Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Arbenigwr yn cynghori y gallai amgueddfa lofaol a gaewyd gael dyfodol disglair os oes cyllid ar gael

22 Tachwedd 2022

Mae arbenigwr ar amgueddfeydd a diwylliant wedi argymell y dylai Cyngor Castell-nedd Port Talbot gadw Amgueddfa Lofaol Cefn Coed a’i throi’n atyniad i ymwelwyr ac yn borth i’r ardal leol fel rhan o’r strategaeth dreftadaeth y mae wrthi’n datblygu.

Arbenigwr yn cynghori y gallai amgueddfa lofaol a gaewyd gael dyfodol disglair os oes cyllid ar gael

Mae’r Amgueddfa, cer y Creunant yng Nghwm Dulais, ar gau ar hyn o bryd, o ganlyniad i broblemau iechyd a diogelwch fyddai’n galw am wneud gwaith adeiladu adferol sy’n werth dros filiwn o bunnoedd.

Penodwyd yr ymgynghorydd amgueddfeydd a diwylliant Chris Delaney, o Chris Delaney and Associates, i edrych ar ddewisiadau ar gyfer dyfodol yr amgueddfa, a oedd, yn 1930, yn lleoliad pwll glo caled dyfnaf y byd.

Llywodraeth Cymru sydd biau’r tir ar safle’r amgueddfa, ond mae’r cyngor yn llogi’r adeiladau a’r maes parcio ar les 100 mlynedd a ddechreuodd yn y 1980au.

Yn ei adroddiad, amlinellodd Mr Delaney dri dewis ar gyfer yr amgueddfa:

·        Dewis A – Defnyddio holl safle’r cyn waith glo, gan gynnwys adeiladau’r amgueddfa, ar gyfer defnydd nad yw’n ymwneud â threftadaeth, megis siopa neu dai, gyda’r offer weindio ar frig y pwll, sydd wedi’i restru, yn darparu ‘wow-ffactor’.

·        Dewis B – Defnyddio’r safle fel cyfleuster treftadaeth, ond gyda sawl is-ddewis, gan amrywio o wneud buddsoddiad a defnydd bychan iawn drwodd i gael buddsoddiad mawr i greu atyniad a chyrchfan o bwys i ymwelwyr.

·        Dewis C – trafod ildio’r les yn ffafriol, mynd â’r casgliadau oddi yno i’w storio a gadael i Lywodraeth Cymru / Cadw benderfynu ar ddyfodol y safle.

Yn ôl Mr Delaney, sy’n ffafrio dewis B: “Mae Glofa Cefn Coed yn oroeswr o bwys o oes y diwydiant glo yng Nghymru, ac mae’n deilwng o gael ei chadw. Dyma un o blith grŵp bychan, ymysg y cannoedd o byllau glo yng Nghymru, sydd wedi goroesi fel cofadeiliau unigryw i’r diwydiant, ac sy’n hygyrch heddiw ar ffurf amgueddfeydd.”Ychwanegodd y gallai’r amgueddfa, yn ogystal â chael ei hadfer fel atyniad i ymwelwyr, ddod yn borth lleol i hamdden, llesiant a dysgu ac y gallai, yn ogystal ag adrodd stori glo yng Nghwm Dulais, ganolbwyntio ar ddiwydiannau lleol hanesyddol eraill, ac archwilio’u heffaith amgylcheddol a chymdeithasol.

Yn ei adroddiad, dywedodd Mr Delaney y byddai mabwysiadu Dewis B yn dod yn sail i Strategaeth Dreftadaeth newydd Castell-nedd Port Talbot, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd gan yr ymgynghorwyr celfyddydau Counterculture.

Cynghorodd y gallai’r amgueddfa fod yn deilwng o dderbyn grantiau, am y gallai fod yn addas i gael ei achredu, y gellid eu defnyddio helpu i ddatblygu’r amgueddfa.

A rhagwelodd – pe bai arian grant digonol ar gael – y gellid gweld twf posib mewn niferoedd blynyddol o ymwelwyr o 8,432 i 37,870 ar ôl pum mlynedd.

Trafodir yr adroddiad gan Fwrdd Cabinet Addysg, Sgiliau a Llesiant y cyngor ar 24 Tachwedd.

 

Rhannwch hyn ar:
Tanysgrifio i’n cylchlythyr

* Datganiad Preifatrwydd – Newyddion CNPT