Datganiad I'r Wasg
Castle Drive, Cimla – diweddariad am ailadeiladu’r cwlfert
This article is more than 5 months old
01 Rhagfyr 2021
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau cyllid o £100,000 gan Lywodraeth Cymru i gynllunio cwlfert hanfodol newydd i gymryd lle’r hen un yn Castle Drive, Cimla, Castell-nedd, a ddymchwelodd oherwydd glaw trwm iawn ym mis Hydref,
Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dargyfeirio gwasanaethau cyfleustodau hanfodol a effeithiwyd yn andwyol gan y danchwa yn ystod noson Hydref 4, 2021.
Bu’n rhaid cau’r heol ar gyfer cerbydau a cherddwyr am resymau diogelwch ar ôl y danchwa.
Mae’r rhan o’r gerbydffordd islaw’r niwed wedi cael ei thanseilio am fod y bancyn oedd yn ei chynnal wedi cael ei golchi i ffwrdd. Ar ôl gwneud mwy o ymchwiliadau, ailagorwyd y droedffordd i gerddwyr uwchlaw’r digwyddiad, gan alluogi i ddisgyblion ddefnyddio cyswllt hanfodol i gael mynediad i Ysgol Fabanod Crynallt.
Bydd Adran Beirianneg y cyngor bellach yn defnyddio’r arian i ymgymryd â chynllunio cwlfert newydd, mwy o faint, a rhagwelir y bydd y gwaith corfforol ar y cynllun yn dechrau yn y gwanwyn, yn amodol ar dderbyn mwy o arian ar gyfer elfennau eraill o’r prosiect, a chwblhau’r gwaith cynllunio, proses dendro ar gyfer contractwyr, ynghyd â dargyfeirio gwasanaethau cyfleustodau.
Yn ôl y Cynghorydd Mike Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun a Pheirianneg: “ Rydyn ni’n ddiolchgar am y cyllid sy’n golygu y gallwn bellach ddechrau paratoi i atgyweirio’r niwed a achoswyd ar noson pan oedd y gwasanaethau brys ledled de Cymru dan eu sang gan alwadau am help oherwydd bod cymaint o lifogydd.
“Fe wnaeth y glaw trwm a pharhaus olchi ymaith fancyn oedd yn golygu fod yn rhaid cau’r heol er budd diogelwch y cyhoedd, a byddwn ni nawr yn gwneud ein gorau i ailsefydlu’r isadeiledd a niweidiwyd yn Castle Drive, gan adfer y tramwy i drafnidiaeth cyn gynted fyth ag y gallwn.
“Hoffem ddiolch i breswylwyr lleol am eu hamynedd o ganlyniad i’r anhrefn a achoswyd gan y danchwa. Bydd y gwaith adfer yn brosiect peirianneg o bwys, ond bydd y canlyniadau’n wydn ac yn hirhoedlog.”