Datganiad I'r Wasg
Etholiad lleol i'w aildrefnu oherwydd marwolaeth ymgeisydd
25 Ebrill 2022
Bydd yr etholiad ar gyfer ward etholiadol Port Talbot Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ddydd Iau 5 Mai, 2022, yn cael ei aildrefnu yn dilyn marwolaeth drist yr ymgeisydd annibynnol Andrew Tutton. Caiff yr holl etholiadau arall eu cynnal ddydd Iau 5 Mai 2022 yn ôl y bwriad.
Meddai Karen Jones, Swyddog Canlyniadau Castell-nedd Port Talbot, "Anfonwn ein cydymdeimladau dwysaf at deulu Andrew ar yr amser trist hwn. Yn gyfreithiol, mae'n rhaid i ni ohirio'r etholiad yn ward etholiadol Port Talbot. Rwyf eisoes wedi cysylltu â'r ymgeiswyr eraill a byddaf yn ysgrifennu at yr holl etholwyr yr effeithir arnynt."
Pennwyd dyddiad newydd ar gyfer yr etholiad i ward etholiadol Port Talbot sef dydd Iau 23 Mehefin 2022 ac anfonir cardiau pleidleisio newydd at yr holl etholwyr yr effeithir arnynt. Byddant yn dweud wrth bleidleiswyr sut i drefnu pleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy os na allant gyrraedd gorsaf bleidleisio ar y dyddiad newydd.
Ni fydd unrhyw bleidleisiau drwy'r post a ddychwelwyd eisoes ar gyfer ward etholiadol Port Talbot yn cyfrif mwyach. Anfonir pleidlais drwy'r post newydd at unrhyw bleidleiswyr drwy'r post yr effeithir arnynt. Bydd y papurau pleidleisio newydd yn lelog i helpu pleidleiswyr i sicrhau eu bod yn dychwelyd yr un cywir.
Bydd enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr yn ailagor am gyfnod penodol rhwng dydd Mercher 18 Mai a 4pm ddydd Mercher 25 Mai, 2022. Bydd yr holl ymgeiswyr blaenorol eraill yn parhau wedi'u henwebu'n ddilys a chânt eu cynnwys ar y papur pleidleisio.