (6)

Ardal Adfer Cynefin (AAC) Castell Nos

Mae Ardal Adfer Cynefin Castell Nos ar lwyfandir uchel uwchben Maerdy, RhCT, a chafodd ei henwi ar ôl yr heneb gerllaw sy’n edrych allan dros ochr orllewinol y cwm. O’n holl safleoedd adfer, Castell Nos sydd â’r mawn dyfnaf, ac yn ystod yr arolygon gwaelodlin, yma y gwelwyd y crynodiad mwyaf o rywogaethau cors arbenigol yn cael eu cynnal ar draws y prosiect. Mae’r safle hefyd yn gartref i boblogaeth fridio o lygod pengron y dŵr, sydd wedi ehangu eu dosbarthiad ers i’r gwaith adfer gychwyn.

Fel yn achos llawer o fawndiroedd ucheldir yn Ne Cymru, mae gan Gastell Nos hanes hir o ddefnydd tir sydd wedi dylanwadu ar gyflwr y safle. Cyn y gwaith adfer, nodwedd amlycaf y safle oedd llawer iawn o Molinia caerulea (glaswellt y bwla), ac roedd gwir rywogaethau’r gors wedi’u cyfyngu’n bennaf i’r mannau gwlypaf a mwyaf gwastad. Roedd tanau gwyllt yn y gorffennol hefyd wedi effeithio ar strwythur y llystyfiant, gan adael wyneb y mawn yn agored i sychu ac erydu.

Tirlun lle gadawodd Erydiad ei ôl

Un o nodweddion trawiadol Castell Nos yw ei rwydwaith o sianeli erydiad mawr, sydd i’w gweld yn glir mewn delweddau o’r awyr. Roedd angen gwaith peirianneg mwy sylweddol ar y nodweddion hyn nag ar ein safleoedd eraill, gan gynnwys gosod argaeau pren, argaeau mawn ac argaeau cyfansawdd i arafu’r dŵr, sefydlogi’r mawn ac ailadeiladu swyddogaeth hydrolegol. Gosodwyd mwy na 70 o argaeau pren neu fawn/gyfansawdd yn ystod gaeaf 2023/24, ochr yn ochr ag argaeau mawn helaeth yn achos llinellau aredig a sianeli draenio.

Roedd y tasgau adfer hyn hefyd yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i wirfoddolwyr fod yn rhan o gadwraeth ymarferol, gan ddysgu am dechnegau adfer mawndir ar yr un pryd â helpu i gyflawni gwelliannau o ran monitro a llystyfiant.

Gwaith adfer yng Nghastell Nos

Gwnaed y gwaith adfer fesul dau gyfnod allweddol (2021/22 a 2023/24), oedd yn cwmpasu mwy na 35 hectar o fawndir wedi’i ailwlychu. Dyma rai o’r technegau:

  • Croes‑dracio i ddileu llinellau aredig coedwigaeth
  • Argaeau mawr i rwystro draeniau
  • Argaeau pren a chyfansawdd mewn nodweddion erydu mawr
  • Plannu plygiau migwyn ar draws ardaloedd addas

Mae monitro hydrolegol yn dangos cynnydd ystadegol arwyddocaol yn lefelau’r dŵr wedi’r gwaith adfer, gyda lefel y dŵr bellach yn llawer nes at yr hyn a welir mewn gorgors o safon uchel. 1

Mae monitro llystyfiant wedi cofnodi newid ecolegol cyflym a chadarnhaol, gan gynnwys:

  • Cynnydd yn y rhywogaethau Migwyn
  • Cynnydd yn Drosera rotundifolia
  • Narthecium ossifragum yn ymledu i ardaloedd newydd
  • Darganfod ac ehangu cytrefi canolig o Figwyn – sy’n golygu bod Castell Nos bellach yn gadarnle i’r rhywogaeth hon ym Morgannwg 1

Mae’r safle hefyd yn darparu ardal gymharu amhrisiadwy heb ei hadfer ar gyfer monitro hirdymor.

Pam mae Castell Nos yn Bwysig

Mae adfer Castell Nos yn creu un o’r cynefinoedd mawndir pwysicaf sy’n dod i’r amlwg ar ucheldir y Rhondda. Mae’r safle bellach yn cefnogi’r canlynol:

  • Gwella llystyfiant corsydd a rhywogaethau sy’n creu mawn
  • Ehangu poblogaethau llygoden bengron y dŵr, gyda chymorth nodweddion dŵr agored newydd a greir fel rhan o’r gwaith adfer
  • Cynefin ucheldir gwerthfawr ar gyfer y Troellwr, adar ucheldir ac infertebratau arbenigol

Mae’r cynnydd o ran hydroleg, bioamrywiaeth a chyflwr y mawn yn golygu bod Castell Nos yn un o gonglfeini adferiad y mawndir yn y rhanbarth.

