Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Amodau A Thelerau Defnyddior Wefan

Telerau ac Amodau'r Wefan

Cyffredinol 

Mae gwefan Castell-nedd Port Talbot Ar-lein yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn cael ei gynnal ar gyfer eich defnydd personol a'ch gwylio.

Mae'r mynediad a defnydd o Gastell-nedd Port Talbot Ar-lein sy'n cynnwys y telerau ac amodau yn golygu eich bod yn derbyn (Y Defnyddiwr) yr amodau a'r telerau hyn, sy'n dod i rhym o'r dyddiad y byddwch yn defnyddio'r Wefan hon gyntaf. Rydym yn cadw'r hawl i ddiwygio'r telerau a'r amodau hyn ar unrhyw adeg heb rhybudd. Os bydd adolygiad yn digwydd, bydd y telerau ac amodau diwygiedig yn cael eu harddangos ar y tudalennau hyn a bydd y defnydd parhaus o Gastell-nedd Port Talbot Ar-lein ar ôl gwneud y fath ddiwygiad yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau diwygiedig.

Yn unol â Safonau Iaith Gymraeg a ddaeth i rhym ar 1 Ebrill 2016, mae'r holl gynnwys yr ydym yn uniongyrchol gyfrifol amdano yn cael ei chyhoeddi'n ddwyieithog. Cyfrifoldeb y safleoedd allanol y byddwn yn cysylltu â hwy i gydymffurfio â'u Cynllun Iaith Gymraeg eu hunain, os oes cynllun o'r fath yn bodoli, neu gyda Safonau’r Iaith Gymraeg.

Ymwelwyr â'n gwefannau

Pan fydd rhywun yn ymweld ag www.npt.gov.uk neu un o'n safleoedd partner, caiff cofnod ei gadw'n awtomatig lle y gellir ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth a manylion am patrymau ymddygiad ein ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn i gael gwybod pethau fel nifer yr ymwelwyr i wahanol rhannau o'r safle. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon mewn ffordd nad yw'n adnabod unrhyw un. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymdrech i gael gwybod pwy yw unrhyw un sy'n ymweld â'n gwefannau. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gesglir o'r wefan hon gydag unrhyw wybodaeth adnabod bersonol o unrhyw ffynhonnell arall. Os ydym am gasglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy trwy ein gwefan, byddwn yn gonest ynglŷn â hyn. Byddwn yn ei gwneud hi'n glir wrth i ni gasglu gwybodaeth bersonol a bydd yn egluro'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud.

Lle rydym wedi ymgorffori swyddogaethau o sefydliadau eraill i mewn i'n gwefan, er enghraifft, o SOCITM, Google neu Facebook, mae prosesu a storio gwybodaeth sydd yn ymwneud â'ch ymweliad yn digwydd ar eu gweinyddion hwy, ac nid ein un ni. Er enghraifft, os ydych chi'n defnyddio'r botwm "fel" Facebook, neu ddefnyddio'r cyfleuster "Comment" Facebook, mae cofnod o'r wybodaeth hon yn cael ei chadw gan Facebook, ac nid gan CNPT.

Defnyddio Cwcis

Beth yw cwci?

Mae cwcis yn ffeiliau testun sy'n cynnwys symiau bach o wybodaeth sy'n cael eu lawrlwytho i'ch dyfais pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Yna caiff y cwcis eu hanfon yn ôl i'r wefan wreiddiol ar bob ymweliad dilynol, neu i wefan arall sy'n cydnabod y cwci hwnnw. Mae cwcis yn ddefnyddiol gan eu bod yn caniatáu i wefan i adnabod ddyfais defnyddiwr.

Gallwch ddod o hyd i rhagor o wybodaeth am gwcis yn:

Mae cwcis yn gwneud llawer o swyddi gwahanol, fel gadael i chi lywio rhwng y tudalennau yn effeithlon, gan gofio eich dewisiadau, ac yn gyffredinol yn gwella profiad y defnyddiwr. Gallant hefyd helpu i sicrhau bod hysbysebion a welwch ar-lein yn fwy perthnasol i chi a'ch diddordebau.

Gallwch ddileu a blocio pob cwci o'r wefan hon, ond ni fydd rhannau o'r wefan yn gweithio.

