Datganiad I'r Wasg
Tirlithriad – Cae Copor, Cwmafan
This article is more than 4 months old
26 Ionawr 2023
Mae timau gofal stryd Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy’n gweithio law yn llaw ag arbenigwyr coed ar safle tirlithriad ar dir preifat y tu ôl i Gae Copor, Cwmafan, Port Talbot.
Digwyddodd y tirlithriad ar dyle wrth ochr heol y B4286 ac mae gwaith torri coed wrthi’n digwydd ar hyn o bryd i sicrhau bod yr ardal yn ddiogel.
Mae’r cyngor yn cydweithio gyda’r tirfeddiannwr.
Bydd gwaith rheoli traffig yn digwydd ar y B4286, a gulhawyd i un lôn am bellter o ryw 250m ar hyd yr heol at y gyffordd â Theras Tabernacle, am ba bynnag hyd y pery’r gwaith brys.
Ond o 7pm nos Iau 26 Ionawr, tan oriau mân ddydd Gwener 27 Ionawr, bydd heol y B4286 ar gau’n llwyr er mwyn gallu symud coed mawr a dorrwyd i lawr.
Gosodwyd gorchymyn trafnidiaeth dros dro am bum niwrnod a bydd y safle’n cael ei asesu ddydd Llun neu Fawrth wythnos nesaf.
Yn ôl llefarydd ar ran y cyngor: “Diolch i breswylwyr sy’n byw ger safle’r tirlithriad am fod yn amyneddgar wrth i ni weithio gyda’r tirfeddiannwr i sicrhau y gellir symud y coed a gafodd eu maglu gan y cwymp oddi ar y safle er lles diogelwch y cyhoedd. Bydd gwaith symud pridd yn digwydd wedyn.”
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu wrth i’r gwaith fynd rhagddo.