Archwilio Castell Nos

Mae’r safle’n parhau i gael ei gefnogi trwy reolaeth hirdymor ar y tir a monitro gwyddonol. Gallwch archwilio Castell Nos a’r tirlun o amgylch, gan ddefnyddio’r llwybr cerdded sydd ar gael ar Ap Archwilio’r Mawndiroedd Coll.

LPPCN.001 View South Edit LPPCN.001 View South Edit

Ardal Adfer Cynefin (AAC) Cwm Saerbren

Mae AAC Cwm Saerbren ar lwyfandir y gorllewin uwchben y Rhondda Fawr, yn edrych allan dros y cwm sy’n dwyn yr un enw. Mae’r safle’n cynnwys ardaloedd sylweddol o fawndir a fu gynt o dan goedwig, yn ogystal â pharth trawiadol o domenni glo yn y pen gogledd-ddwyreiniol pellaf – adnodd annisgwyl o gyfoethog o ran bioamrywiaeth, yn enwedig ffyngau ac infertebratau.

Ar draws y tirlun ehangach, mae Cwm Saerbren hefyd yn cefnogi llecynnau o rostir gwlyb a sych, gan ddarparu cynefin ar gyfer nifer o rywogaethau sy’n flaenoriaeth i’r prosiect, gan gynnwys y chwilen deigr werdd. I’r dwyrain, mae’r safle yn ymyl SoDdGA Mynydd Ty-Isaf, ac mae adar ysglyfaethus yn aml i’w gweld yn hedfan neu’n nythu ar greigiau rhannau uchaf ochrau’r cwm.

Gwaith Adfer yng Nghwm Saerbren

O gymharu â’n Hardaloedd Adfer Cynefin eraill, bu Cwm Saerbren yn destun rhaglen fwy targedig o waith adfer, gan ganolbwyntio ar nodwedd gorsiog fechan yn y cwm, sy’n rhan o’r safle ehangach, ond sydd â phwysigrwydd ecolegol. Yn gynnar yn 2023, cafodd rhyw 2.55 hectar eu hadfer trwy groesdracio a throi bonion yn lleol er mwyn llyfnhau’r microdopograffi, blocio nodweddion draenio, a chodi lefelau dŵr.

Mae monitro hydrolegol yn arwydd o gynnydd sylweddol yn lefelau’r dŵr yn y pwll trochi a adferwyd, lle mae gwelliant clir i’w weld o gymharu â’r ardaloedd rheoli heb eu hadfer ar y safle. Mae ymatebion y llystyfiant yn dal yn y cyfnod cynnar, ond cofnododd y monitro gynnydd yn y dangosyddion cadarnhaol (megis Migwyn) a’r dangosyddion negyddol yn 2023–24 — sy’n nodweddiadol o safle ar ddechrau cyfnod o bontio ecolegol.

Er bod yr ardal a adferwyd yn fach o gymharu â’r llwyfandir cyfan, mae’r rhannau o Gwm Saerbren sydd heb eu hadfer bellach yn safle rheoli hirdymor amhrisiadwy, fel bod modd i bartneriaeth y prosiect gymharu mawndir a adferwyd ac sydd wedi diraddio yn ystod y degawd nesaf.

Pam mae Cwm Saerbren yn Bwysig

Mae adfer hyd yn oed rhan fechan o Gwm Saerbren yn helpu i warchod adnodd sylweddol o fawn ucheldir, ac yn annog adferiad llystyfiant cors yn nhirlun y Rhondda Fawr. Dros amser, bydd amodau gwlypach yn gwneud y canlynol:

  • Gwella cynefin ar gyfer rhywogaethau sy’n creu mawn
  • Cefnogi infertebratau, adar ucheldir a rhywogaethau sy’n gysylltiedig â mosaig rhos a chors
  • Cyfrannu at ddal dŵr yn well a gwydnwch i lawr yr afon

Mae cyfuniad y safle o fawndir, rhos a thomenni glo hefyd yn golygu mai dyma un o’r tirluniau mwyaf amrywiol o ran ecoleg yn ardal y prosiect.

