Datganiad I'r Wasg
Mwy na hanner miliwn o bunnau o gyllid ar gael i sefydliadau'r Trydydd Sector yng Nghastell-nedd Port Talbot
05 Awst 2022
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi clustnodi mwy na hanner miliwn o bunnau ar gyfer ei Gynllun Cyllid Grant Trydydd Sector yn 2023-24.
Mae'r cynllun ar agor i geisiadau gan sefydliadau yn y Trydydd Sector sy'n gweithredu yn y fwrdeistref sirol, y cyfeirir atynt yn aml fel sefydliadau'r sector gwirfoddol, sefydliadau anllywodraethol neu sefydliadau nid-er-elw.
Gall grwpiau gwirfoddol, sefydliadau cymunedol a mentrau cymdeithasol newydd, a rhai sy'n datblygu ac sydd wedi ennill eu plwyf, wneud cais o ddydd Llun 8 Awst ymlaen.
Mae tri chategori ar gael – cymorth ar gyfer cyllid craidd gwerth mwy na £1,000, cymorth ar gyfer gweithgareddau gwerth llai na £1,000 a chymorth gwerth £1,000 neu fwy ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chostau heblaw cyllid craidd, fel prosiectau. Daw'r cyfnod gwneud cais i ben ddydd Gwener 14 Hydref 2022.
Dywedodd y Cynghorydd Simon Knoyle, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae perthynas hir a chynhyrchiol rhwng y cyngor a'r Trydydd Sector ac rydym yn cydnabod gwerth cyfraniad gwirfoddolwyr a sefydliadau'r Trydydd Sector at gefnogi llesiant pobl a chymunedau lleol.
“Sicrhau bod ein holl gymunedau'n ffynnu ac yn gynaliadwy yw un o'r amcanion yn ein Cynllun Corfforaethol – Adfer, Ailosod, Adnewyddu. Bydd mentrau fel ein Cynllun Cyllid Grant Trydydd Sector a gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Gwirfoddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot er mwyn annog sefydliadau cymunedol a gwirfoddol a'u datblygu ymhellach yn ein helpu i gyflawni hyn.”
Yn y cylch cyllido hwn, bydd cronfa grant y cyngor yn canolbwyntio'n benodol ar weithgareddau sy'n dangos:
- Sut y bydd y gweithgareddau arfaethedig yn helpu i gyflawni polisïau a blaenoriaethau'r cyngor. Caiff y rhain eu crynhoi yng nghynllun corfforaethol y cyngor ar gyfer 2022-2027
- Sut y bydd y gweithgareddau arfaethedig yn lleihau'r galw ar wasanaethau'r cyngor
- Sut y caiff cyllid y cyngor ei ddefnyddio er mwyn helpu i sicrhau adnoddau ychwanegol i gefnogi polisïau a blaenoriaethau'r cyngor – croesewir hyn yn arbennig
- Cynaliadwyedd ariannol – bydd y cyngor am gael ei fodloni nad yw'r ymgeisydd yn ddibynnol ar gyllid parhaus gan y cyngor i sicrhau cynaliadwyedd ariannol
- Ffocws ar weithgareddau a fydd yn helpu cymdeithasau / grwpiau cymunedol i adfer ar ôl y pandemig
- Meithrin gallu / cydweithio ymhellach yn y gymuned – adeiladu ar y gweithredu cymunedol a gefnogodd yr ymateb i bandemig COVID-19
Gall ymgeiswyr wneud cais ar-lein yn www.npt.gov.uk/grantiaurtrydyddsector. Fel arall, gellir lawrlwytho ffurflenni cais o'r un dudalen we neu gael copïau papur drwy ffonio (01639) 686567 neu e-bostio thirdsectorgrants@npt.gov.uk.