Datganiad I'r Wasg
Ysgolion Cwm Tawe – Diweddariad
20 Ionawr 2023
Cynhelir cyfarfod cyhoeddus am 6pm ddydd Llun 30 Ionawr 2023 yn ysgol Gymunedol Cwmtawe.
Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i ofyn cwestiynau i'r Aelodau a thrafod y cynnig i sefydlu ysgol gynradd 3-11 cyfrwng Saesneg newydd i gymryd lle ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'rgraig a Llangiwg.
Bydd cyfarfod ar-lein hefyd yn cael ei gynnal ddydd Mercher 1af Chwefror i'r rhai sydd methu mynychu'n bersonol. Anfonwch e-bost i ssip@npt.gov.uk i ofyn am y ddolen.
Mae'r cyfnod ymgynghori wedi'i ymestyn hyd at ddydd Mawrth 7fed o Chwefror 2023 er mwyn caniatáu i sylwadau ychwanegol gael eu derbyn yn dilyn y cyfarfodydd