Debyd Uniongyrchol
Mae dros 55% o'n cwsmeriaid yn talu eu Treth y Cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol. Debyd uniongyrchol yw'r dull hawsaf a mwyaf cyfleus o dalu, gyda dewis o ddyddiadau talu: y 1af, 16eg neu'r 28ain o bob mis. Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i greu debyd uniongyrchol i dalu eich treth y cyngor.
Os ydych wedi derbyn Nodyn Atgoffa, Hysbysiad Terfynol, Gwŷs neu unrhyw gamau gorfodi eraill NI ddylech lenwi'r ffurflen Debyd Uniongyrchol ar-lein ond cysylltwch ag adran Treth y Cyngor ar 01639 686188 (opsiwn 3) yn ddi-oed.
Taliad Ar-lein
Mae talu ar-lein yn hawdd ac yn ddiogel a gellir ei wneud trwy'ch cerdyn Debyd. Cofiwch gael eich bil wrth law oherwydd bydd angen eich cyfeirnod arnoch chi.
Ffyrdd eraill i dalu eich Treth y Cyngor
Ffôn
Defnyddiwch ein rhif llinell dalu 24 awr 0161 622 6919. Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnom
- Eich Cyfeirnod Treth y Cyngor sydd i'w weld ar eich bil
- Manylion eich cerdyn debyd
Yn bersonol
Gellir cymryd taliadau dros y cownter yn y lleoliadau canlynol (dydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 12:00 a 1:00pm i 3.15pm)
- Swyddfa arian parod, Canolfan Ddinesig, Castell-nedd;
- Swyddfa arian parod, Canolfan Ddinesig, Port Talbot;
Rydym yn derbyn arian parod, sieciau, cardiau debyd a chredyd sglodyn a rhif adnabod fel dulliau talu.
Swyddfa Bost
Gallwch dalu yn unrhyw Swyddfa'r Post. Dim ond swm llawn y rhandaliad sy'n ddyledus y gallwch ei dalu. Rhaid i chi fynd â'ch bil Treth y Cyngor gyda chi bob tro y gwnewch daliad. Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd eich taliad yn cyrraedd eich cyfrif am ychydig ddyddiau.
Taliadau Siec
Dylech bostio taliadau siec i'r Swyddfa Arian Parod, Canolfan Ddinesig, Castell-nedd SA11 3QZ. Gwnewch sieciau'n daladwy i CBS Castell-nedd Port Talbot a sicrhewch eich bod yn nodi eich cyfeirnod treth y cyngor a'ch enw a'ch cyfeiriad ar gefn eich siec.