Mae'r mwyafrif o borwyr y we yn rhoi rhywfaint o rheolaeth i mwyafrif o'r cwcis  drwy'r gosodiadau'r porwr.

Cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan

Name Category Domain Source Details More info
CookieControl Cwcis Angenrheidiol .www.npt.gov.uk Civic This cookie is set in order to remember the user's preferences in regards to cookies. www.civicuk.com/cookie-control/v8/documentation
ASP.NET_SessionId Cwcis Angenrheidiol .www.npt.gov.uk NPT Set automatically by the software that drives our website, this cookie is essential to the correct working of our website as you browse from page to page, and will expire when your visit is over. social.technet.microsoft.com/wiki/contents/articles/19364.asp-net-web-applications-how-to-avoid-session-hijacking.aspx
__RequestVerificationToken Cwcis Angenrheidiol .www.npt.gov.uk NPT Set automatically by the software that drives our website, this cookie is essential to the correct working of our website as you browse from page to page, and will expire when your visit is over.  
yourAuthCookie Cwcis Angenrheidiol .www.npt.gov.uk NPT Set when you log in to password protected areas of the site.  
ORA_WWV_APP_XXX Cwcis Angenrheidiol appsportal2.npt.gov.uk NPT Security cookie for applications where XXX is a numeric reference for NPT to distinguish services.  
nptLang Dewisiadau .npt.gov.uk NPT NPT uses this to store your language setting.  
nptSitesQSLang Dewisiadau .www.npt.gov.uk NPT Used to store the user's language choice  
__cfduid Dadansoddiad .crazyegg.com Cloudflare Used to identify individual clients (anonymously) behind a shared IP address and apply security settings on a per-client basis. Helps Cloudflare detect malicious visitors to our Customers’ websites and minimizes blocking legitimate users. It may be placed on the devices of our customers' End Users to identify individual clients behind a shared IP address and apply security settings on a per-client basis. It is necessary for supporting Cloudflare's security features. support.cloudflare.com/hc/en-us/articles/200170156-Understanding-the-Cloudflare-Cookies
_ceir Dadansoddiad .npt.gov.uk Crazy Egg Track whether a visitor has visited the site before www.crazyegg.com/cookies
_cer.s Dadansoddiad .npt.gov.uk Crazy Egg Visitor activity recording session unique ID, tracking host and start time www.crazyegg.com/cookies
_cer.v Dadansoddiad .npt.gov.uk Crazy Egg Visitor activity recording unique ID, visit time and visit count www.crazyegg.com/cookies
fr Cyfryngau Cymdeithasol .facebook.com Facebook User and browser ID; timestamp; miscellaneous other data. Facebook's primary advertising cookie, used to deliver, measure and improve the relevancy of ads. www.facebook.com/policy/cookies
1P_JAR Dadansoddiad .google.com Google These cookies are used to gather website statistics and track conversion rates.  
ANID Dadansoddiad, Cyfryngau Cymdeithasol .google.com Google The NID cookie contains a unique ID Google uses to remember your preferences and other information, such as your preferred language (e.g. English), how many search results you wish to have shown per page (e.g. 10 or 20), and whether or not you wish to have Google’s SafeSearch filter turned on. policies.google.com/technologies/types?hl=en-GB
CONSENT Dadansoddiad, Cyfryngau Cymdeithasol .google.com Google Stores the user’s cookie consent state for the current domain.  
NID Dadansoddiad, Cyfryngau Cymdeithasol .google.com Google The NID cookie contains a unique ID Google uses to remember your preferences and other information, such as your preferred language (e.g. English), how many search results you wish to have shown per page (e.g. 10 or 20), and whether or not you wish to have Google’s SafeSearch filter turned on. policies.google.com/technologies/types?hl=en-GB
