Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Datganiad I'r Wasg

Cyllid Llwyddiannus yn Hybu Hygyrchedd ym Mharc Gwledig Margam

14 Mawrth 2023

Mae Cyfeillion Parc Margam wrth eu bodd o dderbyn cyllid fel rhan o Gronfa Fuddion Cymunedol Fferm Wynt Mynydd Brombil i brynu tri sgwter symudedd pob-tirwedd newydd sbon.

O'r chwith: Y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Llesiant, Mrs Sylvia John, Maeres Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Robert William Wood, Maer Castell-nedd Port Talbot, Peter Lindsay, Ymddiriedolwr, Cyfeillion Parc Margam,Tony Barrett, Cadeirydd Cyfeillion Parc Margam, Garry Davies, Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr Parc Gwledig Margam.

Bydd modd i ymwelwyr â Pharc Gwledig Margam logi’r sgwteri symudedd, gan wella hygyrchedd y Parc.

Gobaith y grŵp cyfeillion a’r parc yw y bydd yr ychwanegiadau pob-tirwedd hyn yn annog mwy o ymwelwyr â chyfyngiadau symudedd i ymweld â’r parc. O ganlyniad i ddefnyddio’r rhain, bydd modd i ymwelwyr fwynhau’r dirwedd ddeniadol, y bensaernïaeth ddiddorol a’r holl fywyd gwyllt sydd gan y parc i’w gynnig.

Bu’n nod ers tro gan Gyfeillion Parc Margam i gynorthwyo i wneud y parc yn fwy hygyrch i ymwelwyr a gyfyngir o ran symudedd.

Yn ôl Tony Barrett, Cadeirydd Cyfeillion Parc Margam: “Wedi i ni gynnal gyriant prawf ar dir y parc, roedd hi’n amlwg mai’r sgwter pob tirwedd Pride Ranger oedd y dewis perffaith. Gyda’i grogiant (suspension) blaen ac ôl, brêcs hydrolig deuol, cadair capten cyfforddus, ac offer llywio sy’n hawdd ei ddefnyddio, llwyddodd y sgwter i ymdopi â thirwedd y parc yn ddiogel a chyfforddus.”

Cyflenwyd y sgwteri gan y prif ddarparwr Pride lleol, LTC Mobility yn Llanelli, a byddant yn cyrraedd y parc ceirw 850-erw ddydd Gwener 10 Mawrth.

Gellir archebu’r sgwteri ymlaen llaw drwy e-bostio scooter-hire@friendsofmargampark.co.uk a gellir eu harchebu ar y dydd hefyd (os oes rhai ar gael) yn Nhŷ’r Tyrbin.

Bydd cost llogi o £2 yr awr, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gynnal a chadw’r fflyd, a blaendal y gellir ei ad-dalu o £10 y mae’n rhaid ei dalu wrth fynd â’r sgwter. Pan fydd defnyddiwr yn casglu’r sgwter, bydd aelodau o Gyfeillion Parc Margam yn dangos i ymwelwyr sut mae’r sgwter yn gweithio, er mwyn i’r defnyddiwr gynefino â’r cerbyd cyn ei ddefnyddio.

Meddai’r Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Llesiant: “Dyma ychwanegiad i’r parc gwledig y mae croeso mawr iddo. Bydd cael y sgwteri hyn at ddefnydd pobl â phroblemau symudedd yn helpu i wneud Margam yn hygyrch i bobl na fydden nhw’n gallu ymweld fel arall.”

Mae'r sgwteri ar gael o Fawrth 15, 2023.

Rhannwch hyn ar:
Parc Margam
Tanysgrifio i’n cylchlythyr

* Datganiad Preifatrwydd – Newyddion CNPT