Archwilio Cwm Saerbren

Mae Cwm Saerbren yn parhau i elwa o reolaeth ar y cyd ar dir, monitro gwyddonol a chynnwys y gymuned trwy bartneriaeth y prosiect.

Gallwch chi archwilio’r llwybrau a’r golygfannau o amgylch trwy ddefnyddio Ap Archwilio’r Mawndiroedd Coll, sy’n amlygu llwybrau hygyrch ar draws ucheldir y Rhondda.  

Cwm Saerbren HRA Peat Dams And Pools Cwm Saerbren HRA Peat Dams And Pools

Ardal Rheoli Cynefin Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Mae Ardal Rheoli Cynefin (ARhC) Pen y Cymoedd yn cwmpasu rhyw 1,500 hectar o lwyfandir uchel sy’n ymestyn o Aberdâr i Gastell-nedd, ar draws Rhondda Cynon Taf (RhCT) a Chastell-nedd Port Talbot (CNPT). Mae’r tirlun helaeth hwn yn cynnal mosaig o blanigfeydd conifferau masnachol, coetir mewn cyfnodau tyfiant amrywiol, ac ardaloedd mawr lle cwympwyd coedwigaeth yn ddiweddar.

Rhan ganol yr ARhC oedd y prif ffocws yn ystod prosiect Adfer y Mawndiroedd Coll, lle bu gwaith a dargedwyd o gymorth i asesu a gwella cyflwr cynefinoedd ar draws ardaloedd ucheldir allweddol yn y tirlun mawndir ehangach.  

Cymeriad y Tirlun

Mae’r ARhC yn cynrychioli un o’r mosaigau coedwigaeth-mawndir ehangaf ar ucheldir De Cymru, lle gwelir dylanwad degawdau o blannu masnachol. Ar draws yr ardal, mae’r hyn sydd ar y tir yn cynnwys:                          

  • Planigfeydd conifferau ifanc, canol cylchdro ac aeddfed
  • Ardaloedd agored eang a grewyd trwy gwympo coed yn ddiweddar
  • Cilfachau o gynefin mawndir sy’n weddill oddi mewn i ffiniau’r goedwig

Mae’r strwythur amrywiol hwn yn creu heriau a chyfleoedd ar gyfer adfer mawndir, cysylltedd ecolegol, a rheoli’r tirlun yn y tymor hir.

Yr ARhC yn ystod Prosiect Adfer y Mawndiroedd Coll

Roedd y gwaith yn rhan ganolog yr ARhC yn canolbwyntio ar ddeall:

  • Strwythur a chyflwr y cynefin
  • Dylanwadau hydrolegol gweithrediadau coedwigaeth
  • Cyfleoedd i adfer mawndir yn y dyfodol
  • Gwerth ecolegol mewn ardaloedd lled-agored a rhai lle cwympwyd coed
  • Cysylltedd â safleoedd adfer cyfagos megis Castell Nos a Chwm Saerbren

Mae’r gwaith ymchwil ac arolwg a gwblhawyd yma yn cyfrannu at ddatblygu arfer gorau ar gyfer adfer cors o goedwig ar draws tirweddau planigfeydd ucheldir mawr.

Dysgu Mwy

I gael rhagor o wybodaeth am Ardal Rheoli Cynefin Pen y Cymoedd ewch yma, neu archwiliwch yr ardal gan ddefnyddio Ap Archwilio’r Mawndiroedd Coll.

PYC Bog (8) PYC Bog (8)

Man Gwyllt Cymunedol (CWS) Tomen y Cymer

Mae CWS Tomen y Cymer yn ymyl Afon Corrwg, fymryn i’r gogledd o’r Cymer, ac mae’n fosaig o gynefinoedd llawn rhywogaethau sydd wedi datblygu’n naturiol ar hen domenni glo. Mae’r safle’n cynnal rhostir gwlyb a glaswelltir asid gwlyb, gan ddefnyddio amrywiaeth o infertebratau, ac mae’n dilyn coridor yr afon am ryw 1.2km ar lethr graddol, sy’n wynebu’r de. Fel Safle dynodedig sy’n Bwysig ar gyfer Cadwraeth Natur (SINC), cafodd waith wedi’i dargedu i reoli rhywogaethau ymledol a chynnal cynefin er mwyn helpu i ddiogelu a gwella’r bioamrywiaeth gwerthfawr sydd yno.