_ga Dadansoddiad .npt.gov.uk, .objective.co.uk Google Analytics Used to distinguish users. developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage
_gali Dadansoddiad .npt.gov.uk, .objective.co.uk Google Analytics Used by Google Analytics to determine which links on a page that are being clicked. developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage
_gat Dadansoddiad .npt.gov.uk, .objective.co.uk Google Analytics Used to throttle request rate. If Google Analytics is deployed via Google Tag Manager, this cookie will be named _dc_gtm_. developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage
_gid Dadansoddiad .npt.gov.uk, .objective.co.uk Google Analytics Used to distinguish users. developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage
_hjid Dadansoddiad .npt.gov.uk HotJar This cookie is set when the customer first lands on a page with the Hotjar script. It is used to persist the Hotjar User ID, unique to that site on the browser. help.hotjar.com/hc/en-us/articles/115011789248-Hotjar-Cookies
_hjIncludedInSample Dadansoddiad .npt.gov.uk, .appsportal2.npt.gov.uk HotJar web analytics functionality and services from Hot Jar help.hotjar.com/hc/en-us/articles/115011789248-Hotjar-Cookies
JSESSIONID Cwcis Angenrheidiol .nr-data.net, ip.e-paycapita.com NPT a cookie generated by Servlet containers like Tomcat or Jetty and used for session management in J2EE web application for HTTP protocol. javarevisited.blogspot.com/2012/08/what-is-jsessionid-in-j2ee-web.html
ORA_WWV_APP_323 Cwcis Angenrheidiol appsportal2.npt.gov.uk NPT Oracle Application Express session cookie values  
SF_USERS Cwcis Angenrheidiol appsportal2.npt.gov.uk NPT Oracle Application Express session cookie values  
lang Cyfryngau Cymdeithasol cdn.syndication.twimg.com Twitter Helps us to determine the language settings of the user’s browser, to better serve relevant information in the right language.  
player Cyfryngau Cymdeithasol .vimeo.com Vimeo We use Vimeo to embed videos onto our website. These cookies are used by Vimeo to collect analytics tracking information. vimeo.com/cookie_policy
vuid Cyfryngau Cymdeithasol .vimeo.com Vimeo Vimeo Analytics unique id. We use Vimeo to embed videos onto our website. These cookies are used by Vimeo to collect analytics tracking information. vimeo.com/cookie_policy
GPS Cyfryngau Cymdeithasol .youtube.com Youtube / Google Registers a unique ID on mobile devices to enable tracking based on geographical GPS location. policies.google.com/privacy
IDE Cyfryngau Cymdeithasol .doubleclick.com Youtube / Google One of the main advertising cookies on non-Google sites is named ‘IDE‘ and is stored in browsers under the domain doubleclick.net. policies.google.com/technologies/types?hl=en-US
PREF Cyfryngau Cymdeithasol .youtube.com Youtube / Google Registers a unique ID that is used by Google to keep statistics of how the visitor uses YouTube videos across different websites. support.google.com/youtube/answer/171780?hl=en-GB
developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage?hl=en-GB
VISITOR_INFO1_LIVE Cyfryngau Cymdeithasol .youtube.com Youtube / Google Tries to estimate the users' bandwidth on pages with integrated YouTube videos. support.google.com/youtube/answer/171780?hl=en-GB
YSC Cyfryngau Cymdeithasol .youtube.com Youtube / Google Registers a unique ID to keep statistics of what videos from YouTube the user has seen. support.google.com/youtube/answer/171780?hl=en-GB

