Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cyhoeddi cynnig gweddnewidiol ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd

23 Tachwedd 2022

Heddiw (23 Tachwedd 2022), cyhoeddodd consortiwm cyhoeddus-breifat eu cynnig gweddnewidiol ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd, a fydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru. Disgwylir i’r cynnig greu dros 16,000 o swyddi newydd a chynhyrchu hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.

Cyhoeddi cynnig gweddnewidiol ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd

Gerbron cynulleidfa fawr dan gadeiryddiaeth newyddiadurwr darlledu adnabyddus y BBC, Sarah Dickins, a’r noson cyn i’r cyfnod cynnig ar gyfer porthladd rhydd gau, cyhoeddodd tîm y cynnig eu gweledigaeth i greu coridor buddsoddi gwyrdd gydag ymrwymiadau tymor hir ynglŷn ag uwchraddiadau mawr i’r seilwaith porthladd, datblygu sgiliau ac arloesedd, bob un wedi’u gwreiddio mewn egwyddorion gwaith teg ac ymgysylltiad parhaus ag undebau llafur. 

Mae’r cynnig gweddnewidiol yn cynnwys porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot ac yn rhychwantu datblygiadau ynni glân ac asedau arloesi, terfynellau tanwydd, gorsaf bŵer, peirianneg drom a’r diwydiant dur ledled de-orllewin Cymru.

Mae consortiwm cynnig y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cynnwys Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP), Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau.

Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cyflymu mewnfuddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu newydd i gefnogi’r broses o gyflwyno ynni gwynt alltraeth arnofiol (FLOW) o’r Môr Celtaidd, ar yr un pryd â darparu’r sylfaen ar gyfer dyfodol glanach wedi’i seilio ar yr economi hydrogen, tanwyddau cynaliadwy, dal carbon, dur glanach a logisteg carbon isel.  

Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys agenda sgiliau uchelgeisiol a fydd yn manteisio ar sylfaen sgiliau, asedau diwydiannol a darparwyr addysg heddiw ar gyfer swyddi yfory trwy raglenni sgiliau gwyrdd penodol.

Roedd y digwyddiad lansio’n cynnwys cyflwyniad ar y cyd gyda fideo lansio a sesiwn holi ac ateb gan y tîm craidd sy’n gyfrifol am y cynnig: Andrew Harston, Cyfarwyddwr Cymru a Phorthladdoedd Bychain, Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP); Karen Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Will Bramble CBE, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Sir Penfro; a Tom Sawyer, Prif Swyddog Gweithredol, Porthladd Aberdaugleddau. Roedd Roger Maggs MBE, sef buddsoddwr technoleg sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang, gweithiwr proffesiynol llwyddiannus yn y sector mwyngloddio a mwynau a Chadeirydd y Porthladd Rhydd Celtaidd, wedi rhoi cyflwyniad i’r rhai a oedd yn bresennol hefyd.

Yfory (24 Tachwedd 2022), bydd Consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cyflwyno eu cynnig gweddnewidiol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i’w asesu. Os caiff ei ddewis, bydd y cynnig llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi yn ystod chwarter cyntaf 2023.

Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn ysgogi buddsoddiad rhyngwladol sylweddol mewn diwydiannau gwyrddach yfory. Ni all Cymru ddatgarboneiddio oni bai bod de-orllewin Cymru yn dod o hyd i lwybr tuag at sero net. Bydd ein gweledigaeth yn datblygu dau borthladd ynni gwyrdd newydd ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau i helpu i greu digonedd o bŵer gwyrdd o ynni gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd. Bydd y cam hwn i gyflymu’r economi gwyrdd yn creu miloedd o swyddi o ansawdd uchel, ar yr un pryd â rhoi hwb mawr i gynhyrchu dur glanach a chynhyrchu hydrogen,” Roger Maggs MBE, Cadeirydd consortiwm cynnig y Porthladd Rhydd Celtaidd.

Rydym yn gyffrous i fod yn ffurfio partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau ar y cynnig hwn, a fydd yn gweddnewid economi Cymru. Bydd hefyd yn allweddol wrth i ni weithio tuag at sero net, yn sgil buddsoddiadau sylweddol mewn asedau ynni glân, gan gynnwys ynni gwynt alltraeth arnofiol (FLOW). Mae Port Talbot yn lleoliad delfrydol ar gyfer defnyddio FLOW, ac mae ABP yn barod i fuddsoddi dros £500m mewn seilwaith newydd ac wedi’i uwchraddio i alluogi hyn,” Andrew Harston, Cyfarwyddwr Cymru a Phorthladdoedd Bychain, Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP).

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ar gynnig sydd â photensial enfawr i drawsnewid economi Port Talbot a’r economi ranbarthol a chenedlaethol ehangach. Mae ynni wedi cyflawni swyddogaeth enfawr yma yn hanesyddol. Rydym yn llwyr gefnogi manteisio ar botensial ynni gwyrdd trwy ein hasedau presennol i greu dyfodol cynaliadwy a charbon isel,Karen Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Bydd coridor arloesedd a buddsoddiad gwyrdd y Porthladd Celtaidd yn rhoi arwydd clir i’r gymuned fuddsoddi ryngwladol fod de-orllewin Cymru ar agor ar gyfer busnes a bydd yn gonglfaen allweddol i ddyfodol ynni gwyrdd y wlad. Bydd ein cynlluniau’n creu cyflenwad ynni cenedlaethol mwy diogel ac yn helpu i arallgyfeirio sylfaen ddiwydiannol y rhanbarth wrth i Gymru gyflymu ei thrawsnewidiad i fod yn economi ddatgarboneiddiedig, gyda llawer o gyfleoedd newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” Will Bramble CBE, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Sir Penfro.

Mae manylion ein cynnig ar y cyd yn ysgogi llawer o emosiynau i mi. Mae’n gwneud i mi deimlo’n gyffrous iawn am y cyfleoedd i gynhyrchu cyfoeth y bydd y porthladd rhydd yn eu darparu i fusnesau rhanbarthol, ochr yn ochr â’r dewisiadau gyrfaol sy’n talu’n dda ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n obeithiol ynglŷn â’r effaith weddnewidiol y gall adfywio economaidd ar y lefel hon ei chael ar deuluoedd a chymunedau lleol, ac yn falch y bydd ein dull ar y cyd yn helpu Cymru i gyflawni dyfodol disglair, cynaliadwy yn gyflymach,” Tom Sawyer, Prif Swyddog Gweithredol, Porthladd Aberdaugleddau.

 

Rhannwch hyn ar:
Tanysgrifio i’n cylchlythyr

* Datganiad Preifatrwydd – Newyddion CNPT