Cymmer Tip Community Wild Space (CWS) Cymmer Tip Community Wild Space (CWS)

Man Gwyllt Cymunedol Glyncorrwg

Mae Man Gwyllt Cymunedol Glyncorrwg ar gyrion y pentref ac mae’n llanw ardal fechan a fu gynt yn ucheldir coedwigaeth, ond sydd bellach yn llawn glaswellt y bwla. Ar gyrion llethr gogledd-ddwyreiniol y safle mae traciau, ffyrdd, a phlanhigfa gonifferau gymdogol, gyda ffens yn ei gwahanu oddi wrth dir preifat. Dynodwyd yr ardal yn Safle Pwysig ar gyfer Cadwraeth Natur (SINC), ac yn ddiweddar mae wedi cael seilwaith pori newydd, gan gynnwys ffensys a lloc didoli, a’r bwriad yw ei rheoli trwy drefniadau pori cadwraeth yn y dyfodol.

Glyncorrwg Community Wild Space Glyncorrwg Community Wild Space

Man Gwyllt Cymunedol Gwynfi

Mae Man Gwyllt Cymunedol Gwynfi yn ymyl Stryd Gwynfi ym Mlaengwynfi, ar lethr sy’n wynebu i’r de, lle ceir glaswelltir niwtral ac asid sych. Ar y ffin ogleddol mae ardaloedd planigfeydd coedwigaeth conifferaidd, ac mae’r safle’n rhan o gynefin ymylol ucheldir sydd wedi’i ddynodi’n Safle Pwysig ar gyfer Cadwraeth Natur (SINC). Yn ystod y prosiect, rheolwyd y glaswelltir trwy waith torri a chasglu, oedd yn helpu i ostwng lefelau maetholion, cynnal amrywiaeth blodau gwyllt, a gwella cyflwr y cynefin yn gyffredinol.

Torri a chasglu Gwynfi 1 Torri a chasglu Gwynfi 1

Man Gwyllt Cymunedol Blaenrhondda

Mae Man Gwyllt Cymunedol Blaenrhondda yn amgylchynu copa Pen Pych, gan ddilyn y daith gerdded gylchol o’r maes parcio i’r copa ac yn ôl. Mae’r safle’n cynnwys cyfuniad o goedwig llydanddail, planhigfa gonifferau ar y copa, rhostir, glaswelltir ucheldir ac ardaloedd creigiog, gyda dwy raeadr ar hyd Nant Berw Wion yn ychwanegu at y tirlun dramatig. Dynodwyd yr ardal yn Safle Pwysig ar gyfer Cadwraeth Natur (SINC), a bu’n elwa o reolaeth ar rywogaethau ymledol anfrodorol (INNS) yn ystod y prosiect, ochr yn ochr â digwyddiadau cyhoeddus oedd yn helpu pobl i archwilio a mwynhau’r lleoliad unigryw hwn.

Blaenrhondda Community Wild Space Blaenrhondda Community Wild Space

Man Gwyllt Cymunedol Cwmparc

Mae Man Gwyllt Cymunedol Cwmparc ar ymyl gogleddol Cwmparc a ffin orllewinol Treorci, ac mae’n cynnwys mosaig o gynefinoedd ucheldir sy’n cynnwys coetir llydanddail, llethrau llawn rhedyn a phlanigfeydd conifferau. Fe’i dynodwyd yn Safle Pwysig ar gyfer Cadwraeth Natur, a bu’r safle’n elwa o reolaeth wedi’i thargedu ar gyfer y rhedyn yn ystod y prosiect, er mwyn helpu i wella strwythur y cynefin a chynnal bioamrywiaeth yr ucheldir.

Bracken Cwmparc 1 Bracken Cwmparc 1

Man Gwyllt Cymunedol Hendre Mynydd

Mae Man Gwyllt Cymunedol Hendre Mynydd i’r gogledd o Flaenrhondda, yn ymyl Ardal Rheoli Cynefin Pen y Cymoedd ac â chysylltiad uniongyrchol â CWS Blaenrhondda a maes parcio Hendre Mynydd. Mae’r safle’n cynnwys ardaloedd helaeth o rostir, glaswelltir uchel a sgri creigiog, ac mae Nant Garreg-lwyd yn rhedeg trwy’r canol. Dynodwyd y CWS yn Safle Pwysig ar gyfer Cadwraeth Natur (SINC), ac mae’n gynefin ucheldir gwerthfawr gyda chysylltedd cryf ar draws y tirlun mawndir ehangach.

Sunset Castell Nos Sunset Castell Nos