Rydym yn defnyddio Google Analytics a Crazy Egg i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio'r safle hwn. Rydym yn gwneud hyn i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ei ddefnyddwyr ac i ddeall sut y gallem ei wneud yn well. Mae Google Analytics yn cadw gwybodaeth am ba dudalennau rhydych chi'n ymweld â nhw, pa mor hir rhydych chi ar y safle, sut y gwnaethoch chi gyrraedd yma a beth rhydych chi'n ei glicio arno. Ni ellir defnyddio'r wybodaeth hon i'ch adnabod chi ac nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio ein data dadansoddol. Mae Crazy Egg yn cadw gwybodaeth am ble rhydych chi'n clicio o fewn tudalen. Unwaith eto, ni ellir defnyddio'r wybodaeth i'ch adnabod ac nid ydym yn ei rhannu ag unrhyw un arall.

I ddewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.

Ymwadiad 

Darperir gwefan Neath Port Talbot Ar-lein a deunyddiau sy'n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) 'fel y mae' heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb gwarant o unrhyw fath boed yn fynegi neu'n ymhlyg, gan gynnwys gwarantau awgrymedig o ansawdd boddhaol, ffitrwydd at ddiben penodol, di-dor, cydnawsedd, diogelwch a chywirdeb, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.    Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd a gynhwysir yn y wefan hon yn ddi-dor neu'n ddiwalla, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan hon neu'r gweinydd sy'n ei gwneud ar gael yn rhydd o firysau neu'n cynrychioli swyddogaeth lawn, cywirdeb , dibynadwyedd y deunyddiau. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod mewn unrhyw ddigwyddiad, gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlynol, neu unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i ddefnydd neu golli defnydd o ddata, neu elw, sy'n deillio o gysylltiad neu mewn cysylltiad gyda'r defnydd o Wefan Castell-nedd Port Talbot Ar-lein.

Cysylltiadau â Gwefannau Eraill

Mewn hwylustod i chi,  mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cysylltiadau hyperdestun o'r Wefan hon i Wefannau eraill a weithredir gan endidau eraill yn berthnasol ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol.

Os byddwch chi'n mynd i mewn i unrhyw un o'r Gwefannau cysylltiedig hyn, byddwch yn gadael Gwefan Castell-nedd Port Talbot Ar-lein a byddwch yn gwneud hynny ar eich pen eich hun: eich bod chi yn cymryd unrhyw fesurau angenrheidiol i warchod rhag firysau a / neu gyrff dinistriol / llygredig.

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw gynnwys y Gwefannau cysylltiedig hyn na dibynadwyedd unrhyw wybodaeth a ddarperir ynddynt ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd o gwbl (boed yn gyfreithiol neu'n wahanol) am unrhyw golledion neu iawndal gan gynnwys, heb gyfyngiad, colledion neu iawndal anuniongyrchol na chanlyniadol , sy'n deillio o neu yn gysylltiedig â defnyddio unrhyw un o'r Gwefannau cysylltiedig hyn.

Ni ddylai cynnwys hypergysylltiadau i Wefannau eraill gael eu cymryd, mewn unrhyw ffordd, i fod yn gymeradwyaeth i unrhyw fath o'r Gwefannau hyn gennym ni ein hunain.

Amddiffyn rhag firws

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ym mhob cyfnod cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi rhedeg rhaglen gwrthfeirws ar bob deunydd a ddadlwythir o'r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd tra'n defnyddio deunydd sy'n deillio o'r Wefan hon.

Hawlfraint 

Mae'r deunyddiau a welir ar y wefan hon, gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw destun, logo, eiconau, ffotograffau a gwaith celf arall yn ddeunyddiau hawlfraint i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot oni nodir yn wahanol. Gellir defnyddio'r deunydd hwn ddiogelir hawlfraint heb ein caniatâd ar yr amod nad yw'n cael ei atgynhyrchu, ei addasu neu ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw elw ariannol. Gall defnydd masnachol o ddeunydd hawlfraint a ddiogelir hwn ond yn cael ei wneud gyda'n caniatâd ysgrifenedig penodol.

Nid yw'r caniatâd i ddefnyddio deunyddiau hawlfraint ar y Wefan hon yn ymestyn i unrhyw ddeunyddiau a ddynodir fel hawlfraint unrhyw drydydd parti: rhaid cael caniatâd i ddefnyddio deunyddiau sy'n hawlfraint trydydd parti gan y trydydd parti hynny eu hunain.

Dylid cyfeirio ceisiadau i ddefnyddio unrhyw ddeunydd hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i Gyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ.

Ansawdd Data

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ymroddedig i ddarparu safon uchel o ansawdd yn y wybodaeth a ddarperir ar y Wefan hon a gwneir pob ymdrech wedi'i wneud i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir ac yn gyfredol. Os ydych yn credu bod unrhyw wallau neu hen wybodaeth ar y wefan hon, cysylltwch â'r Gwefeistr drwy E-bost i webmaster@npt.gov.uk.

Awdurdodaeth Gyfreithiol

Bydd y Telerau ac Amodau hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Cydnabyddiaeth Hawlfraint

Mae deunyddiau penodol a gyhoeddwyd ar y dudalen hon wedi'u tynnu oddi ar Wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn ddeunyddiau a ddiogelir gan Hawlfraint y Goron.